Coetir Cymunedol i gael ei adfer diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol


26 Tachwedd 2020

Bydd coetir sydd wedi cael ei adael i dyfu'n wyllt ar safle dwy gronfa ddŵr yng ngogledd Caerdydd yn cael modd i fyw yn dilyn llwyddiant cais am gyllid i adfywio'r ardal.

Mae coedwig Gwern-y-Bendy a rhan o Rydypennau, sydd o fewn safle cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, wedi llwyddo i ddenu grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a fydd yn helpu i adfer a chyfoethogi'r coetir fel y gall lewyrchu am ddegawdau i ddod.    

Cymerodd Dŵr Cymru feddiant o safle'r gronfa ddŵr yn 2016, ond hyd hynny roedd y goedwig wedi cael ei gadael i dyfu'n wyllt i bob pwrpas. O ganlyniad, mae’r lle'n llawn chwyn ac mae rhywogaethau goresgynnol yn tyfu'n wyllt, ac mae hynny wedi golygu nad oes modd mynd i rannau helaeth o'r goedwig. 

Diolch i fenter Coetiroedd Cymunedol Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, caiff llawer o'r materion hyn eu datrys, a chaiff cynllun rheoli cynaliadwy ei roi ar waith Yno.  Y bwriad yw gwneud hyn oll gyda chymorth y gymuned leol a grŵp 'Cyfeillion' cyntaf Dŵr Cymru.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:  "Treftadaeth ar ei ffurf hynaf yw byd natur, ac mae angen dybryd i ni gynorthwyo'i adferiad. Dyma pam fod ariannu tirweddau a byd natur ymhlith blaenoriaethau ariannu strategol allweddol Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.

"Mae hi'n bwysicach nawr nag erioed ein bod ni'n gofalu am fyd natur ac yn helpu pobl i ddeall ei bwysigrwydd, ac rydyn ni'n hapus dros ben i fod mewn sefyllfa i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau coedwig Gwern-y-Bendy a Rhydypennau trwy ein rhaglen 'Coedwigoedd Cymunedol' mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru."

Bydd y prosiect yn cynorthwyo cynllun rheoli coetiroedd a fydd yn cynnwys clirio’r rhywogaethau goresgynnol o’r safle. Bydd hyn yn ei dro yn caniatáu ar gyfer adfywiad fflora a ffawna, a phlannu coedwrychoedd cysylltiol a fydd yn darparu coridorau ar gyfer bywyd gwyllt.  Caiff ardaloedd mwy sensitif y coetir eu hamddiffyn trwy greu parthau cadwraeth, a bydd parth dysgu'n darparu amwynder addysgol ar gyfer ysgolion lleol, y gymuned ac ymwelwyr.  Bydd y prosiect yn cynnwys adfer pwll pysgod hanesyddol o fewn y coetiroedd er mwyn cyfoethogi ei nodweddion bioamrywiaeth eto fyth. 

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: "Rydyn ni wrth ein bodd y gall y cyllid yma gynorthwyo adferiad ardal werthfawr sydd mor agos at galon y gymuned.  Mae hi'n bwysig i Ddŵr Cymru ein bod ni’n cydweithio â'r gymuned leol, ac yn ogystal â chyflymu'r broses o adfer y coetiroedd, bydd y prosiect yma'n helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y gwirfoddolwyr, ac yn ehangu mynediad i'r cyhoedd yn rhan o ddatblygiad ehangach y safle.”

"Ar ôl ei adfer, bydd y coetir yn darparu mannau gwyrdd hygyrch ar gyfer y gymuned, a bydd yn cyfrannu at y nodau iechyd a llesiant ar gyfer pobl Caerdydd a'r cyffiniau."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Wrth i ni geisio trechu effaith argyfwng yr hinsawdd, a'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth, mae hi'n hanfodol ein bod ni'n helpu cymunedau i greu ac adfer cynefinoedd ar draws Cymru.

"Am hynny, rwy'n hynod o falch fod Dŵr Cymru wedi gallu darparu gweledigaeth newydd i reoli’r coedwigoedd yng Ngwern-y-Bendy a Rhydypennau a fydd yn helpu i'w cynnal at y dyfodol - dyna'n union beth y cafodd ein menter Coetiroedd Cymunedol ei dylunio i'w gwneud, ac rwy'n edrych ymlaen at weld cynlluniau tebyg yn dod i'r fei yn y dyfodol."

Mae Dŵr Cymru wedi rhyddhau ei gynlluniau i ddatblygu hyb i ymwelwyr a gweithgareddau dŵr cysylltiedig ar safle'r cronfeydd.   Yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd y gymuned leol gyfle i gofrestru diddordeb mewn ymuno â Grŵp Cyfeillion ac i weithio gyda Dŵr Cymru i gyd-greu achlysuron gwirfoddoli fel helpu gyda gweithgareddau rheoli cadwraeth er mwyn amddiffyn a gwella ecoleg unigryw'r safle.  Daeth 70 o gofrestriadau i law o fewn cyfnod o 6 wythnos. Mae llawer o'r bobl a gofrestrodd wedi mynegi diddordeb mewn rheoli cadwraeth, ac er nad oes gan lawer ohonynt unrhyw wybodaeth flaenorol, byddent yn hoffi cael cyfle i ddysgu a gofalu am eu milltir sgwâr.  

Bydd y fenter Coetiroedd Cymunedol yn gallu cefnogi'r grŵp 'Cyfeillion' newydd trwy gynnig rhaglen o hyfforddiant dan oruchwyliaeth a fydd yn cyfrannu at adferiad y coetiroedd.  Bydd y rhaglen yn datblygu gallu a dealltwriaeth y gymuned er mwyn iddynt barhau i ofalu am yr ardal mewn ffyrdd sy'n amgylcheddol briodol, a bydd unigolion yn cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd ac i ailgysylltu â phobl eraill a byd natur mewn amgylchedd diogel.

Dylai unrhyw sefydliadau, grwpiau cymunedol neu elusennau sydd am gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd partneriaeth a allai fod ar gael ar y safle gysylltu â Dŵr Cymru yn lisvaneandllanishen@dwrcymru.com