Dŵr Cymru’n rhoi hwb gwerth £6.9 miliwn i gyflenwadau dŵr Siroedd Conwy a Dinbych
27 Awst 2019
Mae pobl sy’n byw ym Modelwyddan, Bae Cinmel ac Abergele ar fin cael hwb i’w system dŵr yfed diolch i brosiect gwerth £6.9 miliwn i uwchraddio’r pibellau dŵr yfed yn yr ardal.
Bydd y cwmni nid-er-elw, Dŵr Cymru, yn mynd ati i osod pibellau dŵr newydd sbon yn lle dros 11km o hen bibellau sy’n dod i ddiwedd eu hoes weithredol. Y bwriad yw gweithio ar bibellau a fydd, o’u rhoi benben, yr un hyd â 112 o gaeau pêl-droed.
Bydd y gwaith yn dechrau yng Nghaeau Chwarae Bodelwyddan cyn symud ymlaen i Fae Cinmel ac Abergele. Disgwylir y bydd wedi’i gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2020.
Mae’r gwaith yn rhan o fuddsoddiad o £6.9 miliwn gan y cwmni yn y rhwydwaith dŵr yfed ledled siroedd Conwy a Dinbych. Mae hyn yn dilyn buddsoddiad o £12.2 miliwn yn y rhwydwaith dŵr yfed mewn rhannau o Sir y Fflint yn 2016/17 a £14.85 miliwn, a gwblhawyd yn gynharach eleni, ar Ynys Môn.
Bydd y gwaith yn cynnwys newid a glanhau darnau o’r pibellau dŵr er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn dal i gael cyflenwad dŵr o’r safon uchaf bob tro yr agorant y tap. Gwneir cryn dipyn o waith ar hyd St Asaph Avenue, Bae Cinmel, gan symud ar hyd y ffordd fesul dipyn bach a defnyddio goleuadau traffig rhag tarfu ar bobl. Yn ogystal, gwneir gwaith ar Ffordd Abergele a Ronaldsway ym Modelwyddan a Choed Celyn yn Abergele.
Cynhelir dwy sesiwn wybodaeth galw-heibio i roi gwybodaeth i gwsmeriaid yr ardal am y gwaith. Bydd y gyntaf yng Nghanolfan Gymunedol Bodelwyddan, 2-6.30pm, ar 27 Awst a bydd yr ail yn Eglwys Bae Cinmel, St Asaph Avenue, 2pm-7pm ar 29 Awst. Byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid sy’n byw ger unrhyw ran o’r ardal weithio cyn i’r gwaith ddechrau yn eu hardal nhw.
Dywedodd Denise Yale, Rheolwr Prosiectau gyda Dŵr Cymru: “Gan fod rhai rhannau o’r rhwydwaith dŵr wedi’u gosod flynyddoedd lawer yn ôl, daeth yn bryd i ni wneud gwaith hanfodol er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn dal i gael cyflenwad dŵr o’r safon uchaf. Mae ein gwaith yma yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau hyn a hoffem ddiolch i bobl am eu cydweithrediad wrth i ni wneud y gwaith.
“Hoffwn annog cwsmeriaid i ddod i un o’n sesiynau gwybodaeth i weld ein cynlluniau ar gyfer y gwaith ac i roi cyfle i’n staff ateb eu cwestiynau.”
Mae Dŵr Cymru’n buddsoddi’n drwm ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r safon uchaf i’r holl gymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae’r cwmni’n buddsoddi £1.7 biliwn yn ei rwydwaith dŵr a charthffosiaeth rhwng 2015 a 2020.