finance icon

Dŵr Cymru i fuddsoddi £2.5 miliwn i uwchraddio rhwydwaith dŵr gwastraff y Barri


22 Ionawr 2019

Bydd Dŵr Cymru'n buddsoddi £2.5 miliwn mewn gwaith i uwchraddio'r system dŵr gwastraff yn Nant Talwg, y Barri, er mwyn helpu i amddiffyn amgylchedd yr ardal am flynyddoedd i ddod.

Mae'r cwmni'n bwriadu gosod pibell newydd sbon o orsaf bwmpio Nant Talwg ar draws tir preifat, i dir y tu ôl i Ffordd Cwm Cidi, Fforest Drive a Lôn Fferm Felin, cyn cysylltu â'r rhwydwaith cyfredol ar Stryd Morgannwg, y Barri.

Bydd y gwaith yn dechrau ar 18 Chwefror, a bydd yn cynnwys disodli rhyw gilomedr o’r bibell dŵr gwastraff sy'n agos iawn at ddiwedd ei hoes weithredol.

Er mwyn osgoi gorfod mynd trwy'r ystâd o dai lle mae'r bibell ar hyn o bryd, mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r awdurdod lleol er mwyn cytuno ar lwybr newydd ar draws eu tir.

Bydd y gwaith yn cynnwys clirio rhai o'r coed er mwyn creu llwybr ar gyfer y bibell newydd trwy'r ardal goediog y tu ôl i Ffordd Cwm Cidi. Bydd y gwaith yma'n dechrau ganol Chwefror er mwyn osgoi tymor nythu'r adar.

Rhagwelir y caiff y gwaith ei gwblhau tua diwedd Awst.

Dywedodd Rheolwr Cyflawni Rhaglenni Dŵr Cymru, Teresa O'Neil "Yn Dŵr Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n darparu system dŵr gwastraff effeithiol sy'n darparu gwasanaeth o'r safon uchaf ar gyfer ein cwsmeriaid ac yn amddiffyn ein hamgylchedd gwerthfawr. Mae ein gwaith yn Nant Talwg yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ail-fuddsoddi elw er budd cwsmeriaid a'r amgylchedd.

“Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gwybod beth rydyn ni'n ei wneud wrth i ni weithio yn eu cymuned bob tro, felly rydyn ni wedi ysgrifennu at drigolion lleol i rannu gwybodaeth am y gwaith â nhw. Byddwn ni'n cynnal sesiwn taro heibio hefyd ar 31 Ionawr 2019 yng Nghlwm Bowlio Millwood. Gall cwsmeriaid alw heibio unrhyw bryd rhwng 2.30pm a 7pm, a bydd ein tîm wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am y gwaith.

“Bydd y gwaith yn cynnwys clirio rhai o'r coed er mwyn sicrhau y gallwn osod y bibell mewn man lle nad oes unrhyw wreiddiau a allai ddifrodi'r bibell yn y dyfodol. Caiff unrhyw gynefinoedd coetir, coedwrych neu laswelltir y mae angen eu clirio eu disodli â rhywogaeth debyg i'r hyn sydd yn yr ardal gyfagos, yn ogystal â rhywogaethau ychwanegol er budd bywyd gwyllt. Byddwn ni'n ailblannu yn hydref 2019 am taw dyna'r amser gorau i blannu.

“Bydd ecolegwyr yn monitro'r gwaith er mwyn sicrhau nad yw’n cael effaith andwyol ar unrhyw rywogaethau a amddiffynnir a geir ar y safle. Fodd bynnag, os ceir hyd i unrhyw rywogaethau a amddiffynnir yn ystod y gwaith, mae hi'n bosibl y bydd angen ymestyn cyfnod y gwaith, ond byddwn ni'n sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael gwybod am unrhyw newidiadau.

“Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod gwaith o'r math yma'n gallu achosi anghyfleustra, ond fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned, a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni gyflawni'r gwaith hanfodol yma."

Dywedodd Melanie Stewart, Gofalwr Safle Parc Gwledig Porthkerry, "Rydyn ni’n cydweithio’n agos â Dŵr Cymru i sicrhau na fydd eu gwaith yn cael unrhyw effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol."