Finance Icon

Dŵr Cymru i gychwyn buddsoddiad gwerth £2.5 miliwn yn y Barri


25 Mawrth 2019

Bydd gwaith ar fuddsoddiad £2.5 miliwn Dŵr Cymru i uwchraddio'r system dŵr gwastraff yn Nant Talwg, y Barri, yn cychwyn ym mis Ebrill. Bydd y gwaith yn helpu i amddiffyn amgylchedd yr ardal am flynyddoedd mawr i ddod.

Mae'r cwmni'n bwriadu gosod pibell newydd sbon o orsaf bwmpio Nant Talwg, ar draws tir preifat y tu ôl i ystâd dai Cwm Cidi, cyn cysylltu â'r rhwydwaith cyfredol ar Stryd Morgannwg, y Barri.

Bydd y cwmni dŵr nid-er-elw'n disodli tua chilomedr o bibell dŵr gwastraff sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes weithredol yn ystod y gwaith.

Rhagwelir y caiff y gwaith ei gwblhau tua diwedd Awst.

Mae gwaith eisoes wedi cael ei wneud i glirio rhai o'r coed er mwyn creu llwybr ar gyfer y pibellau newydd. Cafodd y gwaith yma ei fonitro'n ofalus gan ecolegydd er mwyn sicrhau ei fod yn effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd lleol. Mae'r cwmni'n bwriadu plannu coed newydd o'r un rhywogaethau neu o rywogaethau tebyg yn lle'r rhai a gliriwyd er mwyn sicrhau nad oed unrhyw effaith hirdymor. Amserwyd y rhan yma o'r gwaith fel y byddai’n cael ei gyflawni'r tu hwnt i'r tymor nythu. Bydd y cwmni'n parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos ar ôl dechrau'r gwaith i osod y pibellau newydd er mwyn amddiffyn bywyd gwyllt a'r amgylchedd trwy gydol y prosiect.

Dywedodd Dirprwy Reolwr Rhaglen Dŵr Cymru, Teresa O’Neill: "Rydyn ni wedi gwneud amddiffyn yr amgylchedd cyfagos yn flaenoriaeth ganolog a blaenllaw trwy gydol y broses o gynllunio'r gwaith yn Nant Talwg yn rhan o’n buddsoddiad £2.5 miliwn i uwchraddio’r system trin dŵr gwastraff.

"Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r cyngor a Pharc Gwledig Porthceri wrth gynllunio’r gwaith er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gyffyrddus â'n cynlluniau, a chomisiynwyd ecolegwyr i arolygu'r ardal er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd, a'i fod yn cydymffurfio â'r canllawiau amgylcheddol.

"Er bod y bu angen clirio rhai coed o'r safle er mwyn sicrhau na fydd gwreiddiau’n effeithio ar y pibellau yn y dyfodol - byddwn ni'n plannu coed o'r un rhywogaeth neu rywogaeth debyg yn lle'r hen goed er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith hirdymor. Byddwn ni'n ailblannu yn hydref 2019, am taw dyma'r amser gorau i blannu.

"Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau ein bod ni'n creu system dŵr gwastraff effeithiol sy'n darparu gwasanaeth o'r safon uchaf ar gyfer cwsmeriaid ac yn amddiffyn ein hamgylchedd gwerthfawr. Mae ein gwaith yn Nant Talwg yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ail-fuddsoddi elw er budd cwsmeriaid a'r amgylchedd.”

“Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod gwaith o'r math yma'n gallu achosi anghyfleustra, ond fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned, a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni gyflawni'r gwaith hanfodol yma."