- Dŵr Cymru’n nodi degawd o gynyddu prisiau’n is na’r gyfradd chwyddiant
- Record o £12 miliwn o warged y cwmni’n mynd i helpu i ariannu tariffau cymdeithasol ar gyfer aelwydydd incwm isel yn 2019-20
- Mae’r cwmni’n buddsoddi £430 miliwn mewn prosiectau cyfalaf er budd cwsmeriaid a’r amgylchedd eleni hefyd, sydd eto’n fwy nag erioed
- Cwsmeriaid yn gosod Dŵr Cymru ar y brig yng Nghymru a Lloegr o ran ymddiriedaeth ac ansawdd gwasanaethau
Mae’r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr wedi cyhoeddi y bydd ei brisiau cyfartalog i gwsmeriaid yn aros yn is na mesur chwyddiant y Mynegai Prisiau Adwerthu (RPI) eto eleni, a hynny am y 10fed flwyddyn yn olynol.
Mae cyhoeddiad Dŵr Cymru Welsh Water yn esbonio hefyd ei fod yn disgwyl i fil yr aelwyd gyfartalog fod yn £444 yn y flwyddyn ariannol nesaf - £3 yn llai na’r ffigur disgwyliedig ar gyfer 2018-19. Mae hynny’n golygu y bydd bil yr aelwyd gyfartalog rhyw £88 yn is nag y byddai wedi bod petai biliau dŵr wedi dilyn y gyfradd chwyddiant dros y degawd diwethaf.
Mae’r cwmni wedi cyhoeddi y bydd yn talu record o £12 miliwn o gymorth o’i warged ariannol i helpu i gadw biliau ei gwsmeriaid mwyaf bregus yn isel – ac mae hynny’n fwy o lawer nag unrhyw gwmni ddŵr arall. Mae record o £430 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol hon hefyd – sydd gyfwerth â bron i £1.2 miliwn y dydd – er mwyn gwella gwasanaethau i gwsmeriaid a’r amgylchedd.
Mae cynnal y lefel yma o fuddsoddiad yn dyst i’r ffaith fod Dŵr Cymru’n darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, ac mae gwaith ymchwil annibynnol gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn dangos taw’r cwmni sydd uchaf ei barch o ran ymddiriedaeth a boddhad cwsmeriaid o blith yr holl gwmnïau ddŵr a charthffosiaeth.
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: “Fel cwmni sydd mewn perchnogaeth ar ran y cwsmeriaid rydym yn eu gwasanaethu, rwy’n falch ein bod ni’n nodi degawd o gynnydd mewn prisiau sy’n is na chwyddiant – sy’n cyflawni ein hymrwymiad, a’n bod ni’n helpu i sicrhau bod ein biliau’n deg ac yn fforddiadwy i’n cwsmeriaid.
“Yn ogystal, rydyn ni’n hynod o falch o allu helpu llawer o’r bobl hynny sydd wir angen ein cymorth. Dyna pam ein bod ni’n defnyddio rhan helaeth o’n gwarged bob blwyddyn i helpu i ariannu ein hamrywiaeth o dariffau cymdeithasol, gan ein galluogi ni i helpu mwy o lawer o’n cwsmeriaid ag incwm isel na chwmnïau dŵr eraill.”