Mae gwaith ymchwil annibynnol wedi dangos bod gan gwsmeriaid domestig Dŵr Cymru lefelau sylweddol uwch o ffydd yn eu cwmni dŵr na chwsmeriaid cwmnïau eraill, a daeth allan ar y brig o ran lefelau boddhad cwsmeriaid gyda’i wasanaethau hefyd.
- Gwaith ymchwil annibynnol yn dangos y byddai cwsmeriaid argymell Dŵr Cymru'n fwy nag unrhyw gwmni dŵr arall yn y DU
- Daeth y cwmni ar y brig o ran boddhad a gwerth am arian
- Y cwmni gafodd y sgôr uchaf am bron pob mesur o foddhad cwsmeriaid o ran gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff
- Enwyd Dŵr Cymru fel y cwmni cyfleustod gorau yn y DU ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid mewn astudiaeth arall hefyd
O gymharu â'r cwmnïau dŵr a dŵr gwastraff cyfunol eraill yng Nghymru a Lloegr, nododd cwsmeriaid Dŵr Cymru lefelau sylweddol uwch o foddhad yn bron pob un o'r mesuriadau, o ran gwasanaethau, gwerth am arian ac wrth gytuno bod eu prisiau’n deg.
Daw hyn wrth i arolwg arall, a gyflawnwyd gan y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid, ddangos taw Dŵr Cymru yw'r cwmni cyfleustod mwyaf ei barch yn y DU - yn uwch na phob cwmni dŵr ac ynni arall.
Dŵr Cymru yw'r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr. Mae hynny’n golygu nad oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo, yn hytrach mae ganddo "Aelodau" annibynnol gwirfoddol, ac mae'n golygu hefyd ei fod yn buddsoddi unrhyw arian y mae'n ei wneud yn ei wasanaethau ac er budd ei gwsmeriaid.
Datgelodd gwaith ymchwil Water Matters, a gyflawnwyd gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, taw Dŵr Cymru yw'r cwmni mwyaf ei barch o ran ei "Sgôr Hyrwyddo Net (NPS)" - sy'n mesur "ffyddlondeb" cwsmeriaid i gwmni.
Mae'r canfyddiadau'n dangos bod cwsmeriaid Cymreig wedi rhoi’r sgoriau uchaf yng Nghymru a Lloegr i’r cwmni ar draws nifer o fesuriadau allweddol, gan gynnwys:
- Boddhad cyffredinol â'u profiad gyda'u cwmni 89% yng Nghymru v 85% yn Lloegr)
- Lefelau uwch o ymddiriedaeth (sgôr o 8.18 yng Nghymru v 7.67 yn Lloegr)
- Boddhad â gwasanaethau dŵr (94% yng Nghymru v 90% yn Lloegr) a gwasanaethau carthffosiaeth (90% yng Nghymru v 85% yn Lloegr)
- Cytuno bod prisiau'n deg (70% yng Nghymru v 62% yn Lloegr)
- Boddhad â gwerth am arian ar gyfer gwasanaethau dŵr (82% yng Nghymru v 71% yn Lloegr) a dŵr gwastraff (82% yng Nghymru v 74% yn Lloegr)
- Gan Ddŵr Cymru mae'r NPS uchaf o blith yr holl gwmnïau - â 44 yn erbyn sgôr cyffredinol o 16 yn Lloegr
Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yw cynrychiolydd annibynnol defnyddwyr dŵr domestig a busnes yng Nghymru a Lloegr.
Roedd astudiaeth y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid (UKCSI) yn edrych ar ansawdd gwasanaethau cwsmeriaid yn y DU yn gyffredinol ar draws 13 sector o'r economi. Mae'n seiliedig ar arolygon o gwsmeriaid a gyflawnir bob chwe mis.
Sgôr cyffredinol Dŵr Cymru o 79.2 oedd sgôr uchaf UKCSI, a gosododd hyn y cwmni ar y brig yn sector y cyfleustodau. Mae sgôr y cwmni 2.1 pwynt o flaen sgôr cyffredinol UKCSI sef 77.1, a gweddill y sector sef 72.1.
Daw'r newyddion yma yn sgil y cyhoeddiad y byddai Dŵr Cymru'n buddsoddi record o £47 miliwn o "fuddrannau cwsmeriaid" mewn amrywiaeth o brosiectau er budd ei gwsmeriaid diolch i'w ddull nid-er-elw o weithio.
Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr y cwmni: "Mae ein dull nid-er-elw o weithio'n ein galluogi ni i ganolbwyntio ein holl ymdrechion ar fodloni anghenion a disgwyliadau'r bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer - felly mae hi'n galonogol bod cwsmeriaid yng Nghymru'n teimlo'n fwy positif am y gwasanaethau y maent yn eu cael, a bod ganddynt fwy o ffydd yn eu cwmni sy’n darparu’r adnodd cyhoeddus hanfodol yma.
"Ond rydyn ni'n gwybod bod angen i ni wrando ar ein cwsmeriaid yn fwy nag erioed er mwyn adeiladu ar y canfyddiadau cadarnhaol yma - a bydd yr adroddiad hwn yn darparu sylfaen hanfodol i ni adeiladu arno."
Mae dolen i adroddiad llawn CCWater yma.