Finance Icon

Dŵr Cymru’n cwblhau cynllun buddsoddi gwerth £2,000,000 yng Nghei’r Fôr-forwyn


11 Gorffennaf 2019

Mae Dŵr Cymru wedi cwblhau’r gwaith ar y cynllun gwerth £2,000,000 i newid carthffos yng Nghei’r Fôr-forwyn.

Dechreuodd Dŵr Cymru y gwaith ar y prosiect buddsoddi gwerth £2 filiwn ym mis Medi 2018 ac roedd yn golygu trwsio’r garthffos Fictoraidd oedd yn rhedeg o dan Stryd Stuart a Stryd Bute a newid rhannau ohoni. Roedd angen gwneud y gwaith am fod y garthffos wedi’i blocio mewn sawl man gan lawer iawn o fraster, olew a saim a phethau eraill a daflwyd i’r garthffos yn anghyfreithlon.

Fel ffordd o ddiolch i fusnesau a thrigolion yr ardal ac ymwelwyr am fod yn amyneddgar ac am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith, bydd y cwmni’n cefnogi digwyddiad a drefnir gan y tîm rheoli cyn diwedd y mis. Bydd y digwyddiad yn cynnwys adloniant am ddim fel sioeau hud, theatr stryd, paentio wynebau a llawer mwy.

Dywedodd Rheolwr Canolfan Cei’r Fôr-forwyn, Justin Patel: “Rydym wrth ein bodd bod Dŵr Cymru wedi gorffen trwsio'r garthffos. Bu’r deg mis diwethaf yn dipyn o her i bawb, ond rydym yn edrych ymlaen at haf gwych gyda digonedd i ddifyrru ymwelwyr yng Nghei’r Fôr-forwyn a gweddill harbwr mewnol Bae Caerdydd.

"Gyda chefnogaeth Dŵr Cymru, rydym yn trefnu digwyddiad di-dâl gwych yng Nghei’r Fôr-forwyn ar benwythnos Sadwrn 20 a Sul 21 Gorffennaf i ddathlu bod y gwaith wedi’i gwblhau. Bydd yno sioeau hud, modelu balŵns, theatr stryd, paentio wynebau a mwy. HEFYD, bydd gennym arddangosfa Teyrnas Ffantasi BRICKLIVE o naw model anhygoel o frics LEGO yn cynnwys draig sy’n anadlu tân, ungorn, tywysoges a gorsedd hunluniau yn Sgwâr Tacoma o ddydd Sadwrn 3 Awst tan ddydd Sul 1 Medi.

“Yn ogystal â’n digwyddiadau ni ein hunain, bydd Traeth Bae Caerdydd yn ôl yn Roald Dahl Plass, ac felly bydd yn haf llawn hwyl i bawb.”

Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2018, llwyddodd Dŵr Cymru i dynnu tuag 800 tunnell o garthion, yn cynnwys yn bennaf fraster, olew a saim, o’r garthffos o dan strydoedd un o ardaloedd prysuraf Caerdydd. Roedd hyn yn cyfateb i bwysau 133 o eliffantod Affricanaidd.

Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru: “Roedd y gwaith ar gynllun Cei’r Fôr-forwyn yn sicr yn dipyn o her gan fod busnesau a fflatiau mor agos at y gwaith, a bod cymaint o fraster, saim ac olew wedi crynhoi yn y garthffos gan beri iddi ddymchwel mewn sawl man ar hyd Stryd Bute a Stryd Stuart.

“Er mwyn peidio â tharfu fwy nag oedd raid, dyfeisiodd ein timau ddull arloesol o drwsio'r garthffos Fictoraidd a rhoi system garthffosiaeth newydd yn ei lle yng Nghei'r Fôr-forwyn fel y gall wasanaethu'r gymuned am flynyddoedd i ddod. Rydym wir yn gwerthfawrogi’r ffaith fod masnachwyr a thrigolion yr ardal wedi bod mor amyneddgar ac wedi cydweithredu â ni yn ystod y cynllun – a hoffem ddiolch yn fawr iddynt am hyn.”

Meddai: “Rydym bob amser yn gofyn i’n cwsmeriaid fod yn ofalus beth y maent yn ei ollwng i’r draeniau er mwyn i’n carthffosydd ddal i weithio’n iawn. Rydym wedi cydweithio â busnesau yng Nghei’r Fôr-forwyn a’r cylch i sicrhau bod ganddynt offer addas i’w helpu i gael gwared â braster, olew a saim yn y ffordd briodol.

“Yn ogystal, bu gennym ymgyrch ‘Stop Cyn Creu Bloc’ yn yr ardal gyda’r nod o annog pobl i helpu i atal llygredd a gorlifiadau o garthffosydd trwy beidio â rhoi braster, olew na saim i lawr y draeniau.”