People Icon

Dŵr Cymru’n dathlu buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yng nghymunedau Môn


17 Mai 2019

Heidiodd pobl Môn i achlysur arbennig i ddathlu gwaith Dŵr Cymru yn uwchraddio’r pibellau sy’n cyflenwi dŵr i filoedd o gwsmeriaid ar yr ynys.

Roedd Dŵr Cymru wedi trefnu diwrnod o hwyl di-dâl i deuluoedd er mwyn talu yn ôl i’r cymunedau lle bu’n gweithio. Roedd y gwaith yn cynnwys newid neu lanhau dros 220km o bibellau – cymaint o bellter â theithio o Gaergybi i’r Bermo ac yn ôl.

Roedd y digwyddiad cymunedol a gynhaliwyd yn Amlwch yn llwyddiant enfawr gyda dros 200 o bobl yn bresennol. Roedd cyfle i gwsmeriaid hen ac ifanc fwynhau nifer o wahanol weithgareddau. Cafwyd hwyl ar y cestyll neidio, y bwrdd syrffio, yn cael paentio wynebau a gwneud crefftau. Roedd yno ddigonedd o fwyd a diod a dewis o gacennau blasus.

Community event photo

Children with Dwr Cymru Welsh mascot Glyndwr

Daeth yr Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, draw i’r digwyddiad ac meddai “Ro’n i wrth fy modd o glywed bod Dŵr Cymru wedi trefnu digwyddiad i ddiolch i’r cymunedau am fod yn amyneddgar tra oedden nhw'n gwneud eu gwaith hanfodol. Bydd y buddsoddiad hwn ym Môn yn sicrhau bod trigolion y cymunedau hynny’n cael cyflenwad dŵr yfed o’r safon uchaf am flynyddoedd i ddod.”

Rhun ap lorwerth visit to Amlwch

Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffiths, Twrcelyn "Dwi’n falch o weld bod y buddsoddiad yng nghymuned Amlwch wedi’i gwblhau. Roedd yn waith hanfodol ac, er ei fod wedi achosi tipyn o anhwylustod, roedd y gymuned yn sylweddoli y bydd y gwaith yn dod â manteision hirdymor i bawb sy’n byw yn y dref. Roedd y contractwyr yn gweithio’n galed ac fe wnaethon nhw eu gorau i orffen y gwaith cyn gynted ag y gallen nhw. Roedd yn dda gweld cynifer yn y digwyddiad a drefnwyd gan Dŵr Cymru. Roedd y gymuned yn sicr yn dathlu ac yn gwerthfawrogi bod Dŵr Cymru’n gwneud hyn.”

Mae’r cwmni nid-er-elw wedi buddsoddi £14.85 miliwn yn y rhwydwaith dŵr yfed yng ngogledd a gorllewin Môn er mwyn i gwsmeriaid yr ardal barhau i dderbyn cyflenwad dŵr o’r safon uchaf bob tro yr agorant y tap.

Dechreuodd y gwaith ar Ynys Môn yn 2017 ac fe gadwodd Dŵr Cymru mewn cysylltiad â chymunedau, grwpiau ac ysgolion ledled Môn trwy gydol y cyfnod er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod beth oedd yn digwydd ac er mwyn i blant ddysgu pam yr oedd angen y gwaith a sut y mae’r rhwydwaith dŵr yn gweithio.

Mae’r cwmni wedi cefnogi nifer o ddigwyddiadau lleol mewn mannau lle buont yn gweithio, yn cynnwys Sioe Môn, dyddiau hwyl cymunedol, ymgyrchoedd glanhau cymunedol, ffeiriau cymunedol a digwyddiadau goleuadau Nadolig.

Dywedodd Aled Morgan, Rheolwr Rhaglen Seilwaith Dŵr Cymru “Rydan ni wrth ein bodd bod y gwaith wedi’i gwblhau. Bydd ein buddsoddiad yn golygu bod y gwasanaeth a gynigiwn i gwsmeriaid yr ardal hyd yn oed yn well. Rydan ni’n sylweddoli y gall gwaith ar ein rhwydwaith achosi trafferth a hoffem ddiolch i bawb am fod yn amyneddgar tra oeddem wrth y gwaith.

“Mae darparu cyflenwad dŵr yfed o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid yn un o brif flaenoriaethau Dŵr Cymru ac, wrth gwblhau’r gwaith yn y rhannau hyn o Fôn, rydym gam yn nes a sicrhau ein bod yn gwneud hyn.”