Finance Icon

Parhau i fuddsoddi mwy nag erioed er mwyn helpu i gynnal y gwasanaethau i gwsmeriaid gorau yn y diwydiant


14 Medi 2019

  • Buddsoddwyd mwy na £218 miliwn yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn – ar y trywydd iawn i fuddsoddi £440 miliwn dros y flwyddyn gyfan
  • Ymddiriedaeth cwsmeriaid domestig a busnes gyda'r uchaf yng Nghymru a Lloegr
  • Gofyn i Aelodau'r Cwmni gymeradwyo ymgorffori datganiad o Bwrpas Corfforaethol i gyfansoddiad y cwmni
  • Camau i oresgyn y newid yn yr hinsawdd wedi sbarduno gostyngiad o 79% mewn allyriannau ers 2010
  • Peter Perry i olynu Chris Jones wrth iddo ymddeol fel Prif Weithredwr yn Ebrill 2020

Mae'r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr yn buddsoddi mwy nag erioed yn ei wasanaethau wrth iddo geisio cynnal y lefelau gorau o foddhad ac ymddiriedaeth cwsmeriaid yn y sector.

Yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn (Ebrill i Fedi), cyhoeddodd y cwmni ei fod wedi buddsoddi £218 miliwn mewn prosiectau cyfalaf i gynnal gwytnwch ei rwydwaith dŵr a dŵr gwastraff ar draws y rhan fwyaf o Gymru a Sir Henffordd. Mae'n disgwyl buddsoddi tua £440 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn.

Yn ôl gwaith ymchwil annibynnol diweddaraf y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCWater: Adroddiad Water Matters 2019) y cwmni ddaeth allan ar y brig o ran boddhad cwsmeriaid â'i wasanaethau a gwerth am arian, a hi sy’n denu’r lefelau uchaf o ymddiriedaeth cwsmeriaid o blith holl gwmnïau dŵr a charthffosiaeth Cymru a Lloegr.

Daw hyn ar ôl i'r cwmni ddod yn gyntaf o ran boddhad cwsmeriaid o blith holl gwmnïau dŵr Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn yn arolygon newydd Ofwat (C-MeX).

Yn ei adroddiad ariannol canol blwyddyn, cadarnhaodd y cwmni berfformiad ariannol a gweithredol cadarn, canlyniadau da o ran safonau dŵr a dŵr gwastraff, a gostyngiad parhaus yn nifer y cwynion ysgrifenedig a dderbyniwyd gan gwsmeriaid.

Daeth hyn ar ôl i'r cwmni gadarnhau ei fod wedi llwyddo i godi prisiau yn is na chyfradd chwyddiant yr RPI am ddegawd gyfan, a bod y bil domestig cyfartalog ar gyfer 2019/20 tua £88 yn is nag y byddai wedi bod petai biliau dŵr wedi dilyn y cyfraddau chwyddiant dros y degawd diwethaf.

Yn ogystal, cofnododd y cwmni leihad sylweddol yn ei ôl troed carbon dros y degawd diwethaf, â gostyngiad o ychydig yn llai nag 80% mewn allyriannau diolch i well effeithlonrwydd ynni, cynnydd yn ei ddefnydd o ynni adnewyddadwy, ac ymrwymiad newydd i brynu ynni gwyrdd yn unig.

Mae'r cwmni nid-er-elw yn cynnig ffurfioli ei ymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus a'i ffocws ar gwsmeriaid trwy ymgorffori datganiad o'i Bwrpas Corfforaethol i'w gyfansoddiad, sef:

“darparu dŵr yfed a gwasanaethau amgylcheddol o ansawdd uchel ac am werth gwell, er mwyn cyfoethogi lles ein cwsmeriaid a'r cymunedau a wasanaethwn, nawr ac am genedlaethau i ddod”.

Gofynnir i 65 aelod Dŵr Cymru gymeradwyo'r newid mewn cyfarfod arbennig ym mis Rhagfyr. Mae Aelodau'r cwmni'n cyflawni rôl llywodraethu hanfodol wrth ddal y Bwrdd i gyfrif, nid ydynt yn cael eu talu am eu rôl ac nid oes unrhyw fuddiant ariannol ganddynt yn y busnes.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons : “Mae chwe mis cyntaf y flwyddyn yn dangos perfformiad cyffredinol da a lefelau uwch nag erioed o fuddsoddiad yn ein rhwydwaith a'n gwasanaethau i gwsmeriaid unwaith eto – ac mae hyn yn adlewyrchu'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud ar draws holl feysydd y busnes. Ein sialens ni fel cwmni yw cynnal y perfformiad yma am weddill y flwyddyn.

“Mae ein cynlluniau ar gyfer y cyfnod buddsoddi newydd pum mlynedd o hyd gan adlewyrchu beth mae ein cwsmeriaid wedi dweud wrthym y maent am ei weld, cydbwyso buddsoddiad hanfodol yn ein gwasanaethau, amddiffyn yr amgylchedd a chadw biliau cwsmeriaid mor fforddiadwy â phosibl. Hyn sydd wrth galon ein ffocws fel cwmni yn y tymor byr a'r tymor hir.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: “Mae sefyllfa weithredol a chyllidol y cwmni sy’n gryf i yn cynnig sicrwydd i ni wrth i ddynesu at y cyfnod rheoleiddio pum mlynedd heriol iawn flwyddyn nesaf.

"Mae ein rhaglen fuddsoddi yn dal i fod ar lefel record o uchel – fel y gall ddatblygu gwytnwch ein rhwydwaith dŵr a dŵr gwastraff am genedlaethau i ddod, a hynny wrth gyflawni'r addewid o wireddu degawd o gynnydd mewn prisiau oedd yn is na chyfradd chwyddiant yr RPI ar gyfer ein cwsmeriaid."

"Y nodau hyn sydd wrth galon ein datganiad newydd arfaethedig o bwrpas, sef cyfoethogi lles ein cwsmeriaid a'r cymunedau a wasanaethwn, nawr ac am genedlaethau i ddod."

Fel y cyhoeddwyd eisoes, bydd Peter Perry - Rheolwr Gyfarwyddwr cyfredol Dŵr Cymru - yn olynu Chris Jones fel Prif Weithredwr yn Ebrill 2020.