Finance Icon

Hwb i gyflenwyr wrth i Ddŵr Cymru dalu’n brydlon


11 Ionawr 2019

  • Mae'r cwmni nid-er-elw gyda'r gorau am dalu cyflenwyr yn brydlon.
  • 98% o gyflenwyr yn derbyn taliadau cyn pen 60 diwrnod a 92% cyn pen 30 diwrnod.
  • Mae'r cwmni wedi cofrestru ar gyfer Cod Talu'n Brydlon ac mae'n rhagori ar y safonau a bennodd Llywodraeth Prydain y llynedd.

Mae ffigurau newydd wedi datgelu bod Dŵr Cymru'n cynorthwyo ei gyflenwyr yn fwy na'r rhelyw - wrth dalu cyflenwyr yn gynt nag unrhyw gwmni dŵr arall, ac yn well na'r rhan fwyaf ohonynt hefyd.

Yn y mwyafrif llethol o achosion, mae'r cwmnïau sy'n cyflenwi'r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, sy'n gwasanaethu rhyw dair miliwn o gwsmeriaid ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy a Sir Gaer, yn cael eu talu cyn pen mis. Ar gyfartaledd ar draws y DU, ychydig dros hanner y cyflenwyr sy’n cael eu talu cyn pen 30 diwrnod - a Dŵr Cymru yw'r cwmni dŵr a charthffosiaeth â'r perfformiad gorau yng Nghymru a Lloegr hefyd.

Cafodd cyfanswm o 92% o gyflenwyr Dŵr Cymru eu talu cyn pen 30 diwrnod ar ôl i'r anfonebau ddod i law, o gymharu â 53% ar gyfer y cwmnïau dŵr a charthffosiaeth eraill sydd wedi cyhoeddi ffigurau, a 53% ar gyfartaledd ar draws pob sector. Talwyd 6% pellach cyn pen 60 diwrnod, a chwta 2% a dalwyd yn hwyrach na hynny.

Mae'r perfformiad yn dynodi gwelliant i'r cwmni, a oedd yn talu 46% o anfonebau cyn pen 30 diwrnod ar gyfartaledd flwyddyn yn ôl. Daw hyn yn sgil gwelliannau i brosesau a systemau caffael y cwmni.

Adroddir ar hyn ddwywaith y flwyddyn erbyn hyn, ac mae'r canlyniadau diweddaraf yn cwmpasu'r chwe mis hyd Fedi 2018 - maent yn dangos bod y cwmni eisoes yn rhagori ar safonau'r Cod Talu'n Brydlon, sy'n pennu safonau Llywodraeth Prydain ar gyfer arferion talu, ac yn rhoi canllawiau ar arferion gorau.

Mae'r Cod yn gofyn bod 95% o anfonebau'n cael eu talu cyn pen 60 diwrnod, ac y dylid gweithio tuag at derfyn o 30 diwrnod fel norm.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid Dŵr Cymru, Peter Bridgewater: “Fel cwmni dŵr nid-er-elw, rydyn ni'n ein gweld ein hunain nid dim ond fel cwmni sy'n gweithio yng Nghymru - ond fel cwmni sydd wrth galon y cymunedau a wasanaethwn.

"Rydyn ni'n cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn at economi Cymru, ac fel un o gwmnïau a chyflogwyr mwyaf Cymru, mae sut rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid a'n cadwyn gyflenwi yn allweddol wrth sicrhau bod ein heffaith yn eithriadol o gadarnhaol.

"Rydw i wrth fy modd ein bod ni bellach yn rhagori ar safonau'r Cod Talu'n Brydlon ac rydyn ni'n gweithio i wella cyflymdra ein taliadau i'n cyflenwyr eto fyth - gan sicrhau y gall ein cyflenwyr llai yn benodol ddibynnu arnom fel partneriaid cyfrifol, a sicrhau bod eu busnesau’n hyfyw trwy gael eu harian iddynt yn gyflym."