Peter Bridgewater i ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Cyllid a Masnachol a Mike Davis i ymuno â Bwrdd Dŵr Cymru
24 Medi 2019
Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi y bydd Peter Bridgewater yn ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Cyllid a Masnachol y cwmni ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl pum mlynedd fel aelod o'r Bwrdd. Mike Davis, Cyfarwyddwr Strategaeth a Rheoleiddio cyfredol Dŵr Cymru fydd yn cymryd ei gyfrifoldebau cyllid a masnachol, a bydd yn ymuno â'r Bwrdd yn rôl y Prif Swyddog Cyllid o’r 1af o Ionawr 2020.
Dywedodd Peter Bridgewater, y Cyfarwyddwr Cyllid a Masnachol:
“Wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod buddsoddi rheoliadol hwn, bydd ffocws o'r newydd ar fusnes craidd Dŵr Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac rydw i wedi penderfynu symud ymlaen o'm swydd fel Cyfarwyddwr Cyllid a Masnachol ar ôl pum mlynedd fel aelod o'r Bwrdd. Mae Dŵr Cymru'n chwarae rhan annatod yn yr economi lleol, wrth ddiogelu'r amgylchedd ac wrth gwrs, iechyd y cyhoedd, a hoffwn ddymuno'r gorau i'r busnes nid-er-rhanddeiliaid arbennig hwn - a'r holl gydweithwyr sydd wedi gweithio gyda mi - at y dyfodol.”
Ychwanegodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons:
“Ar ran y Bwrdd a'n Haelodau, hoffwn ddiolch i Peter am ei gyfraniad dros y pum mlynedd diwethaf a dymuno'n dda iddo at y dyfodol. Mae'n bleser cael croesawu Mike Davis i'r Bwrdd yn ei rôl newydd a fydd yn cyfuno cyllid, strategaeth a rheoleiddo. Fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Rheoleiddio dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Mike wedi cael effaith aruthrol ar y busnes wrth arwain tri adolygiad o brisiau ac mae e wedi bod yn aelod hanfodol o dîm gweithredol Dŵr Cymru sy'n cynghori'r Bwrdd.”
Dywedodd y darpar-Brif Swyddog Cyllid, Mike Davis:
“Mae hi'n fraint cael ymuno â Bwrdd Dŵr Cymru. Fel un o gwmnïau mwyaf Cymru, sydd mewn perchnogaeth ar ran ei gwsmeriaid ac â rhwymedigaethau mor bwysig yn nhermau iechyd y cyhoedd, effaith amgylcheddol ac amddiffyn yr amgylchedd, ein pwrpas craidd yw cynnal safonau uchel, costau effeithlon a lefelau cadarn o ymddiriedaeth gan gwsmeriaid. Rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda thimau ar draws y cwmni a gyda'n cwsmeriaid i sicrhau ein bod ni'n cyflawni hynny.”