People Icon

Cyd-sylfaenydd Glas Cymru, Chris Jones, i ymddeol fel Prif Weithredwr, a Pete Perry i'w olynu


5 Gorffennaf 2019

Mae Chris Jones, Prif Weithredwr Dŵr Cymru Welsh Water, a sylfaenydd model perchnogaeth nid-er-elw Glas Cymru, wedi penderfynu ymddeol o'r cwmni ddiwedd Mawrth 2020, ar ôl bron i 25 mlynedd o wasanaeth fel cyfarwyddwr Dŵr Cymru.

Yn ogystal, cyhoeddodd Alastair Lyons, Cadeirydd Bwrdd Glas, taw Peter Perry, Rheolwr Gyfarwyddwr cyfredol Dŵr Cymru, fydd yn cymryd yr awenau fel Prif Weithredwr o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ar ôl ymuno â'r cwmni fel prentis yn wreiddiol.

Yn y flwyddyn 2000, sefydlodd Chris, ynghyd â Nigel Annett, Glas Cymru fel cwmni "nid-er-elw" unigryw, a hynny'n unswydd i gaffael Dŵr Cymru. Y flwyddyn ganlynol, llwyddodd Glas i gaffael Dŵr Cymru gan Western Power Distribution ar ôl codi gwerth £1.9 biliwn mewn bondiau tymor hir – ar y pryd, dyna oedd y dosbarthiad bondiau sterling mwyaf erioed.

Mae model perchnogaeth nid-er-elw Glas yn unigryw yn y sector dŵr, gydag unrhyw warged ariannol yn cael ei ddefnyddio er budd y cwsmeriaid, yn benodol i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau a darparu cymorth ariannol i'r bobl hynny sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr.

Mewn neges at ei gydweithwyr yn Dŵr Cymru'r bore yma, dywedodd Chris Jones,
“Ar ôl ystyriaeth ddwys, rydw i wedi penderfynu taw dyma'r amser iawn i mi ymddeol fel Prif Weithredwr ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon a mynd ar drywydd diddordebau eraill. Er nad yw penderfyniad o'r fath byth yn un hawdd, rwy'n credu taw dyma'r amser iawn i'r busnes hefyd, ar ddechrau cyfnod y pum mlynedd rheoliadol nesaf a gyda chynlluniau olyniaeth cadarn yn eu lle."

Rwy'n hynod falch o'r hyn rydym wedi ei gyflawni ers i Nigel Annett a fi lansio ein cwmni nid-er-elw unigryw nôl yn Ebrill 2000. Rydyn ni wedi creu pwrpas a gweledigaeth gorfforaethol glir, â diwylliant cadarn a sefydlog o lwyddiant dan arweiniad y cwsmeriaid. Hyd yn hyn, mae'r cwsmeriaid wedi bod ar eu hennill o ryw £450 miliwn - ac arian yw hynny a fyddai wedi mynd i ddwylo cyfranddeiliaid mewn cwmnïau eraill.

“Hoffwn ddiolch o waelod calon i fy holl gydweithwyr am y cymorth bendigedig y maent wedi ei roi i mi dros y chwe blynedd diwethaf. Rwy'n siŵr y bydd y busnes yn parhau i fynd o nerth i nerth gan wneud gwaith gwell byth ar gyfer ei gwsmeriaid yn y dyfodol, am fod y bobl sy'n gweithio dros Ddŵr Cymru’n hynod o fedrus ac yn ymroddgar iawn. Ni all ddim brofi hynny'n well nac ymateb arwrol fy nghydweithwyr yn wyneb y sialensiau digynsail a welsom o ran y tywydd trwy gydol 2018, wrth iddynt gynnal gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ac amddiffyn ein hamgylchedd.”

Dywedodd Alastair Lyons, Cadeirydd Bwrdd Glas:
“Ychydig iawn o bobl a all hawlio eu bod wedi bod yn allweddol wrth greu model busnes unigryw a diwylliant sy'n ysbrydoli'r bobl hynny sy'n gweithio gyda'r busnes ac sy'n gwsmeriaid iddo. Mawr yw dyled Glas i Chris, a gall fod yn haeddiannol o falch o fod yn Brif Weithredwr ar gwmni sydd gyda'r gorau o ran boddhad cwsmeriaid a’u cysyniad o ran gwerth am arian.

“Yn yr un modd, rydyn ni'n ffodus dros ben i fod â rhywun â phrofiad a gallu Pete Perry i olynu Chris pan fydd yn ymddeol ym mis Ebrill. Fel Prif Swyddog Gweithredol, ac yn fwy diweddar Rheolwr Gyfarwyddwr, mae Pete wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chris fel Prif Weithredwr, gan hwyluso trosglwyddiad di-dor cyn i ni gychwyn AMP7, sef y cam nesaf ar ein siwrnai i gyflawni ein gweledigaeth Dŵr Cymru 2050”

Daw Pete Perry'n Brif Weithredwr ar 1 Ebrill 2020, ar ôl bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr ers 2017, yn Brif Swyddog Gweithredol ers 2013 ac yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau ers 2006. Ym maes peirianneg sifil mae cefndir Peter, a bu gynt yn Brif Swyddog Gweithredol United Utilities Operational Services (UUOS). Cyn ymuno ag UUOS, treuliodd dros 20 mlynedd yn gweithio dros Ddŵr Cymru.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Pete,
“Anrhydedd enfawr i mi yw cael cymryd y rôl. Mae hi'n fraint cael y cyfle i adeiladu ar waith rhagorol Chris fel Prif Weithredwr. Mae gennym dîm arbennig o bobl yn y sefydliad ac rwy'n edrych ymlaen at gael arwain y busnes i gyflawni ein prif flaenoriaethau, sef gwella rhagor ar y gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid ac amddiffyn yr amgylchedd. Gyda'n strwythur 'nid er rhanddeiliaid' unigryw, sy'n creu ethos busnes lle mae'r ffocws yn llwyr ar wasanaethu ein cwsmeriaid a'n cymunedau, rydyn ni mewn sefyllfa dda i godi at sialensiau mawr y dyfodol fel y newid yn yr hinsawdd, a bodloni disgwyliadau cynyddol ein cwsmeriaid .”

Ers iddo ddod yn gwmni nid-er-elw, mae Dŵr Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth:

  • Gael ei enwi’n gyson fel y cwmni dŵr y mae cwsmeriaid yn ymddiried ynddo fwyaf yng Nghymru a Lloegr (yn ôl gwaith ymchwil annibynnol gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr)
  • Cadw prisiau'n is na'r gyfradd chwyddiant ym mhob blwyddyn ers 2010, gyda'r biliau cyfartalog yn is heddiw mewn termau real nac yr oedden nhw yn 2001
  • Cwtogi bron i 80% ar ei allyriannau carbon ers 2010
  • Lleihau gollyngiadau o draean ers 2001
  • Cynyddu nifer y cwsmeriaid sy'n cael cymorth ariannol i dalu eu biliau i 120,000, sy'n fwy o lawer nag unrhyw gwmni dŵr arall
  • Buddsoddi dros £400m o warged ariannol a gynhyrchwyd ers 2001 er mwyn gwella gwasanaethau, cynorthwyo cwsmeriaid sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol a chadw biliau'n is nag y byddent wedi bod fel arall/li>
  • Cynnal y statws credyd uchaf o blith holl gwmnïau cyfleustod eraill y DU
  • Diogelu statws Aur Buddsoddwyr mewn Pobl /li>
  • Creu diwylliant sy'n cael ei arwain gan ei gwsmeriaid, gyda'i arolwg ymgysylltu staff diweddaraf yn dangos bod 90% o weithwyr Dŵr Cymru "yn credu yn Dŵr Cymru a beth y mae'n ei gynrychioli" a bod "93% yn credu bod Dŵr Cymru'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf"
  • Lleihau anafiadau adroddadwy (RIDDORs) o ddau draean ers 2010
  • Cyrraedd dros 500,000 o blant trwy ei raglen addysg ers 2001

Cyflwynodd Dŵr Cymru ei gynllun busnes ar gyfer 2020-2025 i'r rheoleiddiwr, Ofwat yn ddiweddar. Os caiff ei gymeradwyo, ei nod yw cyflawni rhaglen fuddsoddi £2.3 biliwn a gostyngiad mewn biliau o dros £20 mewn termau real erbyn 2025.