People Icon

Penodi Debra Bowen Rees yn Gyfarwyddwraig Anweithredol i Glas Cymru


6 Rhagfyr 2019

Heddiw, mae Glas Cymru, sef perchennog Dŵr Cymru, wedi cyhoeddi y bydd Mrs Debra Bowen Rees yn ymuno â'i Fwrdd fel Cyfarwyddwraig Anweithredol ar 1 Ionawr 2020. Mae'r penodiad hwn wedi codi yn sgil ymddeoliad Menna Richards ym mis Mehefin ar ôl bod yn Gyfarwyddwraig Anweithredol i Glas Cymru ers 2010 ac Uwch Gyfarwyddwraig Annibynnol ers 2014.

Daw Mrs Bowen Rees, Prif Weithredwraig Maes Awyr Caerdydd, â chyfoeth o brofiad fel arweinydd a rheolwraig â hi, gan gynnwys profiad o reoli seilwaith rheoledig lle mae diogelwch yn hanfodol. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus a nifer o swyddi uwch yn y lluoedd arfog, ymunodd Mrs Bowen Rees â Maes Awyr Caerdydd fel Cyfarwyddwraig Gweithrediadau yn 2012, cyn cael ei phenodi'n Gyfarwyddwraig Rheoli yn 2014. Daeth yn Brif Weithredwraig y maes awyr sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn 2017, ac mae hi wedi bod yn gyfrifol am arwain y maes awyr trwy gyfnod o drawsnewid mawr.

Bydd y profiad yma'n ei galluogi i wneud cyfaniad gwerthfawr at Fwrdd Glas Cymru wrth helpu i arwain ar welliannau parhaus ym mherfformiad Dŵr Cymru ac wrth ddarparu trosolwg effeithiol o'r cwmni wrth iddo baratoi i gychwyn pum mlynedd ymestynnol o waith buddsoddi ym mis Ebrill 2020.

Mae Mrs Bowen Rees, sy'n byw ym mhentref Ciffig yn y gorllewin, yn ymddiriedolwr ac yn aelod o Fwrdd Cwmni Theatr Hijinx yng Nghaerdydd, sef grŵp theatr i bobl ag anawsterau dysgu. Mae hi'n aelod o fwrdd Cymdeithas Gweithredwyr y Meysydd Awyr hefyd, yn is-gadeirydd y Grŵp Meysydd Awyr Rhanbarthol a Busnes, ac yn aelod o Gyngor CBI Cymru.

Dywedodd Alastair Lyons, Cadeirydd Glas Cymru: "Mae gan Debra gyfoeth o brofiad a sgiliau strategol a gweithredol sy'n berthnasol iawn i'n busnes. Rydw i wrth fy modd ei bod hi wedi cytuno i ymuno â'n Bwrdd wrth i ni gychwyn cyfnod sylweddol o newid ar gyfer Dŵr Cymru gyda'r cyfnod buddsoddi newydd pum mlynedd o hyd yn dechrau yn Ebrill 2020.

"Bydd ei phrofiad o reoli prosiectau newid a buddsoddi sylweddol ac uchelgeisiol yn hynod o werthfawr wrth i ni daclo'r sialensiau tymor hir a bennwyd yn ein gweledigaeth strategol, Dŵr Cymru 2050, er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaeth fforddiadwy o safon uchel ar gyfer ein cwsmeriaid."

Dywedodd Debra Bowen Rees: “Rydw i wrth fy modd i gael ymuno â Glas Cymru ar gyfnod mor allweddol yn hanes Dŵr Cymru. Mae hi’n gyfle gwych i mi gysylltu dau sefydliad hynod bwysig sy’n dod â gwerth sylweddol a budd cymdeithasol ac economaidd i Gymru.

“Wrth arwain tîm Maes Awyr Caerdydd ers 2014, rydw i wedi goruchwylio cyfnod o drawsnewid aruthrol mewn diwydiant â rheoliadau tynn; ac mae hynny oll yn brofiad y gallaf ei rannu â Glas Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Mae hi’n gyffrous dros ben, ac rwy’n edrych ymlaen at gael gweithio gydag Alistair a’r tîm i barhau â’r gwaith rhagorol y mae Dŵr Cymru’n ei gyflawni dros Gymru”.