Finance Icon

Hwb o £47 miliwn i gwsmeriaid Dŵr Cymru


13 Mehefin 2019

  • Dŵr Cymru'n cyhoeddi 'buddran cwsmeriaid' o £47 miliwn
  • Mae'r prosiectau a fydd yn elwa'n cynnwys disodli pibellau plwm, gwelliannau i'r rhwydwaith dŵr, gwaith i fynd i'r afael â thagfeydd mewn carthffosydd a buddsoddi mewn canolfannau ymwelwyr
  • Mwy o gyllid nag erioed o'r blaen yn mynd i gynorthwyo tua 125,000 o aelwydydd ag incwm isel
  • Cynhyrchwyd 79% yn llai o allyriannau carbon na’r hyn a gynhyrchwyd yn 2010
  • Mae lefelau'r buddsoddiad cyfalaf ar eu huchaf erioed gyda £452 miliwn

Bydd prosiectau, gan gynnwys rhaglen i ddisodli pibellau plwm, datblygu canolfannau ymwelwyr y cronfeydd dŵr, a chynorthwyo'r cwsmeriaid â'r incwm lleiaf, yn elwa ar fuddran cwsmeriaid uwch nag erioed o’r blaen, gwerth £47 miliwn, gan Ddŵr Cymru Welsh Water eleni.

Cyhoeddodd y cwmni’r fuddran - sy'n bosibl diolch i’w fodel perchnogaeth nid-er-cyfranddalwyr - ochr yn ochr â’i ganlyniadau ariannol a’i ganlyniadau o ran perfformiad, a chadarnhaodd hefyd fuddsoddiad cyfalaf uchaf erioed y cwmni o £452 miliwn - sef mwy nag £1.2 miliwn y dydd.

Roedd hyn yn cynnwys buddsoddiad o £31 miliwn i greu gweithfeydd trin newydd ym Mryn Cowlyd, Dolgarrog er mwyn sicrhau bod bron i 100,000 o gwsmeriaid yn Llandudno, Bae Colwyn, Conwy a'r ardaloedd cyfagos yn parhau i gael cyflenwadau dŵr yfed o'r safon uchaf yn wyneb hinsawdd sy'n newid.

Daw'r cyhoeddiad am y fuddran cwsmeriaid uwch nag erioed yma’n sgil cadarnhad bod Dŵr Cymru wedi cwtogi 79% ar ei allyriannau carbon ers 2010-2011, a hynny diolch i fuddsoddiad mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a defnyddio technolegau effeithlon o ran ynni ar ei safleoedd, a phrynu'r holl drydan nad yw'n cael ei gynhyrchu gan ei asedau ei hun o ffynonellau adnewyddadwy ardystiedig.

Caiff y fuddran ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau er budd y cwsmeriaid, ac arian yw hyn a fyddai'n mynd i'r cyfranddalwyr mewn cwmnïau preifat eraill. Dŵr Cymru yw'r unig gwmni cyfleustod "nid er cyfranddalwyr" yng Nghymru a Lloegr, ac mae ganddo dair miliwn o gwsmeriaid ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy a Sir Gaer. Mae Dŵr Cymru wedi dychwelyd tua £400 miliwn o werth i'w gwsmeriaid yn y modd yma ers 2001, pan ddaeth y cwmni i feddiant Glas Cymru.

Mae gwaith ymchwil annibynnol wedi dangos hefyd bod gan gwsmeriaid domestig Dŵr Cymru'r lefelau uchaf o hyder yn eu cwmni dŵr, ac mae’r cwmni’n denu’r lefelau uchaf o foddhad â gwasanaethau o blith holl gwmnïau dŵr Cymru a Lloegr. Cyhoeddodd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCWater) arolwg ar wahân ym mis Ebrill a oedd yn dangos bod cwsmeriaid busnes yng Nghymru’n fwy bodlon o dipyn ar eu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff na chwsmeriaid yn Lloegr.

Bydd y fuddran cwsmeriaid gwerth £47 miliwn ar gyfer y flwyddyn hon (2018: £40 miliwn) yn cynnwys prosiectau fel:

  • £12 miliwn i helpu ein cwsmeriaid â'r incwm isaf i dalu eu biliau dŵr
  • £10 miliwn o fuddsoddiad i wella dibynadwyedd ein rhwydwaith dŵr mewn ardaloedd lle mae problemau’n codi dro ar ôl tro - mae 205 o gilomedrau o bibellau wedi cael eu disodli'n barod, a 372 o gilomedrau wedi cael eu glanhau ar draws ein hardal weithredu yn rhan o raglen fuddsoddi gwerth £100 miliwn
  • £6 miliwn o fuddsoddiad i helpu i atal tagfeydd mewn carthffosydd a llifogydd mewn cartrefi a busnesau
  • £5 miliwn i gynyddu'r capasiti ar gyfer dŵr gwastraff yng nghyffiniau Afon Dyfrdwy ger Caer er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd carthion
  • £5 miliwn i wella effeithlonrwydd y busnes a lleihau costau er mwyn cadw biliau cwsmeriaid yn isel, gan gynnwys defnyddio technolegau digidol newydd a lleihau’r gost sy’n gysylltiedig â’r fflyd o gerbydau
  • Buddsoddi £4 miliwn mewn gweithfeydd trin dŵr er mwyn lleihau'r perygl o golli cyflenwadau dŵr dros dro
  • £2.5 miliwn i ddisodli pibellau cyflenwi plwm ein cwsmeriaid
  • £2.3 miliwn i wella'r cyfleusterau hamdden a mynediad cyhoeddus at gronfeydd dŵr Llanisien a Llys-faen yng Nghaerdydd, yn rhan o raglen Cymru-eang o fuddsoddiadau mewn canolfannau ymwelwyr

Mae Dŵr Cymru'n bwriadu ehangu ei raglen addysg hefyd, ar ôl cyrraedd hanner miliwn o blant hyd yn hyn. Cyflwynwyd y rhaglen yn 2001, gyda phedair "Canolfan Ddarganfod" ar draws ei hardal weithredu lle mae plant ysgol yn cael dysgu am y cylchred dŵr. Mae'r cwmni'n bwriadu cyrraedd record o 75,000 o blant y flwyddyn erbyn 2025.

Cyhoeddir y buddsoddiad ychwanegol yma mewn cwsmeriaid wrth i'r cwmni gyhoeddi canlyniadau ariannol a pherfformiad gweithredol cadarn - a hynny er gwaethaf blwyddyn ymestynnol iawn o ran tywydd eithafol, gyda chyfnod estynedig o sychder yn haf 2018, ac effeithiau Storm Callum yn yr hydref. Er gwaetha'r sialensiau difrifol yma, llwyddodd y cwmni i gyflawni ei darged o ran lleihau gollyngiadau ar gyfer y flwyddyn.

Cofnododd y cwmni fuddsoddiad cyfalaf gwerth cyfanswm o £452 miliwn yn 2018-19 (2017-18: £439 miliwn) - ac mae hi ar y trywydd iawn i fuddsoddi bron i £2 biliwn yn y pum mlynedd hyd 2020.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons: "Mae ein canlyniadau'n dangos bod Dŵr Cymru'n cydbwyso'r angen am gadw biliau'n fforddiadwy ar gyfer ein cwsmeriaid â'r angen am fuddsoddi yn ein gwasanaethau er mwyn sicrhau bod ein busnes yn gynaliadwy am ddegawdau i ddod. Mae hyn yn bosibl diolch i'n model unigryw lle nad oes unrhyw gyfranddalwyr gennym, sy'n ein galluogi ni i fuddsoddi yn y meysydd blaenoriaeth y mae ein cwsmeriaid yn ein cynorthwyo i'w clustnodi.

“Mae'r buddsoddiad uwch ar sail ein buddran, a'r canlyniadau ariannol cadarn yn ei gwneud hi'n bosibl i ni weithio i gyflawni'r amcanion tymor hir a bennwyd yn ein strategaeth Dŵr Cymru 2050. Bydd yr ymatebion strategol a bennwyd yn y ddogfen honno'n ein gosod mewn sefyllfa gadarn i fynd i'r afael â'r sialensiau pwysig a fydd yn wynebu'r diwydiant dŵr dros y degawdau nesaf, fel newid yn yr hinsawdd, twf yn y boblogaeth a disgwyliadau cynyddol ein cwsmeriaid.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: "Fel cwmni dŵr nid er elw, mae ymrwymiad gennym i weithredu er budd ein cwsmeriaid. Am nad oes unrhyw gyfranddalwyr gennym, gallwn ail-fuddsoddi’r elw yn ein busnes, mewn pethau fel ein cynllun i ddisodli pibellau plwm, gwytnwch eich rhwydwaith dŵr, a sicrhau bod ein rhwydwaith o garthffosydd yn gallu codi i sialensiau'r newid yn yr hinsawdd yn y tymor hir.

"Mae ein rhaglen addysg wedi cyrraedd dros hanner miliwn o blant dros y 18 mlynedd diwethaf - gan eu cynorthwyo i ddeall y rôl y gallwn ni i gyd ei chwarae er mwyn cyflawni'r weledigaeth a bennwyd yn Dŵr Cymru 2050, gan sicrhau lles cwsmeriaid dŵr y dyfodol am genedlaethau i ddod."