Finance

Dŵr Cymru i fuddsoddi £2 filiwn i daclo 'tomenni braster' yng Nghei'r Forforwyn


4 Medi 2018

Dŵr Cymru i fuddsoddi £2 filiwn i daclo 'tomenni braster' yng Nghei'r Forforwyn

Mae Dŵr Cymru Welsh Water ar fin dechrau gwaith ar gynllun buddsoddi pwysig yn y rhwydwaith dŵr gwastraff yng Nghei'r Forforwyn, Bae Caerdydd, ar gost o £2 filiwn. Bydd y gwaith, a fydd yn dechrau ym mis Medi, yn cynnwys cael gwared ar 'domen braster' bach o garthffos frics siâp wy o Oes Fictoria, cyn dechrau gwaith atgyweirio angenrheidiol ar y garthffos.

Oherwydd lleoliad sensitif y garthffos mewn ardal brysur, poblogaidd a phoblog ym Mae Caerdydd, mae dylunwyr Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio'n ddiflino i ddatblygu'r cynllun peirianneg mwyaf cost-effeithiol ac ansawdd uchel i drwsio'r garthffos, a fydd yn tarfu cyn lleied â phosibl ar fusnesau lleol, trigolion ac ymwelwyr.

Bu'r garthffos, sy'n rhedeg o dan Stryd Bute a Stryd Stuart yng Nghei'r Forforwyn, gynt yn garthffos lanwol â chapasiti mawr, ond cafodd ei hollti gan Dwneli Ffordd Butetown yn y 1990au. Dim ond ffracsiwn o'r llif y cafodd ei dylunio i ddarparu ar ei gyfer sy'n mynd i'r garthffos erbyn hyn.

Yn dilyn llifogydd mewn adeiladau yn yr ardal, ymchwiliodd Dŵr Cymru i'r mater, a chafwyd bod y garthffos mewn cyflwr gwael. Prif achos y broblem oedd croniad o fraster, olew a saim yn y garthffos, sy'n aml yn achosi tagfeydd yn y system.

O ganlyniad, mae'r cwmni wedi gorfod glanhau'r garthffos yn rheolaidd gan ddefnyddio offer pwysau uchel, sy'n ddrud ac yn drafferthus i drigolion yr ardal, ac mae hyn wedi cyflymu dirywiad cyflwr y bibell.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau ym mis Medi eleni a bydd yn cael ei gwneu mewn cymalau ar hyd Stryd Stuart ac yna Stryd Bute. Rydym yn tybio bydd y prif waith ar y carthffos yn cael ei orffen ym mis Mawrth a wedyn bydd gwaith bach yn cael eu wnedu ar ôl hynny.

Dywedodd Steve Wilson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru:
 "Pobl sy'n fflysio'r pethau anghywir i lawr y tŷ bach neu'n arllwys pethau amhriodol i lawr sinc y gegin sydd i gyfrif am ryw dri chwarter o'r holl rwystrau mewn carthffosydd rydyn ni'n deilio â nhw. Fel cwmni, rydyn ni'n ymateb i ryw 2,000 o dagfeydd y mis, ac mae hyn yn costio £7 miliwn y flwyddyn i ni.

“Wrth cynllunio’r gwaith hanfodol yma, rydym wedi ymgynghori’n agos gyda busnesau a thrigolion yr ardal i esbonio’r gwaith. I leihau effaith y gwaith, bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn cymalau gwahanol a byddwn hefyd yn stopio gweithio dros hanner tymor yr Hydref a hefyd yn ystod mis Rhagfyr i osgoi cyfnod prysur y Nadolig. Hoffwn ddiolch i bobl ymlaen llaw am ei amynedd tra bo ni’n gwneud y gwaith.

“Rydyn ni'n gofyn bob amser i'n cwsmeriaid fod yn ofalus o ran beth y maent yn ei waredu i'r draeniau fel y gall ein carthffosydd barhau i weithredu'n effeithiol. Rydyn ni'n gweithio gyda'r busnesau yng Nghei'r Forforwyn a'r cyffiniau i sicrhau bod ganddynt yr offer cywir i'w cynorthwyo i waredu braster, olew a saim mewn ffordd briodol er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

“Rydyn ni'n cynnal ein hymgyrch 'Stop Cyn Creu Bloc' yn yr ardal hefyd gyda'r nod o annog pobl i helpu i leihau'r risg o lygredd a llifogydd carthion trwy beidio â golchi braster, olew a saim i lawr i'r draeniau.”