Finance

Dŵr Cymru'n cynllunio gostyngiad o £22 mewn biliau a’n buddsoddi mwy nag erioed rhwng 2020-25


3 Medi 2018

Mae'r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr wedi cyflwyno ei gynllun busnes arfaethedig ar gyfer 2020-25 i Ofwat - rheoleiddiwr y diwydiant dŵr - a fydd, os caiff ei gymeradwyo, yn arwain at y buddsoddiad uchaf erioed o £2.3 biliwn dros bum mlynedd a gostyngiad o £22 yn y bil domestig cyfartalog (cyn chwyddiant).

  • 40,000 o gwsmeriaid yn helpu i lywio’r cynllun ar gyfer 2020-25
  • Gostyngiad arfaethedig o £22 yn y bil domestig cyfartalog (cyn chwyddiant)
  • Cynigir buddsoddiad mwy nag erioed o £2.3 biliwn
  • Bwriedir cynyddu nifer y cwsmeriaid sy'n cael cymorth i dalu eu biliau dŵr 50% i 150,000
  • Pedair gwaith yn fwy o gwsmeriaid ag anghenion blaenoriaeth i dderbyn cymorth
  • Cynlluniau i fynd i'r afael â sialensiau tymor hir fel sydd wedi eu hamlinellu yng Ngweledigaeth 2050 Dŵr Cymru megis newid yn yr hinsawdd, twf y boblogaeth a gwytnwch y rhwydwaith
  • 92% o'r cwsmeriaid yn gweld y cynlluniau'n dderbyniol, a 95% o’r farn eu bod yn fforddiadwy

Mae’r Cynllun Busnes wedi ei lywio gan y rhaglen ymgysylltu gyda chwsmeriaid fwyaf erioed a oedd yn cynnwys mewnbwn manwl gan 40,000 o gwsmeriaid ac yna adeiladu ar y £2 biliwn o fuddsoddiad sydd ar waith rhwng 2015 a 2020 a degawd o gadw unrhyw gynnydd blynyddol mewn pris islaw chwyddiant.

Mae’r broses - sydd yn cael ei chynnal bob pum mlynedd a’n cael ei hadnabod fel PR19 – wedi creu cynllun buddsoddi sydd wedi cael ei lywio gan y cwsmeriaid eu hunain, yn blaenoriaethu cydbwyso buddsoddiad â chadw biliau'n fforddiadwy, darparu mwy o gymorth ar gyfer y cwsmeriaid mwyaf bregus, a mynd i'r afael â rhai o'r sialensiau mwyaf sy'n wynebu'r cwmni dros y tri degawd nesaf.

Mae'r cynllun yn dilyn cyhoeddiad strategaeth Gweledigaeth 2050 Dŵr Cymru, sy'n disgrifio sut y bydd y cwmni'n mynd i'r afael â rhai o'r sialensiau mwyaf sy'n ei wynebu o ran darparu gwasanaethau dros y tri degawd nesaf gan gynnwys goblygiadau'r newid yn yr hinsawdd, twf yn y boblogaeth, seilwaith sy'n heneiddio, twf yr economi digidol a newidiadau yn nisgwyliadau cwsmeriaid. Mae’r cynllun ar gyfer 2020-25 yn cynrychioli’r cam cyntaf ar y daith sydd yng Ngweledigaeth 2050 Dŵr Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r heriau yma.

Mae'r cwmni'n gwasanaethu mwy na thair miliwn o gwsmeriaid ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy a Sir Gaer, a hi yw'r unig gwmni cyfleustod heb gyfranddeiliaid yng Nghymru a Lloegr - sy'n golygu ei fod yn ail-fuddsoddi unrhyw "elw" y mae'n ei wneud er budd cwsmeriaid. Mae'r “buddrannau cwsmeriaid” yma wedi cyrraedd cyfanswm o ryw £350 miliwn ers i'r cwmni gael ei brynu gan Glas Cymru a dod yn gwmni dŵr nid-er-elw yn 2001.

Mae Dŵr Cymru wedi gosod chwe addewid i gwsmeriaid wrth galon ei gynllun, mae’r rhain yn cynnwys:

  • Biliau teg i bawb – bydd y cwmni'n sicrhau bod y bil cyfartalog 5% yn is na chyfartaledd heddiw erbyn 2025 - a bydd yn gweithio i sicrhau bod mwy o bobl nag erioed (150,000) yn cael eu cynorthwyo gan ei dariffau cymdeithasol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy leihau costau 10% - gan adeiladu ar y record gorau yn y diwydiant ers 2000 o ran lleihau costau gweithredol.
  • Dŵr glân a diogel i bawb – bydd y cwmni'n disodli pibellau hŷn yn yr ardaloedd lle mae’r problemau mwyaf, gan ddarparu dŵr gwell ar gyfer bron i filiwn o bobl. Bydd yn lansio cynllun disodli pibellau ar gyfer 7,000 o gartrefi hefyd
  • Diogelu'r amgylchedd – bydd Dŵr Cymru'n buddsoddi mewn gwaith cynnal a thechnoleg i drechu tagfeydd sy'n cael eu hachosi wrth i bobl fflysio deunyddiau amhriodol, ac yn lleihau nifer y digwyddiadau o lygredd. Bydd yn cynhyrchu traean o'i ynni o ffynonellau gwyrdd erbyn 2015 hefyd, ac yn gwella ansawdd dŵr tua 400km (250 milltir) o afonydd
  • Dull personol o fynd ati – nod y cwmni fydd pedryblu nifer y bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer cymorth blaenoriaeth am eu bod o dan amgylchiadau bregus i 100,000, a sicrhau bod cwsmeriaid sy'n cysylltu â'r cwmni'n gallu gwneud hynny gan ddefnyddio'r gwasanaeth sydd orau iddyn nhw, gan gynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Unioni pethau – mae'r cwmni wedi addo cwtogi 15% pellach ar ollyngiadau ar ôl eu haneru dros 20 mlynedd, a bydd yn darparu gwasanaeth trwsio gollyngiadau domestig hefyd
  • Dyfodol mwy cynaliadwy a llewyrchus – bydd yn buddsoddi rhagor yn ei brosiect “GlawLif” blaenllaw i leihau llifogydd trwy ddulliau naturiol, ac yn ehangu ei raglenni addysg a'i fuddsoddiad mewn canolfannau ymwelwyr

Cyfrannodd cyfanswm o ryw 40,000 o gwsmeriaid at ddatblygiad y cynllun dros ddwy flynedd - o grwpiau ffocws, gweithdai yn y gymuned, achlysuron i randdeiliaid, ein "cymuned ar-lein" cyntaf, ein "Bwrdd Ieuenctid" cyntaf erioed, a'r ymgynghoriadau Dweud eich Dweud pwysig. Dangosodd gwaith ymchwil annibynnol i bwyso a mesur pa mor dderbyniol oedd y cynllun i gwsmeriaid drwyddi draw bod y cynllun yn dderbyniol i 92% o'n cwsmeriaid a'i fod yn fforddiadwy yn llygaid 95%.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: "Fel cwmni nid-er-elw, mae buddiannau ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn.

“Nod y cynlluniau yw taro'r cydbwysedd iawn rhwng buddsoddi at y dyfodol, a chadw biliau'n fforddiadwy ar gyfer cwsmeriaid. Gyda gwell gwasanaethau, mwy o gymorth i bobl fregus, buddsoddiad uwch a biliau is, rydyn ni'n hyderus bod y cynllun yma'n cynnig gwerth gwell byth ar gyfer ein cwsmeriaid dros y blynyddoedd nesaf.”

Dywedodd Alastair Lyons, Cadeirydd Glas Cymru: “Ffrwyth dros ddwy flynedd o waith yw'r cynllun hwn, a hoffem ddiolch i'r miloedd o gwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill sydd wedi cyfrannu safbwyntiau yn ystod y broses gan helpu i sicrhau taw hwn yw'r cynllun busnes sydd wedi manteisio fwyaf ar safbwyntiau cwsmeriaid yn hanes Dŵr Cymru.

"Rydyn ni'n credu ei bod hi'n gynllun uchelgeisiol sy'n cynrychioli cam ymlaen o ran sicrhau cadernid y busnes i ddelio gyda heriau’r dyfodol tra hefyd yn cynnig gwrth am arian i gwsmeriaid – am y pum mlynedd nesaf, ac am genedlaethau i ddod."
Mae Grŵp Herio ar ran Cwsmeriaid (CCG) annibynnol wedi craffu ar gynllun busnes Dŵr Cymru ar gyfer 2020-2025 hefyd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu buddiannau cwsmeriaid mewn ffordd briodol.

Dywedodd Peter Davies, Cadeirydd y Grŵp Herio ar ran Cwsmeriaid (CCG): "Mae ein hadroddiad yn dangos i ba raddau y mae'r CCG wedi ymgysylltu â'r cwmni trwy gydol y broses o ddatblygu'r cynllun. Mae cwsmeriaid wedi dylanwadu ar y cynllun ac mae'r CCG wedi bod yn cyfrannu ar bob cam yn y broses o'i ddatblygu.

Barn y CCG yw bod y cwmni wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau ei fod yn deall safbwyntiau cynrychiadol ei sylfaen o gwsmeriaid, a defnyddiwyd y dystiolaeth yn hynny o beth i ddatblygu'r ymrwymiadau o ran perfformiad a biliau cwsmeriaid yn y cynllun busnes. Mae'r profion terfynol o dderbynioldeb yn dangos cefnogaeth gref i'r cynllun o ran ei fod yn bodloni disgwyliadau cwsmeriaid ac yn cynnig gwell gwerth am arian.”

 


Newid canrannol mewn gwariant gweithredol ers 2001 (cyn sgil-effaith chwyddiant)

 

Newid mewn bil aelwyd cyfartalo (2000-2016, cyn chwyddiant)