enviroment

Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cyngor Defnyddwyr Ddŵr yn atgoffa cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn ddoeth


20 Gorffennaf 2018

Mae cwsmeriaid Dŵr Cymru’n cael eu hannog i barhau i ddefnyddio dŵr yn effeithlon er mwyn helpu'r cwmni i gynnal ei gyflenwadau dŵr ac amddiffyn yr amgylchedd, am y disgwylir i'r tywydd sych barhau trwy Orffennaf ac i mewn i fis Awst

Mis Mehefin oedd y poethaf ar record yng Nghymru, gyda chwta 24% o'r glawiad cyfartalog tymor hir yn ystod y mis. Disgwylir i'r tywydd poeth barhau, ac ychydig iawn o law sydd yn y rhagolygon ar gyfer yr ychydig wythnosau nesaf, felly mae Dŵr Cymru'n cydweithio'n agos â’r corff gwarchod sef Cyngor Defnyddwyr Dŵr, a Chyfoeth Naturiol Cymru i atgoffa cwsmeriaid y bydd defnyddio dŵr yn ddoeth yn helpu i amddiffyn eu cyflenwadau ac yn helpu'r amgylchedd ehangach hefyd. Defnyddir llawer o gronfeydd tir uchel y cwmni i ryddhau dŵr ychwanegol i mewn i afonydd o dan amodau fel hyn er mwyn codi lefel yr afonydd ac amddiffyn bywyd gwyllt lleol.

Erbyn hyn mae'r cwmni'n gwario £1.5 miliwn ychwanegol yr wythnos i ddiogelu cyflenwadau dŵr ei dair miliwn o gwsmeriaid ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a Glannau Dyfrdwy. Mae hi eisoes wedi cymryd camau helaeth i baratoi ar gyfer y cyfnod estynedig hwn o dywydd sych a'i reoli, gan gynnwys:

  • cael 450 o bobl yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos i ganfod a thrwsio 140 o ollyngiadau y dydd (80 o dan amodau arferol). Er bod gollyngiadau wedi haneru dros y 10 mlynedd diwethaf a'u bod yn is nag erioed erbyn hyn, anogir cwsmeriaid i roi gwybod i Ddŵr Cymru am unrhyw ollyngiadau sy’n dod i’w sylw am y bydd y cwmni'n trwsio pibellau cwsmeriaid am ddim os oes ganddynt ddŵr yn gollwng;
  • defnyddio 40 o danceri i symud dŵr o amgylch y rhwydwaith a defnyddio piblinellau a gorsafoedd pwmpio dros dro i gynnal cyflenwadau cwsmeriaid lle'r ydyn ni wedi gweld cynnydd anferth yn y galw; a
  • • phwmpio dros 1 biliwn o litrau'r dydd i mewn i'r rhwydwaith dros y 15 diwrnod diwethaf. Mae hyn 25% yn fwy na'r cyfaint sy'n cael ei bwmpio i'r rhwydwaith bob dydd fel rheol.

 

Mae'r cwmni'n annog cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn ddoeth trwy:

 

  • Gymryd hoe o ddyfrio'r ardd - fe fydd y lawnt yn tyfu nôl yn ddigon cyflym pan ddaw’r glaw
  • Cael cawod fer yn lle bath
  • Peidio â gadael y tap yn rhedeg wrth frwsio dannedd
  • Gwneud yn siŵr bod y peiriannau golchi dillad a llestri yn llawn cyn eu cychwyn

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Dŵr: “Mae'r lefelau o ran defnydd dŵr wedi bod uwch nag erioed dros yr wythnosau diwethaf. Nid yw hynny'n syndod o feddwl am y tymheredd uwch nag erioed ym mis Mehefin a'r diffyg glawiad o bwys ym mis Gorffennaf.

“Disgwylir i'r tywydd ymestynnol yma barhau, a'r tu ôl i'r llenni, rydyn ni'n gweithio ddydd a nos i gynnal y cyflenwadau trwy ganfod a thrwsio gollyngiadau, defnyddio ein rhwydwaith integredig o bibellau i symud dŵr o un lle i'r llall, a defnyddio tanceri i fwydo ein rhwydwaith yn uniongyrchol hefyd. Hoffem ddiolch ein cwsmeriaid am weithio gyda ni, a'u hannog i barhau i roi gwybod i ni am unrhyw ddŵr sy'n gollwng a defnyddio'r cynghorion rydyn ni wedi bod yn eu cyhoeddi ar ddefnyddio dŵr yn effeithlon fel y gallwn helpu i amddiffyn cyflenwadau dŵr a chwarae ein rhan wrth ddiogelu'r amgylchedd lleol”

Dywedodd Natalie Hall, Rheolwr Dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Ni sy'n gyfrifol am sicrhau defnydd priodol ar adnoddau naturiol yng Nghymru a sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i ddiwallu'r holl anghenion, gan gynnwys yr amgylchedd a phobl. .

Rydyn ni'n gweld llif isel iawn yn ein hafonydd a glawiad isel iawn ar draws Cymru yn ystod y cyfnod estynedig hwn o dywydd sych, ac mae yna bryderon y bydd ansawdd dŵr a'r amgylchedd yn dioddef os bydd y tywydd sych yn parhau drwy'r haf.

Mae pob un diferyn o ddŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio'n dod o afonydd neu ddŵr daear, felly rydyn ni'n gofyn i bobl arbed dŵr gymaint â phosibl.

“Mae arbed dŵr yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud ac mae gwneud pethau mewn ffordd ychydig bach yn wahanol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr - fel cael cawod yn lle bath, cau'r tap wrth frwsio dannedd, lleihau eich defnydd o daenellwyr a defnyddio casgenni dŵr.”

Dywedodd Tom Taylor, Cadeirydd Pwyllgor Cymru y Cyngor Defnyddwyr Dŵr: “Mae cwsmeriaid yn fwy parod o lawer i ddefnyddio dŵr yn ddoeth os ydyn nhw'n gallu gweld bod eu cwmni dŵr yn mynd gam ymhellach i gynnal cyflenwad dibynadwy o ddŵr, felly rydyn ni'n falch fod Dŵr Cymru'n cymryd yr union fath o gamau y byddem yn eu disgwyl.”

“Am nad oes unrhyw argoelion am ddiwedd y tywydd poeth ar hyn o bryd, rydyn ni'n annog pobl ar draws Cymru i ddal ati i chwarae eu rhan wrth wneud i bob un diferyn o ddŵr gyfrif yn y cartref a'r ardd. Gall cwsmeriaid elwa ar awgrymiadau gwych am ffyrdd o wneud hyn ar ein gwefan ac ar wefan Dŵr Cymru hefyd - mae hi'n syndod faint o wahaniaeth y gall newidiadau bychain eu gwneud.”