Mae Dŵr Cymru'n annog ei dair miliwn o gwsmeriaid i barhau i weithio gyda'r cwmni trwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth – er ei bod hi’n bosibl bod glaw ar y gorwel. Ar ôl cyfnod mor hir o dywydd sych, fe fydd hi'n anodd i unrhyw law suddo i'r ddaear a helpu i adfer lefelau'r cronfeydd.
Mae'r cwmni - sy'n darparu dŵr yfed ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy - yn diogelu cyflenwadau dŵr yn dilyn y mis Mehefin poethaf yng Nghymru ers i'r cofnodion ddechrau yn 1910. Mae'r cwmni wedi bod yn cymryd camau rhagweithiol ers dau fis i baratoi ar gyfer y tywydd poeth, gyda 450 o gydweithwyr allan yn canfod ac yn trwsio gollyngiadau, a'r 62 o weithfeydd trin yn cael eu staffio 24 awr y dydd er mwyn cyflenwi record o 1 biliwn o litrau'r dydd.
Cadarnhaodd y cwmni bod rhai o'i 87 o gronfeydd yn is nag arfer ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn, ond bod hynny'n rhywbeth y gellid ei ddisgwyl yng ngoleuni'r cyfnod estynedig o dywydd sych. Bydd adfer y cronfeydd i'w lefelau arferol yn cymryd cryn amser er gwaetha'r glaw a ddisgwylir dros yr wythnos nesaf.
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr: "Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod digon o ddŵr yn ein rhwydwaith yn ystod y cyfnod eithriadol o sych yma, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Rydyn ni wedi bod yn gwneud llawer o waith paratoi yn y cefndir i baratoi ar gyfer y tywydd yma, ac rydyn ni'n dal i wneud popeth y gallwn ni i ddiogelu cyflenwadau. Mae hyn yn cynnwys canfod a thrwsio gollyngiadau a phwmpio mwy o ddŵr i mewn i'r rhwydwaith bob dydd nag erioed o'r blaen.
“Mae hi'n bwysig dros ben bod ein cwsmeriaid yn parhau i weithio gyda ni yn ystod y cyfnod yma. Os oes cwsmer yn gweld dŵr yn gollwng, rydyn ni'n gofyn iddynt roi gwybod i ni. Rydyn ni'n gofyn iddynt hefyd ystyried faint o ddŵr maen nhw'n ei ddefnyddio. Rydyn ni am i bawb aros yn ddiogel ac yfed dŵr yn y tywydd poeth, ond rydyn ni'n atgoffa pawb hefyd am yr angen am ddefnyddio dŵr yn ddoeth ac yn ddarbodus.
“Hwyrach y bydd cwsmeriaid yn sylwi bod lefelau rhai cronfeydd dŵr yn is nag arfer, ond nid yw hynny'n syndod o ystyried y tywydd sych estynedig yma. Rydyn ni i gyd yn defnyddio mwy o ddŵr ac felly rydyn ni’n pwmpio 20% yn fwy o ddŵr i mewn i'r system. Mae hyn yn ein helpu ni i ddiwallu'r galw uwch mewn cymunedau penodol. Rydyn ni'n defnyddio ein fflyd o dros 30 o'n tanceri ein hunain i helpu hefyd.
“Hyd yn oed os bydd y tywydd yn troi a'i bod hi'n bwrw glaw, mae hi'n bwysig bod cwsmeriaid yn parhau i weithio gyda ni gan ddefnyddio dŵr yn effeithlon. Gall cwsmeriaid gael cyngor am sut i ddefnyddio dŵr yn ddoeth yn eu cartrefi a'r ardd ar ein gwefan, dwrcymru.com”
Gall cwsmeriaid ein helpu ni gyda hyn hefyd trwy roi gwybod i ni am unrhyw ollyngiadau ar unwaith, naill ai trwy ein gwefan neu trwy ffonio ein llinell gollyngiadau ar 0800 052 0130. Mae ein timau allan yn gweithio rownd y cloc i drwsio gollyngiadau ar y rhwydwaith er mwyn sicrhau bod cymaint o ddŵr â phosibl ar gael i gwsmeriaid ei ddefnyddio.