Dŵr Cymru’n cwblhau darn mawr o brosiect uwchraddio system ddŵr y Porth yn brydlon


23 Mai 2018

Mae darn mawr o waith buddsoddi a fydd yn helpu i sicrhau dŵr yfed o’r safon uchaf ar gyfer trigolion y Porth am ddegawdau i ddod wedi’i gwblhau’n brydlon. Roedd gwaith Dŵr Cymru ar Heol Pontypridd yn rhan o brosiect ehangach gwerth £2 filiwn i uwchraddio system dŵr yfed y dref.

Roedd y gwaith ar Heol Pontypridd yn cynnwys gosod tua 400 metr o bibellau newydd ar hyd darn prysur o’r heol yn y dref. Er mwyn sicrhau bod modd gwneud y gwaith yn ddiogel, roedd rhaid cau’r heol i draffig trwodd a’i anfon trwy Hannah Street.

Bu’r cwmni’n trafod yn fanwl gyda busnesau’r ardal er mwyn sicrhau bod y gwaith hanfodol yn tarfu cyn lleied ag oedd modd arnynt. Roedd hyn yn cynnwys cynnal sesiynau galw heibio cyn dechrau ar y gwaith ac ymweld â’r busnesau’n rheolaidd yn ystod y gwaith. Yn ogystal roedd modd i gwsmeriaid alw yn fan wybodaeth arbennig y cwmni nid-er-elw os oedd ganddynt gwestiynau am y gwaith.

Gwnaed peth gwaith ar benwythnosau er mwyn cyflymu’r broses o osod y pibellau, yn enwedig trwy’r ardal breswyl.

Dywedodd Cynghorydd lleol y Porth, Julie Williams “Mae’n dda gweld bod y gwaith ar hyd Heol Pontypridd wedi’i orffen yn brydlon. Roedden ni’n gwybod bod hwn yn waith hanfodol ac y byddai’n siŵr o darfu ar bobl i ryw raddau ond bydd y pibellau dŵr newydd yn dod â manteision hirdymor i bobl yr ardal. Roedd y contractwyr yn gweithio’n galed ac fe wnaethon nhw eu gorau i orffen y gwaith cyn gynted ag y gallen nhw. Roedd y cwmni’n cadw mewn cysylltiad â’r Cynghorydd Cox a minnau ynglŷn â’r darn hwn o’r gwaith o’r dechrau i'r diwedd.

Dywedodd Aled Morgan, Rheolwr Rhaglen Seilwaith Dŵr Cymru: “Rŷn ni wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo i gwblhau’r rhan heriol hon o’r cynllun yn brydlon. Dyw hi byth yn hawdd gweithio mewn ardal mor brysur ac fe wnaethon ni ein gorau i gwblhau’r gwaith cyn gynted ag y gallen ni er mwyn creu cyn lleied o drafferth ag oedd modd.

“Rŷn ni’n deall y gall ein gwaith achosi anghyfleustra ac felly rŷn ni’n gwerthfawrogi’r cydweithrediad a gawson ni gan fasnachwyr a thrigolion yr ardal ac fe hoffen ni ddiolch iddyn nhw am fod mor amyneddgar. Roedd y darn o’r gwaith ar hyd Heol Pontypridd yn rhan fawr o’r cynllun ac roedden ni’n awyddus i gadw mewn cysylltiad â masnachwyr, cwsmeriaid a thrigolion yr ardal o’r dechrau i’r diwedd.

“Byddwn ni’n dal i weithio yn ardal y Porth am rai wythnosau a byddwn ni’n dal i gadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid sy’n byw yn ardal y gwaith.

Bydd y ffordd yn dal ar gau ar Heol Pontypridd tra bydd yr awdurdod lleol yn gwneud gwaith hanfodol ar wal gynnal yn yr ardal

Mae gwaith Dŵr Cymru yn y Porth yn rhan o fuddsoddiad ehangach gan y cwmni yn y pibellau dŵr yfed yng nghwm Rhondda Fach. Mae’r cwmni’n buddsoddi cyfanswm o dros £23 miliwn yn yr ardal ac maent eisoes wedi gwneud gwelliannau hanfodol mewn ardaloedd fel y Maerdy, Stanleytown, Wattstown, y Porth a Threhafod. Mae’r prif bibellau dŵr yn cael eu hadnewyddu er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn yr ardal yn dal i gael cyflenwad dŵr yfed o’r safon uchaf am ddegawdau i ddod.