enviroment

Dŵr Cymru ac elusennau amgylcheddol yn dod at ei gilydd i wella ein dyfrffyrdd


17 Medi 2018

Mae 29 corff anllywodraethol yng Nghymru, wedi eu cydlynu gan Gyswllt Amgylchedd Cymru a'r cwmni dŵr, Dŵr Cymru Welsh Water1, yn cyhoeddi heddiw eu bod yn dod at ei gilydd i lunio cyfres o egwyddorion a fydd yn pennu sut y byddant yn cydweithio er mwyn helpu i adael yr amgylchedd mewn cyflwr gwell.

Bydd yr egwyddorion hyn yn helpu i fwydo ein hymatebion at y cyfle unwaith mewn oes i greu dulliau newydd mwy cynaliadwy o reoli tir wrth i ni ymadael â'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Mae Dŵr Cymru ac elusennau eisoes yn cydweithio ar brosiectau niferus ledled Cymru. Mae'r prosiectau cyffrous ac arloesol hyn yn cwmpasu pob math o faterion amgylcheddol, o drechu llygredd sy'n cael ei achosi wrth i bobl fflysio pethau amhriodol fel weips, i hidlo dŵr yn naturiol, i weithio gyda ffermwyr ar dechnegau amaethyddol sy'n well i'r amgylchedd.


Astudiaeth Achos: Clear Streams, Abertawe
Nod y fenter Clear Streams yw creu amgylchedd dyfrol mwy iach a glân er budd pobl, cymunedau a bywyd gwyllt.

Dŵr Cymru Welsh Water a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n ariannu'r prosiect, a Fforwm Amgylcheddol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru sy'n ei gyflawni. Er bod ansawdd dŵr ac iechyd cyffredinol afonydd a dyfroedd Abertawe’n gwella ar y cyfan, mae sawl un yn llygredig o hyd ac maent yn methu â chyflawni statws 'da' y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Nod allweddol Clear, Streams yw creu amgylchedd dyfrol mwy iach a glân er bydd pobl cymunedau a bywyd gwyllt, nawr ac at y dyfodol.



Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno ei gynlluniau busnes ar gyfer 2020-25 y mis yma. Byddwn ni'n defnyddio'r cyd-egwyddorion hyn i gydweithio'n fwy effeithiol ar faterion amgylcheddol a bywyd gwyllt, gan gyflwyno rhagor o brosiectau ar lawr gwlad sy'n cyflawni gwell deilliannau ar gyfer yr amgylchedd a gwell gwerth am arian.

Dywedodd Jerry Langford o Goed Cadw, sy’n Gadeirydd ar Weithgor Coedwigaeth a Dŵr Croyw WEL: "Ansawdd dyfroedd croyw yw un o'r dangosyddion gorau sydd gennym i bwyso a mesur a yw tir yn iach ac a yw'n cael ei reoli'n dda. Os gallwn wneud ein hafonydd a'n llynnoedd yn lân a'u hadfer i ddarparu cynefin llewyrchus ar gyfer y bywyd dyfrol sy'n dibynnu arnynt, yna byddai hynny'n dangos bod y bobl sy'n rheoli'r tir yn gwneud hynny'n dda, a bod llygredd dan reolaeth.”

Dywedodd Karen Whitfield, Cyfarwyddwraig Cyswllt Amgylchedd Cymru: “Mae ein haelodau'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Dŵr Cymru Welsh Water i wella ein hamgylchedd dyfrol. Mae gweithredu cydgysylltiedig gan fyd busnes ac amgylcheddwyr yn hanfodol er mwyn creu dyfroedd croyw iach a llewyrchus ar gyfer pobl a byd natur.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Amgylcheddol Dŵr Cymru, Tony Harrington: "Mae'r addunedau hyn yn ymgorffori'r ffordd rydym am weithio gyda'n partneriaid amgylcheddol, ac maent yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol rheoli ein tir ar sail dalgylch-eang - gan weithio gyda pherchnogion tir, ffermwyr a rhanddeiliaid eraill i reoli'r tir mewn ffordd gynaliadwy er mwyn amddiffyn yr amgylchedd o'n cwmpas yn well er budd ein cwsmeriaid a chenedlaethau'r dyfodol."

Mae'r cyd-egwyddorion a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys: parhau i weithio ar y cyd ar bolisi a phrosiectau; codi ymwybyddiaeth am y cysylltiadau rhwng rheoli dŵr a'r amgylchedd naturiol; cydweithio i gyflawni ac adeiladu ar rwymedigaethau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr; rhannu setiau data allweddol; ac ymdrechion ar y cyd i gyfoethogi a gwella gwytnwch ecosystemau dyfrol.