Finance

Hwb £1.9m i ddyfroedd ymdrochi Dinbych y Pysgod a Saundersfoot wedi ei gwblhau’n gynt na'r disgwyl


30 Mai 2018

Hwb £1.9m i ddyfroedd ymdrochi Dinbych y Pysgod a Saundersfoot wedi ei gwblhau’n gynt na'r disgwyl

  • Dŵr Cymru’n cwblhau'r gwaith buddsoddi i wella perfformiad y rhwydwaith dŵr gwastraff
  • Buddsoddwyd £1.5 miliwn mewn arllwysfa newydd sbon i'r môr yn Saundersfoot
  • Buddsoddwyd £400,000 mewn carthffos newydd yn Sgwâr y Castell, Dinbych y Pysgod
  • Traethau Saundersfoot a Dinbych y Pysgod yn ennill Baneri Glas

Dwr Cymru

Ers dechrau'r flwyddyn, mae Dŵr Cymru wedi bod yn cyflawni gwaith buddsoddi pwysig ar y systemau dŵr gwastraff yn Ninbych y Pysgod a Saundersfoot. Daw'r prosiectau hanfodol hyn â manteision tymor hir i'r ardal trwy wella perfformiad y rhwydwaith, lleihau'r perygl o lifogydd, a rhoi hwb i ansawdd y dyfroedd ymdrochi.

Cafodd gwaith y cwmni nid-er-elw ei gwblhau'n gynt na'r disgwyl er gwaethaf y tywydd garw dros y gaeaf. Roedd y sialensiau’n cynnwys gweithio gyda phatrymau'r llanw yn harbwr Saundersfoot, a theithio dros strydoedd coblog Dinbych y Pysgod.

Un o'r pethau allweddol wrth ennill 'Baner Las' yw ansawdd y dyfroedd ymdrochi. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd fod Cymru wedi ennill cyfanswm o 47 o Faneri Glas eleni - sy'n golygu bod gan Gymru mwy o Faneri Glas y filltir nag unrhyw le arall yn y DU. Gan Sir Benfro mae'r nifer fwyaf o faneri gyda chyfanswm o 11, ac mae Saundersfoot a thri o draethau Dinbych y Pysgod yn eu plith. Bydd buddsoddiad Dŵr Cymru o £1.9 miliwn yn Ninbych y Pysgod a Saundersfoot yn helpu i amddiffyn dyfroedd ymdrochi Sir Benfro am ddegawdau i ddod.

Dywedodd Cynghorydd Saundersfoot, Phil Baker, "Hoffwn estyn diolch i Ddŵr Cymru am eu gwaith diweddar i adnewyddu'r arllwysfa i'r môr yn Saundersfoot. Cafodd pob agwedd ar y prosiect eu rheoli'n dda, o'r sialensiau peirianyddol oherwydd y llanw, i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Fe gwrddais i â thîm y prosiect yn yr arddangosfa leol yn Neuadd y Pentref, wedyn fe gwrddais i â nhw'n gyson yn ystod y gwaith adeiladu ac mewn achlysuron Cymunedol a ddenodd eu cefnogaeth yn y Pentref. Llongyfarchiadau i'r tîm i gyd – roedd hi’n dasg anodd, o dan amodau ymestynnol, ar draeth cyhoeddus.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Baker "Roeddwn i wrth fy modd hefyd i weld y cwmni'n ymweld ag Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot wrth iddynt weithio yn yr ardal. Rhoddodd hyn gyfle i gyw-beirianwyr ifanc ddylunio rhwydwaith dosbarthu dŵr - gyda dŵr llif go iawn. Cafodd pawb gymaint o hwyl!”

Dywedodd yr Aelod o'r Cynulliad sy'n cynrychioli'r ardal, Angela Burns, "Rydw i wrth fy modd i glywed am fuddsoddiad Dŵr Cymru yn ein seilwaith lleol yma yn Ne Sir Benfro. Mae llawer o'r systemau'n hen iawn ac yn ei chael hi'n anodd iawn ymdopi â'r galw a'r capasiti uwch.

"Er nad yw'r effeithiau'n amlwg bob tro, bydd buddsoddiad o'r maint yma'n cael effaith gadarnhaol ar ein systemau carthffosiaeth oedrannus, ac mae'n dangos bod Dŵr Cymru wedi bod yn gwrando ar leisiau’r bobl leol sydd wedi bod yn gofyn am y gwaith uwchraddio yma."

Dywedodd Rheolwr y Rhaglen ar ran Dŵr Cymru, Andrew Roberts: "Prosiectau peirianneg ymestynnol oedd y ddau, ac roedd angen cynllunio manwl i osod pibell yr arllwysfa newydd a'r garthffos newydd yn ôl y safonau gofynnol.

“Rydyn ni'n awyddus i roi rhywbeth nôl i'r cymunedau lleol sydd wedi ein cefnogi ni trwy'r gwaith yma, a byddwn felly'n cefnogi nifer o achlysuron dros yr haf. Hoffem annog grwpiau cymunedol i gyflwyno ceisiadau i Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru hefyd, ac mae rhagor o wybodaeth am hyn ar ein gwefan www.dwrcymru.com.