Buddsoddiad uwch nag erioed i hybu gwytnwch rhag y newid yn yr hinsawdd
- Buddsoddwyd mwy na £219 miliwn yn ystod y chwe mis cyntaf – ar y trywydd iawn i fuddsoddi £460 miliwn dros y flwyddyn
- Mae Dŵr Cymru'n parhau i fuddsoddi'n drwm mewn gwytnwch - gan gynnwys ei waith sydd ar flaen y gad i wella diogelwch argaeau, a'i raglen GlawLif i helpu i drechu llifogydd trefol
- Dim cyfyngiadau ar gyflenwadau er gwaethaf haf fwy sych na 1976
- £7 miliwn y flwyddyn o gyllid o elw'r cwmni i helpu cwsmeriaid sy'n cael yr anawsterau mwyaf i dalu eu biliau dŵr
- Y cwmni'n cynllunio i fuddsoddi record o £2.3 biliwn a lleihau biliau dros y pum mlynedd o 2020 ymlaen
Yn 2018 hyd yn hyn, mae'r cwmni wedi ymateb i dri digwyddiad o dywydd eithafol, gan gynnwys cyfnod o sychder dros yr haf a oedd yn fwy sych na 1976, a rhai o'r llifogydd gwaethaf ers dros 50 mlynedd mewn rhannau o'r de'r mis diwethaf yn sgil Storm Callum. Er y bu nifer fach o drafferthion lleol, llwyddwyd i osgoi effaith ddifrifol ar gwsmeriaid i bob pwrpas, a hynny diolch i'n buddsoddiad parhaus mewn gwytnwch ac ymdrechion sylweddol ein pobl i gadw gwasanaethau ar y trywydd iawn ar gyfer cwsmeriaid.
Mae buddsoddiad diweddaraf y cwmni i wella gwytnwch ei wasanaethau’n cynnwys:
- ein rhaglen “Pibellau mewn Argaeau” arloesol sy'n sicrhau bod ein argaeau - yr adeiladwyd rhai ohonynt yn Oes Fictoria ac Oes Edward - yn barod i wynebu’r sialensiau a ddaw yn sgil hinsawdd sy'n newid am genedlaethau i ddod. Mae'r rhaglen hon, y credir ei bod yn flaenllaw yn ei maes yn rhyngwladol, yn cynnwys gwaith £10 miliwn i foderneiddio argae Tal-y-bont ym Mannau Brycheiniog gan ddefnyddio plymwyr a cherbydau tanddwr sy'n cael eu rheoli o bell dros gyfnod sawl mis i uwchraddio'r pibellwaith y tu fewn i'r argae heb effeithio ar gyflenwadau dŵr yfed dros 30,000 o aelwydydd.
- datblygu ein rhaglen GlawLif arobryn sy’n defnyddio dulliau naturiol i atal dŵr glaw rhag llifo i'r system garthffosiaeth yn Llanelli. Mae’r rhaglen wedi denu clod yn lleol am helpu'r dref i osgoi effeithiau gwaethaf Storm Callum ganol Hydref. Mae llwyddiant GlawLif wedi esgor ar ail gynllun "draenio trefol cynaliadwy" - ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Chyfoeth Naturiol Cymru – a fydd yn lleihau'n sylweddol faint o ddŵr glaw sy'n llifo i'r rhwydwaith carthffosiaeth yn ardal Grangetown, Caerdydd.
Mae'r prosiectau hyn yn rhan o ffocws Dŵr Cymru ar fuddsoddi nawr er mwyn hybu gwytnwch tymor hir – sef dull o weithredu a ddenodd gefnogaeth cwsmeriaid y cwmni yn ystod yr ymgynghoriad Dweud eich Dweud, ac sy'n llwyr ymgorffori gweledigaeth 2050 Dŵr Cymru.
Dangosodd gwaith ymchwil a ryddhawyd ym mis Awst - a gyhoeddwyd gan Gyngor y Defnyddwyr Dŵr - taw Dŵr Cymru yw'r cwmni dŵr a charthffosiaeth y mae pobl yn ymddiried ynddo fwyaf yng Nghymru a Lloegr, a'r uchaf ei barch am werth am arian a boddhad cwsmeriaid.
Yn ogystal, cadarnhaodd y cwmni y cadwyd bil yr aelwyd gyfartalog yn 2018 yn is na mesur chwyddiant y Mynegai Prisiau Adwerthu am y nawfed flwyddyn yn olynol, ac mae'n dal i fod ar y trywydd iawn i wireddu degawd o gynnydd mewn prisiau sy'n is na chwyddiant erbyn 2020. Mae'r cwmni bellach yn cynorthwyo mwy na 100,000 o gwsmeriaid sy'n ei chael hi'n wirioneddol anodd talu eu biliau, trwy ei amrywiaeth o dariffau cymdeithasol, a hynny am gost o £7 miliwn y flwyddyn i'r cwmni.
Dywedodd Cadeirydd Anweithredol Glas Cymru, Alastair Lyons: "Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn gyfnod ymestynnol dros ben i'r cwmni - gyda nifer o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r tywydd yn profi sut y gallwn gynnal gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid o dan yr amodau anoddaf.
"Er gwaetha'r sialensiau hyn, rydyn ni wedi llwyddo i gynnal perfformiad cyffredinol da wrth gyflawni ein hamcanion allweddol o ran gwasanaethau i gwsmeriaid ac wrth sicrhau bod ein biliau'n fforddiadwy i’n cwsmeriaid - a hynny diolch i raddau helaeth i ymateb bendigedig ein pobl a'n sefydliadau partner."
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: “Rydyn ni wedi gweld sawl achos o dywydd difrifol yn barod yn 2018 - gan gynnwys y cyfnod hiraf o sychder a welwyd yma ers dros ganrif. Mae hyn yn dangos bod ein cynllun tymor hir i fuddsoddi mewn gwytnwch yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ennill ffydd ein cwsmeriaid, nawr ac am genedlaethau i ddod.
“Rydyn ni'n ymdrechu bob tro i gydbwyso buddsoddiad yn ein gwasanaethau i fodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid â sicrhau bod ein biliau'n fforddiadwy. Mae ein buddsoddiad uwch nag erioed yn ystod chwe mis cynta'r flwyddyn, ynghyd â'n haddewid i hoelio cynnydd mewn biliau yn is na chyfradd chwyddiant yr RPI am 10 mlynedd hyd 2020, yn golygu ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni hyn.”