People

Uwchraddio Rhwydwaith Dŵr y Porth


5 Rhagfyr 2018

Mae Dŵr Cymru wedi cwblhau darn mawr o waith buddsoddi a fydd yn helpu i sicrhau dŵr yfed o’r safon uchaf yn ardal y Porth am ddegawdau i ddod. Roedd y gwaith buddsoddi’n rhan o gynllun ehangach gwerth £23 miliwn gan y cwmni i osod pibellau dŵr newydd sbon ledled cwm Rhondda Fach.

Roedd y gwaith yn y Porth yn cynnwys gosod tuag 1km o bibellau yng nghanol y dref a’r cyffiniau, yn cynnwys darn 400 metr o bibell ar hyd darn prysur o Heol Pontypridd. Gosodwyd y pibellau newydd yn lle rhai hŷn – llawer ohonynt dros gant oed – a oedd wedi cyrraedd diwedd eu hoes weithredol.

Buddsoddwyd £2 filiwn gan y cwmni dŵr nid-er-elw mewn pibellau dŵr newydd ar gyfer y Porth a fydd yn sicrhau cyflenwad dibynadwy o’r safon uchaf i gwsmeriaid bob tro yr agorant y tap.

Dywedodd Cynghorydd lleol y Porth, Julie Williams, “Roedden ni’n gwybod bod hwn yn waith hanfodol ac y byddai’n siŵr o darfu ar bobl i ryw raddau ond bydd y pibellau dŵr newydd yn dod â manteision hirdymor i’r bobl sy’n byw yn yr ardal. Roedd y contractwyr yn gweithio’n galed ac fe wnaethon nhw eu gorau i orffen y gwaith cyn gynted ag y gallen nhw. Roedd y cwmni’n cadw mewn cysylltiad â’r Cynghorydd Cox a minnau o ddechrau’r gwaith tan y diwedd.”

Dywedodd Aled Morgan, Rheolwr Rhaglen Seilwaith Dŵr Cymru: “Rŷn ni wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo i gwblhau’r rhan heriol hon o’r cynllun yn brydlon. Dyw hi byth yn hawdd gweithio mewn ardal mor brysur ac fe wnaethon ni ein gorau i gwblhau’r gwaith cyn gynted ag y gallen ni er mwyn creu cyn lleied o drafferth ag oedd modd.

“Rŷn ni’n deall y gall ein gwaith achosi trafferth i bobl ac fe wnaethon ni ein gorau i sicrhau bod busnesau, cwsmeriaid a thrigolion yr ardal yn gwybod beth oedd yn digwydd o’r dechrau i’r diwedd. Roedd rhaid i ni wynebu sawl her yn ystod y gwaith, yn cynnwys gweithio ar rannau cul o heolydd prysur fel Heol Pontypridd a Stryd Porth a cheisio cadw’r traffig i lifo trwy ganol y dref brysur ar yr un pryd. “Rŷn ni wir yn gwerthfawrogi’r cydweithrediad a gawson ni gan fasnachwyr a thrigolion yr ardal a modurwyr ac fe hoffen ni ddiolch iddyn nhw am fod mor amyneddgar.”

Er bod y gwaith o osod y brif bibell ddŵr newydd sbon yng nghanol tref y Porth a’r cyffiniau wedi’i gwblhau, bydd gweithwyr Dŵr Cymru yn dal i’w gweld yn yr ardal tra byddant yn datgysylltu’r hen bibellau.

Mae gwaith Dŵr Cymru yn y Porth yn rhan o fuddsoddiad ehangach gan y cwmni yn y pibellau dŵr yfed yng nghwm Rhondda Fach. Mae’r cwmni’n buddsoddi cyfanswm o dros £23 miliwn yn yr ardal ac maent eisoes wedi gwneud gwelliannau hanfodol mewn ardaloedd fel y Maerdy, Stanleytown, Wattstown, y Porth a Threhafod. Mae’r prif bibellau dŵr yn cael eu hadnewyddu er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn yr ardal yn dal i gael cyflenwad dŵr yfed o’r safon uchaf am ddegawdau i ddod.

Local area Councillor Julie Williams, Project Manager (DCWW) John Rose and local area Councillor Alun Cox 

Local area Councillor Julie Williams, Project Manager (DCWW) John Rose and local area Councillor Alun Cox