enviroment

Out in the Cold: Ein Hymateb


21 Medi 2018

Fel cwmni nid-er-elw, ein nod yw ennyn hyder ein cwsmeriaid bob un dydd – boed law neu hindda.

Rydyn ni am i'n cwsmeriaid gael gwasanaethau o'r safon uchaf bosibl bob tro ac rydyn ni'n cydnabod bod hyn yn bwysicach fyth dan amodau argyfyngus fel y rhai y mae tywydd eithafol yn eu hachosi.

Ym mis Chwefror a Mawrth 2018, gwelsom eira trwm ar draws yr ardal rydym yn ei gwasanaethu, a thawdd cyflym wedyn - ac oherwydd hyn collodd nifer fechan o'n cwsmeriaid eu cyflenwadau am gyfnod sylweddol.

Cynhyrchodd ein rheoleiddiwr, Ofwat, adroddiad – “Out in the Cold” – ym mis Mehefin 2018, sy'n pennu argymhellion o ran sut y gallai cwmnïau dŵr wella eu gweithdrefnau mewn argyfwng at y dyfodol. Rydyn ni'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r canfyddiadau hyn ac rydyn ni wedi amlinellu nifer o wersi a ddysgwyd o'r sialensiau sylweddol a welsom yn gynharach eleni.

I ddarllen ein hymateb llawn, cliciwch yma.