- Daw'r gyd-fenter â manteision tymor hir i Afon Tywi
- Mae Dŵr Cymru wedi cyfrannu £250,000 at Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
- Bydd y gwelliannau i'r pysgodfeydd yn cynyddu nifer yr eogiaid a'r brithyll môr
Trwy fenter unigryw ac arloesol, mae Dŵr Cymru Welsh Water a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cytuno ar raglen o waith amgylcheddol a ddaw â manteision tymor hir i Afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Dŵr Cymru wedi cyfrannu £250,000 at Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, a fydd yn cyflawni'r rhaglen o welliannau i’r pysgodfeydd ar ran Dŵr Cymru.
Mae rhwymedigaeth ar Ddŵr Cymru i liniaru effeithiau ar stociau pysgod, a bydd y rhaglen hon o welliannau i bysgodfeydd yn cynyddu nifer yr eogiaid a'r brithyll môr ifanc yn Afon Tywi, ac yn helpu i gynnal poblogaethau cynaliadwy o bysgod nawr ac am genedlaethau i ddod.
Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i'r Ymddiriedolaeth Afonydd lansio rhaglen o waith a fydd yn gwella ansawdd dŵr, darparu cynefinoedd ychwanegol ac yn ei gwneud yn haws i’r pysgod gyrraedd blaenau'r afon.
Dywedodd Gail Davies, Rheolwr Rhaglen Amgylcheddol Dŵr Cymru: "Daw'r cytundeb yn sgil nifer o flynyddoedd o gynllunio mewn partneriaeth â'r rhanddeiliaid. Mae Dŵr Cymru'n hapus iawn i allu cefnogi rhaglen tymor hir o weithgarwch o fewn y dalgylch.
"O ystyried statws cyfredol y stociau pysgod ar draws Cymru, mae hi'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n holl bartneriaid i adfer cynefinoedd."
Dywedodd Dave Charlesworth, Rheolwr Prosiect Pysgodfeydd Cynaliadwy CNC: "Mae poblogaethau pysgod Afon Tywi o dan bwysau mawr ar hyn o bryd, a'm gobaith i yw y bydd y rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth go iawn ,ac y bydd yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn.
"Mae'n cyfrannu at ymgyrch aruthrol ledled Cymru i gynyddu'r stoc o eogiaid a brithyll môr yn ein hafonydd er mwyn eu gwneud yn fwy cynaliadwy am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd Lloyd Evans, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru: "Mae'r Ymddiriedolaeth wrth ei bodd fod gan ein partneriaid, Dŵr Cymru a CNC, yr hyder ynom i gyflawni rhaglen mor hanfodol o waith dros y 10 mlynedd nesaf. Mae adfer cynefinoedd wrth graidd gwaith yr Ymddiriedolaeth, sy'n cynnwys Ymddiriedolwyr, staff yr Ymddiriedolaeth a gwirfoddolwyr, yn ogystal â rhanddeiliaid y pysgodfeydd a pherchnogion glannau ar hyd Afon Tywi."
Mae Dŵr Cymru wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gyda CNC ar ateb tebyg ar gyfer Dwyrain Cleddau, sef yr unig gronfa arall yng Nghymru sydd â threfniant partneriaeth unigryw fel hyn.