Y cam olaf mewn buddsoddiad gwerth £8.5 miliwn yn Hook a Johnston i gychwyn yr haf yma


1 Mehefin 2016

Bydd cam olaf y gwaith adeiladu ar fuddsoddiad blaenllaw Dŵr Cymru i roi hwb amgylcheddol i Dde Sir Benfro yn cychwyn yr haf yma.

Bydd y prosiect pwysig gan y cwmni nid-er-elw yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd, yn lleihau llifogydd ac yn gwella ansawdd dŵr afon yn yr ardal am ddegawdau i ddod. Daw'r gwaith tymor hir â manteision tymor hir i'r ardal trwy uwchraddio'r rhwydwaith dŵr gwastraff er mwyn gwella perfformiad y rhwydwaith, yn arbennig mewn cyfnodau o dywydd gwlyb.

Mae'r gwaith yn cynnwys adeiladu gweithfeydd trin newydd sbon yn Hook i gymryd lle'r gweithfeydd cyfredol. Bydd y gweithfeydd newydd yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i drin y dŵr gwastraff i safonau uwch fyth, a bydd hyn yn ei dro yn helpu i wella rhagor ar ansawdd dyfroedd ymdrochi lleol.

Mae'r prosiect yn cynnwys dadgomisiynu'r gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn Johnston gan osod gorsaf bwmpio newydd a phiblinell danddaear newydd i Hook yn eu lle.

Dywedodd Anthony McKenna, Rheolwr Prosiect Cyflawni Cyfalaf Dŵr Cymru, "Er i ni orfod brwydro yn erbyn Storm Emma a'r sialensiau a berodd hynny i'n rhwydweithiau dŵr glân a dŵr gwastraff yn Sir Benfro, mae ein gwaith yn Hook a Johnston wedi aros ar y trywydd iawn, ac mae bron i 75% o'r gwaith adeiladu wedi cael ei gwblhau erbyn hyn.

"Bydd y cam olaf yn y prosiect yn cychwyn yn yr haf pan fyddwn ni'n dechrau'r gwaith i wneud y gweithfeydd trin a'r biblinell newydd yn weithredol.

“Er mwyn cyflawni'r rhan yma o'r gwaith, bydd angen dod a nifer o gerbydau mawr i'r ardal. Er mwyn paratoi'r trigolion lleol ar gyfer hyn, rydyn ni wedi cynllunio sesiwn rhannu gwybodaeth a gynhelir ddydd Mercher, 4 Gorffennaf yn Neuadd Bentref Freystrop. Bydd fy nhîm a fi yno rhwng 2pm a 7pm i rannu newyddion am y gwaith hyd yn hyn, ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ar y rhan nesaf yma o'r gwaith.”

Mae Dŵr Cymru'n gweithio'n galed i sicrhau bod ei waith yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned, ac mae'r cwmni wedi bod yn gweithio gyda thrigolion lleol a'r cynghorau cymuned yn hynny o beth. Mae'n cydweithio'n agos a Chyngor Sir Benfro ar bob cam o’r gwaith hefyd. Ni fydd y gwaith y mae angen ei gyflawni’n effeithio ar wasanaethau dŵr gwastraff cartrefi a busnesau lleol.

Ychwanegodd Anthony McKenna o Ddŵr Cymru, “Mae Dŵr Cymru'n falch o gefnogi nifer o achlysuron ar draws Sir Benfro'r haf yma, gan gynnwys Sioe Sir Benfro ac IRONMAN Cymru. Rydyn ni'n awyddus hefyd i roi rhywbeth nol i gymunedau fel Hook, Johnston a Freystrop sydd wedi ein cynorthwyo ni gyda’n cynlluniau buddsoddi hanfodol. Hoffem annog grwpiau cymunedol i gyflwyno ceisiadau i Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru, ac mae rhagor o wybodaeth am hyn ar ein gwefan www.dwrcymru.com.”