Braster yn pwyso mwy na 130 o eliffantod wedi’i dynnu o garthffos Cei’r Fôr-forwyn
21 Rhagfyr 2018
Mae braster yn pwyso cymaint â 133 o eliffantod Affricanaidd gwrywaidd wedi’i dynnu o garthffosydd o dan strydoedd un o ardaloedd prysuraf Caerdydd.
Tynnwyd y braster gan Dŵr Cymru fel rhan o’u gwaith yn atgyweirio’r garthffos frics Fictoraidd yng Nghei’r Fôr-forwyn ym Mae Caerdydd.
Dechreuodd y gwaith ar y prosiect buddsoddi gwerth £2 filiwn ym mis Medi ac mae’n golygu trwsio’r garthffos sy’n rhedeg o dan Stryd Stuart a Stryd Bute. Roedd angen gwneud y gwaith am fod y garthffos wedi’i blocio gan lawer iawn o fraster, olew a saim a phethau eraill a daflwyd i’r garthffos yn anghyfreithlon.
Er mwyn i’r cwmni allu gwneud y gwaith atgyweirio, bu’n rhaid cael offer arbenigol i dynnu’r braster oedd wedi crynhoi yn y garthffos. Hyd yma, tynnwyd tuag 800 tunnell allan o’r garthffos – pwysau tua 133 o eliffantod Affricanaidd gwrywaidd.
Ers mis Medi, gwnaed y gwaith fesul rhan er mwyn cael cyn lleied o effaith ag sy’n bosib ar yr ardal. Bydd gwaith ar y prosiect yn dod i ben dros wyliau’r Nadolig ar 21 Rhagfyr cyn dechrau eto ar 8 Ionawr.
Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru: “Mae’r gwaith ar gynllun Cei’r Fôr-forwyn yn sicr yn dipyn o her gan fod gymaint o fraster, saim ac olew wedi crynhoi yn y garthffos gan beri iddi ddymchwel mewn sawl man ar hyd Stryd Bute a Stryd Stuart. Er ein bod yn gwybod bod hon yn ardal brysur, mae’r ffaith ein bod wedi tynnu cymaint o stwff o’r garthffos yn dangos pa mor ddifrifol yw’r broblem.
“Bu ein timau’n gweithio’n galed i drwsio’r garthffos yn y mannau lle mae wedi dymchwel ac rydym wir yn gwerthfawrogi cydweithrediad busnesau a thrigolion yr ardal – a hoffem ddiolch yn fawr iawn iddynt am hyn.”
Meddai: “Rydym bob amser yn gofyn i’n cwsmeriaid fod yn ofalus beth y maent yn ei ollwng i’r draeniau er mwyn i’n carthffosydd ddal i weithio’n iawn. Rydym yn cydweithio â busnesau yng Nghei’r Fôr-forwyn a’r cylch i sicrhau bod ganddynt offer addas i’w helpu i gael gwared o fraster, olew a saim yn y ffordd briodol er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.
“Yn ogystal, mae gennym ymgyrch ‘Stop Cyn Creu Bloc’ gyda’r nod o annog pobl i helpu i atal llygredd a gorlifiadau o garthffosydd trwy beidio â rhoi braster, olew na saim i lawr y draeniau.”