Er taw mis Mehefin oedd y poethaf yng Nghymru ers i'r cofnodion gychwyn, ac er bod y rhagolygon yn darogan y bydd y tywydd sych yn parhau am ychydig wythnosau eto, nid oes unrhyw bryderon gennym am ein hadnodau dŵr ar hyn o bryd.
Efallai bod cwsmeriaid wedi sylwi bod lefelau rhai o'n cronfeydd yn edrych yn isel, ond byddem yn disgwyl hynny am yr adeg hon o'r flwyddyn wrth i ni symud dŵr o amgylch ein rhwydwaith 27,000km o hyd.
Mae ein timau o gwmpas y lle yn gweithio rownd y cloc i drwsio gollyngiadau ar y rhwydwaith hefyd. Gall cwsmeriaid ein helpu ni gyda hyn trwy roi gwybod i ni am unrhyw ollyngiadau ar unwaith, naill ai trwy ein gwefan neu trwy ffonio ein llinell gollyngiadau ar 0800 052 0130.
Yn yr un modd â gweddill y flwyddyn, rydyn ni’n gofyn i gwsmeriaid feddwl am eu defnydd o ddŵr ac osgoi ei wastraffu. Ein neges yw, defnyddiwch yr holl ddŵr gwastraff sydd ei hangen arnoch, ond peidiwch â'i wastraffu. Gall cwsmeriaid gael cyngor am sut i ddefnyddio dŵr yn ddoeth yn eu cartrefi a'r ardd o'n gwefan sef dwrcymru.com.
Dyma'n deg cynnig call i arbed dŵr:
- Trwy ddiffodd y tap wrth frwsio dannedd, gallwch arbed hyd at 18 litr bob tro. Mae hynny'n arbed 504 potel yr wythnos
- Cael cawod yn lle bath. Yn ogystal ag arbed dŵr, gall hyn arbed arian i chi am fod cynhesu dŵr yn gallu cyfrif am 25% o'ch bil ynni.
- Mae dros draean y dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio gartref yn mynd i lawr y tŷ bach, felly os yw'r dŵr yn euraidd, mae fflysio'n ddianghenraid!
- Llenwch y peiriant golchi yn hytrach na golchi dau hanner llwyth.
- R'yn ni'n meddwl taw ein dŵr tap ni yw'r gorau yn y byd. Dyma un peth NA ddylech chi dorri nôl arno! Cadwch jwg o ddŵr yn yr oergell fel nad oes angen rhedeg y tap am amser hir i gael diod oer.
- Llenwch y peiriant golchi llestri a gwasgwch y botwm 'eco', neu arhoswch a golchwch yr holl lestri mewn un tro yn hytrach nag yn ysbeidiol trwy gydol y dydd.
- Os ydych chi'n prynu teclynnau newydd, dewiswch declynnau sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon, neu'n well byth, chwiliwch am declyn â Nod Argymell Waterwise. Bydd hyn yn lleihau eich defnydd o ddŵr heb unrhyw ymdrech!
- Mae tap sy'n diferu'n gallu gwastraffu hyd at 15 litr o ddŵr y dydd - neu 5,500 litr y flwyddyn. Mae hynny'n ddigon i lenwi pump injan dân a hanner.
- Defnyddiwch gasgen ddŵr i ddal dŵr a allai gael ei gludo i ffwrdd trwy ein pibellau carthffosiaeth fel arall.
- Dyfriwch eich planhigion neu'ch gardd â chan dyfrio yn lle pibell ddŵr. Gall dyfrio yn gynnar yn y bore ac yn hwyr y prynhawn leihau faint o ddŵr sy'n anweddu ac arbed dŵr.