enviroment

Dŵr Cymru Welsh Water Statement: Severe Winter Weather


19 Mehefin 2018

Llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydyn ni wrthi'n dadansoddi canfyddiadau'r adroddiadau a gy-hoeddwyd heddiw ac yn ystyried y ffordd orau o ymateb i'r materion sy'n codi er mwyn gwella rhagor at y dyfodol.

“Nid ydym erioed wedi gweld dim byd tebyg i raddfa'r problemau a oedd yn ein hwynebu yn ystod Storm Emma a’r "Bwystfil o’r Dwyrain" - gyda'n hardal weithredol ni wrth galon rhybudd coch y Swyddfa Dywydd. Arweiniodd yr eira neilltuol, y gwyntoedd mawr a'r dadmer cyflym at sialensiau aruthrol wrth i ni geisio cynnal ein gwasanaethau er mwyn cynorthwyo ein cwsmeriaid. Roedd hi'n eithriadol o anodd cyrraedd ein safleoedd, a'r un pryd roedden ni'n rheoli nifer uwch nag erioed o fyrstiau ar ein rhwydwaith ac yn eiddo ein cwsmeriaid.

“Er gwaetha’r sialensiau hyn, a diolch i ymdrechion arwrol cydweithwyr a fu'n gweithio rownd y cloc yn ystod y cyfnod hwn, bu modd cynnal cyflenwadau dŵr rhyw 99% o'n cwsmeriaid trwy gydol y cyfnod. Dangosodd gwaith ymchwil annibynnol a gyflawnwyd gyda'r cwsmeriaid yn sgil y di-gwyddiad bod 70% yn fodlon ar ein hymateb, a 10% yn anfodlon.

“Fodd bynnag, rydyn ni'n ystyried sut y gallwn ni wneud pethau'n well bob tro, ac rydyn ni wedi clustnodi meysydd lle gellid gwella. Rydyn ni eisoes yn buddsoddi er mwyn gwella gwytnwch ein rhwydwaith dŵr er mwyn amddiffyn cyflenwadau cwsmeriaid yn well byth, a byddwn ni'n dwysáu ein hymdrechion i glustnodi a helpu rhagor fyth o'n cwsmeriaid bregus.

“Hoffem ymddiheuro unwaith eto i'n holl gwsmeriaid a gafodd drafferthion gyda'u cyflenwadau dŵr, a'u sicrhau y byddwn ni'n gweithio gyda chymunedau lleol, y rheoleiddwyr a'r diwydiant dŵr ehangach i ddysgu gwersi fel ein bod ni'n fwy parod ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol.”