Cynlluniau Ymrwymiad Gwasanaeth
Mae'r ddogfen hon yn nodi ein cynllun i adfer perfformiad mewn nifer o feysydd lle rydym ar hyn o bryd yn methu â chyrraedd targedau y cytunwyd arnynt gyda'n rheoleiddiwr Ofwat.
Gan i ni fethu â chyrraedd nifer o'r rhain yn 2023/24, gwnaeth Ofwat gategoreiddio Dŵr Cymru fel un sydd 'ar ei hôl hi', ynghyd â dau gwmni arall. Mae'n ofynnol i bob un o'r cwmnïau hyn bellach gynhyrchu Cynllun Ymrwymiad Gwasanaeth, i esbonio i gwsmeriaid a rhanddeiliaid y rhesymau dros y meysydd o berfformiad gwael, a sut rydym yn bwriadu cywiro'r rhain. Er bod amrywiaeth o resymau dros fethu â chyrraedd y targedau a bennwyd gan Ofwat, rydym yn dal ein hunain i'r safonau uchaf ac yn cymryd unrhyw fethiannau perfformiad o ddifrif iawn. Rydym yn benderfynol o gael y rhain yn ôl ar y trywydd iawn a byddwn fel bob amser yn gwbl dryloyw gyda chwsmeriaid ynglŷn â sut rydyn ni'n gwneud. Mae'r brif ddogfen hon yn darparu crynodeb hygyrch o'n cynllun. Gallwch ddod o hyd i'n cynllun ymrwymiad gwasanaeth llawn manwl yn yr atodiad.
Ein Cynllun Ymrwymiad Gwasanaeth ar gyfer 2025/26
PDF, 8.1MB
Lawrlwythwch ein Cynllun Ymrwymiad Gwasanaeth diweddaraf ar gyfer 2025/26, gan esbonio i gwsmeriaid a rhanddeiliaid y rhesymau dros y meysydd o berfformiad gwael, a sut rydym yn bwriadu eu cywiro.