Diweddariad Cynllun Busnes PR24 Mawrth 2024
Ers cyflwyno ein cynllun busnes PR24 i Ofwat ym mis Hydref 2023, rydym wedi gwneud newidiadau i rannau o'n cynllun. Mae'r rhain wedi bod mewn ymateb i geisiadau gan Ofwat neu reoleiddwyr eraill ac i egluro rhai pwyntiau yn ein cynllun gwreiddiol. Canlyniad y newidiadau hyn hyd yma yw bod Ofwat bellach yn ystyried cynllun busnes PR24 ar gyfer Dŵr Cymru sy'n cynnwys cyfanswm gwariant o £5,627 miliwn (i fyny o £5,101 miliwn yn ein cynllun ym mis Hydref 2023), a biliau cwsmeriaid blynyddol cyfartalog o £602 erbyn 2030 (i fyny o £581 yn ein cynllun ym mis Hydref 2023). Bydd penderfyniadau drafft Ofwat yn seiliedig ar y gwariant hwn a'r biliau hyn. Y rheswm dros y newid i gyfanswm ein gwariant ar gyfer PR24 a biliau cwsmeriaid blynyddol cyfartalog cysylltiedig yw cynnwys gwariant amgylcheddol ychwanegol sy'n adlewyrchu'r Cynllun Amgylchedd Cenedlaethol (NEP) diweddaraf a canllawiau wedi'u diweddaru.