Dwr Cymru Financing Ltd
Diddymwyd Dŵr Cymru (Financing) Limited ar 22 Rhagfyr 2020. Hwn oedd y cwmni dyroddi blaenorol ar gyfer bondiau'r Grŵp. Ym mis Awst 2019, trosglwyddwyd yr holl ddyled a ddaliwyd yn y cwmni hwn i Dŵr Cymru (Financing) UK Plc, fel dyroddwr newydd ein bondiau. Roedd Dŵr Cymru (Financing) Limited wedi’i sefydlu cyn i Glas Cymru gaffael Dŵr Cymru yn 2001 ac roedd yn gwmni a gofrestrwyd yn Ynysoedd y Caiman ac yng Nghymru a Lloegr. Ers 2001 fe’i rheolwyd a’i lleolwyd yn y DU at ddibenion treth.