Ein buddsoddiad yn afon Wysg


Rydyn ni’n llwyr ddeall pwysigrwydd ansawdd dŵr afonol i’n cwsmeriaid, ac am ein bod ni’n cymryd ein cyfrifoldebau o ddifri calon, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud gwelliannau parhaus yn y maes allweddol yma.

Yn y degawd hyd 2025, byddwn wedi buddsoddi tua £1.5 biliwn er mwyn gwella a chynnal ein rhwydwaith dŵr gwastraff, ac mae hyn wedi helpu i sicrhau bod gan 44.5% o’n hafonydd yng Nghymru statws ecolegol da, o gymharu ag 14% yn Lloegr.

Ar y dudalen hon mae rhywfaint o wybodaeth am y sialensiau sy’n ein hwynebu a’r prosiectau buddsoddi rydyn ni wrthi’n eu cyflawni ar hyn o bryd i wella ansawdd afon Wysg.

Beth yw’r broblem?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n monitro ansawdd ein prif afonydd. Mae yna bryder am ansawdd dŵr afonol mewn rhannau o afon Wysg am nad ydynt yn cyflawni’r hyn a elwir yn statws ecolegol ‘da’. Mae hynny’n golygu bod yna ormod o gemegolion fel ‘ffosfforws’ yn yr afon, sy’n gallu achosi gordyfiant o algâu sy’n gallu effeithio ar faint o ocsigen sydd ar gael yn y dŵr a niweidio bywyd gwyllt.

Beth sy’n achosi hyn?

TMae yna nifer o ffactorau sy’n gallu cynyddu lefel y ffosffadau. Mae hyn yn cynnwys sut rydyn ni’n trin dŵr gwastraff cyn ei ddychwelyd i’r amgylchedd. Mae ein gwaith modelu ar afon Wysg, er enghraifft, yn dangos bod ein hasedau (h.y. ein gweithfeydd trin, a’n Gorlifoedd Storm Cyfunol neu CSOs) yn gyfrifol am rhwng 21% a 23% o’r ffosffadau yn y prif gyrff dŵr, a’r CSOs sydd i gyfrif am gwta 1% o hyn. Mae’r gweddill - dros 75% - yn cael ei achosi gan ffactorau eraill fel dŵr ffo o dir amaeth a baw anifeiliaid, draenio dŵr wyneb trefol, draeniau sydd wedi eu cam-gysylltu, a thanciau septig preifat.

Fodd bynnag, rydyn ni’n deall bod hyn yn fater pwysig i’n cwsmeriaid, ac rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i wneud beth y gallwn ni i leihau ein heffaith ar afon Wysg.

Ein buddsoddiad

Mae gennym dipyn sylweddol o waith i’w gyflawni, sydd wedi cymryd amser, ond rydyn ni wedi ymrwymo i wneud gwelliannau’n barhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dyna pam ein bod ni’n cyflawni’r gwaith fesul cam rhwng 2022 a diwedd 2025 fel a ganlyn:

Cam 1 — Gwaith yng Ngorsaf Bwmpio Carthion Brynbuga — Wedi ei Gwblhau

Cwblhawyd ein gwaith i uwchraddio’r asedau yn yr Orsaf Bwmpio Carthion. Roedd hyn yn cynnwys gosod siambr sgrinio a fydd yn tynnu unrhyw wastraff trwm – fel cadachau, weips a phethau mawr – o’r dŵr gwastraff y mae’r orsaf yn ei dderbyn.

Cam 2 — Adeiladu asedau newydd yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Brynbuga — I ddechrau yn Ebrill 2024

Wrth drosglwyddo mwy o wastraff i’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff, mae angen i ni sicrhau bod ganddo’r capasiti i drin yr holl wastraff. Er mwyn gwneud hyn, byddwn ni’n gosod asedau newydd sbon a thanciau storio gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Rhwng Ebrill 2024 a diwedd 2025, caiff y gwaith adeiladu ar gamau 2 a 3 ei gyflawni ar dir preifat ac yn y gweithfeydd trin dŵr gwastraff sydd tua 1km heibio i’r Clwb Athletau.

Cam 3 — Gwaith i gynyddu capasiti’r rhwydweithiau i drosglwyddo gwastraff — I ddechrau yn Mehefin 2024

Mae ein rhwydwaith cludo gwastraff yn dibynnu ar ddisgyrchiant i gludo gwastraff i ffwrdd o gartrefi a busnesau. Lle nad yw hynny’n bosibl, bydd yr Orsaf Bwmpio Carthion yn helpu i bwmpio’r gwastraff i’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff lleol er mwyn ei drin yn ddiogel. Mae prif gwmpas y gwaith yn cynnwys gosod dau bwmp newydd a'r offer cysylltiedig.

Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Aberhonddu
Dyddiad Dechrau: Tachwedd 2022
Dyddiad Cwblhau Disgwyliedig: Gorffennaf 2024
Buddsoddiad: £ miliwn
Beth rydyn ni’n ei wneud: Rydyn ni’n uwchraddio nifer o’r asedau yn y gweithfeydd trin dŵr gwastraff. Mae hyn yn cynnwys adeiladu tanc storm newydd sbon a fydd yn helpu i ddal unrhyw ddŵr sydd dros ben o’r system garthffosiaeth mewn cyfnodau o law trwm, ac yn ei atal rhag gorlwytho ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff.

Yn y pendraw, caiff y dŵr sy’n cael ei storio yn y tanc ei ryddhau nôl i’r system garthffosiaeth pan fo capasiti ar gael, lle caiff ei drin cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd. Byddwn ni’n cyflwyno proses a fydd yn tynnu’r ffosffadau o’r dŵr gwastraff wedi ei drin cyn iddo gael ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd hefyd. Pan fydd prosiectau buddsoddi pellach yn cychwyn, byddwn ni’n rhannu rhagor o fanylion ar y dudalen hon.