Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Malpas, Gaer
Un o'r prif bethau rydyn ni'n ei wneud yn Dŵr Cymru yw ceisio darparu gwasanaeth dŵr gwastraff dibynadwy i chi a fydd yn cymryd y dŵr gwastraff rydych chi'n ei fflysio i ffwrdd neu'n golchi lawr y sinc. Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wneud hyn, mae angen i ni wneud gwelliannau i'n Gwaith Trin Dŵr Gwastraff ym Malpas.
Er mwyn hwyluso'r gwaith yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Malpas, mae angen i ni gaffael parsel bach cyfagos o dir sydd heb ei gofrestru i gartrefu'r offer newydd, ac rydym am roi'r cyfle i chi gael golwg ar y wybodaeth a rhannu eich adborth gyda ni.
Beth rydym yn ei wneud?
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gwneud gwelliannau i’r gwaith trin dŵr gwastraff yn ogystal ag ychwanegu proses newydd i’r safle i sicrhau ein bod yn trin y dŵr i’r safon uchaf cyn iddo gael ei ddychwelyd i’r amgylchedd. Byddwn yn gwneud y gwaith ar y safle mewn dau gam:
- Y cam cyntaf, byddwn yn gwneud gwelliannau i'r offer a'r prosesau o fewn y safle i drin y llif sy'n dod i mewn.
- Bydd ail gam y gwaith yn ymwneud ag ychwanegu proses tynnu ffosfforws newydd i helpu i wella ansawdd y dŵr wedi'i drin a ddaw o'r safle.
Bydd y gwaith hwn yn dechrau dros y misoedd nesaf, a dylai popeth gael ei orffen erbyn Haf 2025.
Er mwyn hwyluso’r gwaith yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Malpas, mae angen i ni gaffael darn bach o dir heb ei gofrestru i’r gogledd o’r safle presennol i gadw’r offer newydd.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Hoffem rannu rhagor o wybodaeth â chi am y tir rydym yn ei gaffael, gan gynnwys:
- Tudalen cais cynllunio yma
Lawrlwythiadau sydd ar gael
COMPULSORY PURCHASE ORDER INFORMATION_advert
CPO_20231019150932
CPO plans_20231019155842
CPO Statement of Reason_20231019150906
Extract from meeting
Eisiau gwybod mwy?
Mae copi o’r Gorchymyn, ynghyd â’r map cysylltiedig a’r Datganiad o Resymau (sy’n nodi’r cyfiawnhad manwl dros y penderfyniad i wneud y Gorchymyn) ar gael yn Aaron & Partners Solicitors LLP, 5-7 Grosvenor Court, Foregate Street, Caer CH1 1HG yn ystod eu horiau agor arferol. Gellir darparu copïau electronig hefyd ar gais. Cysylltwch â Mark Turner ar mark.turner@aaronandpartners.com os hoffech gopïau.
Dylid gwneud unrhyw wrthwynebiadau i’r Gorchymyn, yn ogystal ag unrhyw gyflwyniadau o blaid, yn ysgrifenedig i’r “The Secretary of State for Levelling Up, Housing and Communities” yn y cyfeiriad a ganlyn: Planning Casework Unit, 23 Stephenson Street, Birmingham B2 4BH, a thrwy e-bost ar: PCU@levellingup.gov.uk cyn diwedd diwrnod gwaith ar 13 Rhagfyr 2023 a dylai ddatgan teitl y gorchymyn, y seiliau dros wrthwynebu neu gefnogaeth, a chyfeiriad yr awdur ac unrhyw fuddiannau yn y tir.