Gwelliannau yn Llyn Celyn


Yn Dŵr Cymru rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldeb dros gynnal a gweithredu ein hargaeau a’n cronfeydd dŵr yn ddiogel o ddifri.

Yn 2020, cyflawnwyd archwiliad 10 mlynedd gan Beiriannydd Panel annibynnol a gadarnhaodd fod cronfa ddŵr Llyn Celyn mewn cyflwr da, ond yn ôl y disgwyl, cyflwynodd ambell i argymhelliad i sicrhau bod y gronfa’n bodloni’r canllawiau diweddaraf sydd mewn grym yn y DU. Mae’r argymhellion yn yr adroddiad terfynol yn statudol, a Chyfoeth Naturiol Cymru sy’n eu gorfodi. Rhaid i ni ymateb iddynt o fewn amserlen ddiffiniedig.

Y cynnig yw adeiladu gorlifan newydd ategol i ddelio â lefelau eithriadol o uchel o ddŵr y disgwylir eu gweld unwaith mewn dros 10,000 o flynyddoedd ar gyfartaledd. Caiff gwaith ei gyflawni ar y pibellau a’r falfiau cyfredol hefyd yn rhan o raglen o waith uwchraddio a chynnal a chadw.

Gallwn eich sicrhau chi nad yw hyn yn golygu bod yna bryderon uniongyrchol ynghylch diogelwch yr argae.

Beth y gallwch ei ddisgwyl

Ers cyhoeddi adroddiad y Peiriannydd yn 2020, cyflawnwyd nifer o ymchwiliadau ar y safle, gan gynnwys ymchwiliadau ecolegol ac ymchwiliadau i gyflwr y tir, ac mae’r rhain wedi caniatáu i’n contractwyr ddylunio’r gorlifan ategol.

Y bwriad yw adeiladu gorlifan ychwanegol newydd ar ben yr argae ger y prif faes parcio oddi ar yr A4212. Rhannwyd y cynlluniau ar gyfer y gorlifan newydd â’r gymuned leol yn 2021. Cafodd cais cynllunio llawn wedi’i gyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn yr Hydref 2022 ac mae digwyddiadau cyhoeddus wedi’u trefnu ar gyfer Tachwedd 2022. I gael rhagor o fanylion am y cynlluniau a’r digwyddiadau, ewch i’n gwefan yma.

Os y rhoddir caniatâd cynllunio, mi fydd y gwaith yn cychwyn ddiwedd y Gwanwyn 2023.

Rydyn ni’n disgwyl cyflwyno’r cais cynllunio llawn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn Hydref 2022. Os rhoddir caniatâd, bydd y gwaith yn dechrau yng Ngwanwyn 2023.

Mae angen i ni hefyd gyflawni gwaith uwchraddio a chynnal a chadw ar y pibellau a’r falfiau yn y prif dŵr a’r twnnel sy’n cysylltu â’r pwerdy. Nid oes angen caniatâd cynllunio i gyflawni’r gwaith yma. Cyflawnwyd ychydig o waith paratoi eisoes, ond mae rhagor ar y gweill.

Rhwng dechrau Medi a dechrau Tachwedd, fe welwch ein tîm yn gweithio yn Llyn Celyn. Bydd mwy o beiriannau ar y safle, ynghyd â deifwyr proffesiynol. Bydd y deifwyr yn gweithio ar brif strwythur y tŵr, a bydd cychod cynorthwyol allan ar Lyn Celyn.

Rhannu gwybodaeth

Fel cwmni, rydyn ni wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth am unrhyw waith a wnawn â chwsmeriaid a rhanddeiliaid. Byddwn ni’n rhannu manylion pellach am ddyluniad y gorlifan ategol â’r cyhoedd yn rhan o’r broses gynllunio. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â’n rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd yn hyn o beth hefyd.

I gael rhagor o fanylion am ein gwaith yn Llyn Celyn, ewch i'n gwefan yma.