Llyn Brân


Mae Llyn Brân yn Sir Ddinbych, nid nepell o Fylchau, ar y B5401 rhwng Dinbych a Phentrefoelas. Tuag 1899, codwyd argae bach concrit i gronni dŵr y llyn naturiol a chreu cyforgronfa.

Pwrpas y gronfa oedd darparu cyflenwad dŵr i Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, ond nid yw'r gronfa'n rhan o'r rhwydwaith cyflenwi dŵr mwyach ers i'r ysbyty gau ym 1995. Gan nad oes angen Llyn Brân fel cronfa ddŵr yfed dim mwy, rydym yn adfer y llyn i fel ag yr oedd cyn adeiladu’r argae. Ond, fe fydd y gwaith hwn yn cymryd amser. Rydym wedi gwneud yr hyn allwn ni, ac nawr, mae’n amser i natur wneud y gweddill.

Rydym wedi gostwng y dŵr i’w lefel naturiol, tynnu’r argae a chreu llwybr dŵr newydd i gysylltu’r llyn â’r afon.

Nawr bod y dŵr wedi cyrraedd ei lefel naturiol rydym yn gadael i’r lan sychu ac aildyfu’n naturiol. Dros amser, fe fydd yr ardaloedd hyn yn aildyfu’n wyrdd, ond mewn rhai ardaloedd rydym wedi rhoi ychydig o help llaw drwy osod matiau llystyfiant.

Gan y bydd hi’n cymryd ychydig flynyddoedd i’r lan ffynnu, efallai na fydd Llyn Brân edrych ar ei orau ar hyn o bryd, ond wedi i’r lan adfer ei hun ac ail-flodeuo, fe fydd y llyn unwaith eto’n ymdoddi’n nôl mewn i’r tirlun hynod hwn. Byddwn yn parhau i fonitro’r safle wrth i natur wneud ei waith, ac rydym yn gobeithio, drwy waith adfer gofalus y daw Llyn Brân yn Ardal Gadwraeth Arbennig yn y pendraw.

Fe ddechreuon ni ar y gwaith ym mis Mai 2022 gan orffen yn Hydref 2022.

Bydd gwaith monitro ecolegol ar y llyn yn parhau tan aeaf 2024.

Beth yr ydym wedi ei wneud?

Dros fisoedd haf 2022 fe wnaethom:

  • Adeiladu trac mynediad dros dro i'r safle
  • Gostwng lefel y dŵr yn y gronfa tua 2.4m, gan ei ddychwelyd i lefel naturiol y llyn drwy ddefnyddio system o seiffonau a phympiau
  • Dymchwel yr argae yn Llyn Brân. Dymchwel strwythur yr argae’n llwyr, cyflawni gwelliannau ecolegol ac adfer y glannau. Mae’r gwaith wedi lleihau arwynebedd y llyn o ryw hanner (123,500m² i 61,500m²)
  • Dymchwel adeilad ategol a strwythur cysylltiedig yn ardal ogledd-orllewinol y gronfa. Cafodd yr holl wastraff o'r adeiladau ei gludo i ffwrdd i'w waredu oddi ar y safle
  • Cludo’r rhannau o'r pibellwaith oedd wedi eu datguddio i ffwrdd i’w gwaredu oddi ar y safle. Cafodd y pibellwaith o dan y ddaear ei selio a'i lenwi trwy growtio
  • Codi ffens newydd ar hyd ymyl ddeheuol yr A543 ym mhen gogleddol y gronfa
  • Gosod haen o gerrig i amddiffyn arwyneb y pridd rhag erydiad.

I gael gwybod mwy am sut y cafodd y gwaith ei wneud gwiliwch y ffilm hon:-

Ar ôl cyflawni'r gwaith

Yn union ar ôl gostwng lefel y dŵr, efallai y bydd glannau'r llyn yn edrych yn fwdlyd wrth i'r silt ddod i’r golwg. Caiff yr ardaloedd hyn eu gorchuddio â matiau hadu naturiol, a fydd yn dechrau tyfu yng ngwanwyn / haf 2023. Wrth i'r matiau dyfu a bwrw gwreiddiau bydd y safle'n dechrau edrych yn fwy naturiol eto. Ni fydd y matiau'n gorchuddio pob ran o’r glannau sy’n cael eu datguddio, a bydd y yr ardaloedd lle na fydd matiau’n ail-hadu’n naturiol dros amser. Rydym wedi gosod matiau sydd eisoes wedi dechrau tyfu mewn rhai mannau er mwyn o adfer cynefinoedd poblogaeth llygod dŵr Brân.

Delwedd artist o Lyn Brân ar ôl i'r matiau hadu naturiol dyfu ac ailnaturioli'r glannau.