Buddsoddi yn yr Afon Cleddau
Fel cwmni, rydym yn dibynnu ar yr amgylchedd ar gyfer y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff rydym yn eu darparu. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i ddiogelu'r amgylchedd o ddifrif ac rydym yn buddsoddi tua £1 miliwn y dydd i wella a chynnal ein rhwydweithiau.
Rydym hefyd yn gwybod bod cwsmeriaid eisiau i ni wneud mwy, yn enwedig i helpu i ddiogelu ansawdd ein hafonydd fel afon Cleddau. Dyma pam rydym yn gweithio yn nalgylch afon Cleddau i wella ein hasedau.
Ar y dudalen hon fe welwch rywfaint o wybodaeth am yr heriau rydym yn eu hwynebu, ein cynllun buddsoddi pum mlynedd, a'r cyllid sydd ar gael i gefnogi'r gymuned gydag achosion da yn yr ardal.
Beth yw'r broblem?
Mae ansawdd ein prif afonydd yn cael ei fonitro gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae pryder am ansawdd dŵr yr afon mewn rhannau o afon Cleddau gan nad ydyn nhw'n cyflawni'r hyn a elwir yn statws ecolegol 'da'. Mae hyn yn golygu bod gormod o gemegau yn yr afon fel 'ffosfforws' sy'n gallu achosi gordyfiant algâu a all effeithio ar faint o ocsigen sydd ar gael yn y dŵr gan niweidio bywyd gwyllt.
Beth sy'n achosi hyn?
Mae sawl ffactor a all gynyddu lefelau ffosffad. Mae’r rhain yn cynnwys sut rydym yn trin dŵr gwastraff cyn iddo gael ei ddychwelyd i'r amgylchedd. Mae ein gwaith modelu Afon Cleddau, er enghraifft, yn dangos bod ein hasedau (h.y. ein gwaith trin, Gorlifoedd Storm) yn gyfrifol am oddeutu 11% o'r ffosffadau sy'n mynd i mewn i afon Cleddau Ddu, gyda Gorlifoedd Storm yn gyfrifol am 2% yn unig. Yn afon Cleddau Wen mae dŵr gwastraff wedi'i drin a ollyngir o'n gwaith trin dŵr gwastraff yn gyfrifol am oddeutu 22% o'r ffosffadau sy'n mynd i mewn i afon Cleddau Ddu, gyda Gorlifoedd Storm yn gyfrifol am 5% yn unig. Mae gweddill y ffosffad sy'n mynd i mewn i'r ddwy afon yn cael ei achosi gan ffactorau eraill fel defnydd o dir gwledig ac carthion anifeiliaid, draenio dŵr wyneb trefol, camgysylltiadau draenio, yn ogystal â thanciau septig preifat.
Fodd bynnag, rydym yn deall bod hwn yn fater pwysig i drigolion lleol, ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i wneud yr hyn y gallwn i leihau ein heffaith ar afon Cleddau.
Ein buddsoddiad
Dros y pum mlynedd nesaf (2025 – 2030), rydym yn buddsoddi oddeutu £60 miliwn yn nalgylch ehangach afon Cleddau i wella'r ffordd y mae ein gwaith trin yn gweithredu a hefyd i leihau nifer y gollyngiadau sy'n dod o'n Gorlifoedd Storm. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn gweithio ar wahanol safleoedd ar yr un pryd.
Beth ydym yn ei wneud?
Mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud a fydd yn cymryd amser, ond rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliant parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dyna pam y bydd ein gwaith yn cael ei wneud dros y pum mlynedd nesaf.
Ardaloedd rydym ni'n gweithio arnynt ar hyn o bryd yw:
Ar hyn o bryd rydym yn gwneud gwaith yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Rosemarket i wella ansawdd y dŵr sy'n cael ei ryddhau i'r cwrs dŵr cyfagos, sy'n bwydo i mewn i Afon Cleddau.
El rhan o'r gwelliannau hyn, byddwn yn adnewyddu'r biohidlydd. Mae biohidlo yn ddull biolegol o drin dŵr gwastraff sy'n defnyddio gwely o dywod neu raean, wedi'i orchuddio â bioffilm o ficro-organebau. Mae'r micro-organebau hyn yn dadelfennu llygryddion wrth i'r dŵr gwastraff basio trwy'r hidlydd, gan roi dŵr glanach, wedi'i drin o ganlyniad. Mae hon yn ffordd amgylcheddol gyfeillgar ac effeithiol o gael gwared ar halogyddion.
Yn ogystal â bod o fudd i'r amgylchedd, bydd yr uwchraddiadau hyn hefyd yn sicrhau bod gan y rhwydwaith gwastraff gapasiti digonol i reoli mwy o lifoedd. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg o fethiant mewn rhwydwaith ac yn cefnogi anghenion y gymuned ehangach wrth i'r ardal barhau i dyfu.
Disgwylir i'r buddsoddiad gael ei gwblhau erbyn mis Hydref 2025. Fodd bynnag, efallai y bydd ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth weithiau a allai effeithio ar gwmpas y gwaith. Os bydd hynny'n digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw.
Rydym yn uwchraddio ein hasedau yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Treletert i wella ansawdd y dŵr sy'n cael ei ryddhau i'r amgylchedd trwy ymgorffori'r dechnoleg a'r offer diweddaraf.
Rhan allweddol o'r uwchraddio yw cyflwyno proses drin newydd i gael gwared ar ffosffadau o'r dŵr gwastraff wedi'i drin. Gall ffosffadau gyfrannu at ordyfiant algâu, sy'n effeithio'n negyddol ar ansawdd dŵr a bywyd dyfrol. Trwy leihau lefelau ffosffadau, ein nod yw gwella iechyd Afon Cleddau a'r amgylchedd cyfagos.
Er mwyn cefnogi'r broses hon, byddwn yn gosod systemau dosio fferrig ac alcalinedd. Mae dosio fferrig yn helpu i rwymo ffosffadau, gan eu gwneud yn haws i'w tynnu yn ystod gwaith trin, tra bod dosio alcalinedd yn sicrhau bod cydbwysedd cemegol y dŵr yn cael ei gynnal trwy gydol y broses. Gyda'i gilydd, bydd y systemau hyn yn gwella effeithiolrwydd gwaith tynnu ffosffad ac yn cyfrannu at drin dŵr gwastraff mwy cynaliadwy.
Disgwylir i'r buddsoddiad gael ei gwblhau erbyn mis Hydref 2025. Fodd bynnag, efallai y bydd ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth weithiau a allai effeithio ar gwmpas y gwaith. Os bydd hynny'n digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw.
Rydym wedi cwblhau'r gwaith o uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Spittal yn Sir Benfro.
Er bod y safle eisoes wedi trin dŵr gwastraff o'r ardal gyfagos i safon uchel, mae'r gwelliannau diweddar wedi gwella'r broses drin ymhellach.
Dechreuodd y prosiect gyda gwaith paratoi cyn Nadolig 2023 ac roedd yn cynnwys cyflwyno proses newydd i gael gwared ar ffosffadau o'r dŵr gwastraff wedi'i drin.
Sut bydd y gwaith yn effeithio arnoch chi?
Ni fydd y gwaith yn effeithio ar y gwasanaeth dŵr na dŵr gwastraff ond fel gydag unrhyw brosiect adeiladu mawr, bydd adegau pan fydd rhywfaint o sŵn, cerbydau adeiladu, ac amhariad ar draffig yn yr ardal ond bydd y tîm yn gwneud eu gorau glas i leihau amhariad lle gallant.
Yn eich ardal chi - Ceisiwch yr wybodaeth ddiweddaraf
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect a'r hyn sy'n digwydd ar y safle, ewch i'n tudalen Yn Eich Ardal.
Llygredd Afonol
Mae Dŵr Cymru yn gweithio i ddiogelu afonydd a dyfrffyrdd eraill drwy drin y dŵr gwastraff o'n cartrefi a'n busnesau a'i ddychwelyd i'r amgylchedd yn ddiogel. Mae'n gofyn am symiau enfawr o offer a miloedd o gilometrau o garthffosydd.
Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os ydych chi'n gweld llygredd carthion mewn afon, nant, neu gwrs dŵr arall. Mae hyn yn ein helpu i warchod a gwella ein hafonydd a'n hamgylchedd.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Cronfa gymunedol
Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn digwydd, ac rydych chi'n codi arian ar gyfer prosiectau er budd y gymuned, cliciwch isod i gael rhagor o wybodaeth am ein Cronfa Gymunedol gwerth £5,000.
Dysgu mwy