Gŵyr


Rydyn ni’n buddsoddi £1 miliwn yn rhwydwaith dŵr Gŵyr. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad dibynadwy o ddŵr diogel a glân yn yr ardal am ddegawdau i ddod.

Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ein cwsmeriaid ac yn lliniaru problemau sy’n ymwneud â cholli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel sy’n taro rhai cwsmeriaid yn yr ardal.

Beth mae’r gwaith yn ei olygu?

Mae rhai o’r pibellau sy’n helpu ein cwsmeriaid i fwynhau eu cawod a’u paned boreol dros 100 oed erbyn hyn. Dros amser, mae dyddodion naturiol yn gallu cronni yn y pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, bob nawr ac yn y man mae angen i ni lanhau’r pibellau er mwyn cadw’r dŵr yn llifo’n rhydd.

Ni fydd y gwaith yn effeithio ar y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid, ac mae’n debygol na fydd y rhan fwyaf ohonoch yn sylwi ar y gwaith sy’n cael ei wneud hyd yn oed, ond byddwn ni’n ysgrifennu at unrhyw gwsmeriaid y gallai’r gwaith effeithio arnynt yn uniongyrchol i rannu’r holl wybodaeth angenrheidiol.

Gyda rhai rhannau o’r rhwydwaith yn dod at ddiwedd eu hoes weithredol, bydd ein buddsoddiad yn yr ardal hon yn golygu adnewyddu tua 1km o brif bibellau dŵr, glanhau bron i 8km, a dadgomisiynu 1.5km.

Ymhle fydd y gwaith yn digwydd?

Bydd y gwaith yn dechrau ddiwedd Tachwedd 2022. Bydd yn digwydd rhwng dwy ardal ym mhenrhyn Gŵyr ac rydyn ni’n rhagweld y caiff ei gwblhau erbyn diwedd Ebrill 2023. Gallwch weld ymhle y byddwn ni’n gweithio isod:

Dylid nodi bod ein mapiau’n dangos lleoliadau’r pibellau dŵr y byddwn ni’n eu huwchraddio gan ddefnyddio gwahanol dechnegau. Nid yw hynny’n golygu y byddwn ni’n tyllu yn eich stryd, ond os oes angen i ni gyflawni gwaith yn eich stryd, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi ymlaen llaw.

Lleoliad ein safle gwaith

Bydd angen i ni osod ein safle gwaith a’n huned les yn y lôn y tu ôl i Broadwood ym Mhenlle’r-gaer. Bydd y safle gwaith yn cymryd rhan fechan o’r lôn yma (tua 20x30 metr). Byddwn ni’n dechrau gosod y safle dros dro yma dydd Mawrth, 29 Tachwedd, ac rydyn ni’n disgwyl iddo fod yn ei le tan ddiwedd Ebrill 2023. Byddwn ni’n defnyddio’r ardal hon i storio deunyddiau’n bennaf, a byddwn ni’n cyrraedd y safle trwy Glos Tŷ Mawr.

Eich dŵr

Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith effeithio dim ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu’ch cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n anfon neges destun atoch ar y diwrnod.

Cwestiynau Cyffredin

Y cynllun rheoli traffig

Rydyn ni’n treulio amser mawr yn cynllunio ein gwaith er mwyn sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned. Rydyn ni wedi cynllunio’r gwaith yn ofalus fel nad oes angen cyflawni llawer ohono yn y ffordd. Yn hytrach, byddwn ni’n gosod cynifer â phosibl o’r pibellau newydd ar dir y tu hwnt i’r prif ardaloedd adeiledig.

Ond bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn y ffordd, ac mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i rai pobl beidio â pharcio yn yr ardaloedd lle’r ydyn ni’n gweithio. Os felly, byddwn ni’n sicr o roi gwybod i chi mewn da bryd. Gallwn eich sicrhau chi y byddwn ni’n cwblhau’r gwaith ar y ffyrdd cyn gynted ag y gallwn ni.

Dywedwch eich dweud

Ein nod yw darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol ar eich cyfer, a hoffem glywed a ydyn ni’n plesio neu beidio. I rannu eich adborth, ewch i dwrcymru.com/AdborthAmWaith

Yn eich ardal

Ardal

I glywed am gyfleoedd eraill i siarad â'r tîm, a gwybodaeth am unrhyw ffyrdd a fydd ar gau i draffig, ewch i yn eich ardal a chwilio dan eich cod post.

Darganfod mwy