Pont Bibellau Dolgarrog
Dros y misoedd nesaf fe fydd Dŵr Cymru’n buddsoddi £1.9 miliwn i wella pont bibellau Dolgarrog.
Mae pont bibell Dolgarrog yn cario dwy bibell ddŵr sy’n darparu cartrefi a busnesau yn Nyffryn Conwy gyda dŵr yfed.
Cafodd y bont ei chau ym mis Ionawr 2021 yn dilyn pryderon sylweddol am gyflwr y bont bibell. Roedd hyn yn cynnwys yr angen i osod nifer o fordiau dec pren newydd a hefyd gweithredu mesurau ychwanegol i ddiogelu'r prif gyflenwad dŵr pwysedd uchel.
Mae Dŵr Cymru bellach wedi cwblhau dyluniad manwl o'r strwythur ar gyfer y bont. Yna byddwn yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y goleuadau a'r celfi stryd y gallai fod eu hangen i alluogi hwn i fod yn llwybr teithio llesol y bydd beicwyr a cherddwyr yn ei rannu gan ganiatáu mynediad haws i orsaf reilffordd Dolgarrog. Mae Network Rail a Trafnidiaeth Cymru hefyd yn chwarae rhan yn y gwaith o sicrhau bod y dyluniad newydd yn addas i'r diben ar gyfer defnyddwyr rheilffyrdd lleol.
Mae'r bont bibell newydd yn cael ei hariannu gan fuddsoddiad o £1.2 miliwn gan Dŵr Cymru a £735,000 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a ariennir gan grant gan Lywodraeth Cymru.
Ein cynlluniau
Amserlen
Bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn dau ran.
Rhan 1
Gwaith i gryfhau’r bont – bydd angen gwneud y gwaith hwn tra fod lefelau’r dŵr yn Afon Conwy yn isel .
Rydym yn bwriadu dechrau ar y gwaith hwn ddiwedd Gwanwyn 2022 ac fe ddylem fod wedi gorffen y rhan hwn o’r gwaith mewn dau i dri mis. .
Rhan 2
Byddwn yna gwneud gwaith ar adnewyddu’r bont a gosod y trosddec newydd. Fe ddylai’r gwaith yma gymryd tua pum mis i’w gwblhau.
Rydym yn bwriadu gorffen yr holl waith ar y bont erbyn diwedd Gwanwyn 2023.
Gwaith ar y safle
Dechreuodd Rhan 1 o’r gwaith ym mis Mai. Mae ein contractwyr wedi creu ardal storio ac wedi dechrau ar y gwaith o gryfhau’r bont.
Tra byddwn ni’n gwneud y gwaith ar y bont, oherwydd iechyd a diogelwch fe fydd un o’r llwybrau cyhoeddus o Dolgarrog tuag at y bont wedi cau i’r cyhoedd, ond fe fydd y llwybrau eraill yn parhau ar agor.
Rydym yn gwybod y gall ein gwaith fod yn anghyfleus, a hoffem ddiolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn.