Gwella gwaith trin dŵr gwastraff Corwen
Un o'r prif bethau rydyn ni'n ei wneud yn Dŵr Cymru yw darparu gwasanaeth dŵr gwastraff o'r radd flaenaf i chi a fydd yn cymryd y dŵr gwastraff rydych chi'n ei fflysio i ffwrdd neu'n golchi lawr y sinc. Dyna pam rydym yn buddsoddi £9 miliwn i uwchraddio ein hasedau yng ngwaith trin dŵr gwastraff Corwen a fydd yn ei dro, yn helpu i wella ansawdd yr Afon Dyfrdwy yn lleol.
Fel cwmni, rydym yn dibynnu ar yr amgylchedd ar gyfer y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff a ddarparwn. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i warchod yr amgylchedd o ddifrif ac rydym yn buddsoddi tua £1miliwn y dydd i wella a chynnal ein rhwydweithiau a’n gwasanaeth i gwsmeriaid.
Gwyddom fod ein cwsmeriaid am i ni wneud mwy, yn enwedig i helpu i ddiogelu ansawdd ein hafonydd fel yr Afon Dyfrdwy sy’n llifo wrth ymyl Corwen. Dyna pam rydym yn gweithio yn yr ardal i wella'r ffordd y mae ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn gweithredu.
Mae ein gwaith trin dŵr gwastraff yng Nghorwen yn glanhau ac yn trin dŵr gwastraff o bron i 2,000 o gartrefi a busnesau yn ardal Corwen cyn dychwelyd y dŵr i Afon Dyfrdwy. Bydd ein gwaith ar ein safle yng Nghorwen yn helpu i leihau lefelau ffosfforws yn y dŵr a ddychwelwn i’r amgylchedd.
Mae sawl ffactor yn cyfrannu at lefelau ffosfforws mewn afonydd gan gynnwys gorlif carthffosydd, dŵr ffo amaethyddol ac ysgarthion anifeiliaid, draeniau dŵr wyneb trefol, draeniau sydd wedi’u camgysylltu, tanciau carthion preifat yn ogystal â sut rydym yn trin dŵr gwastraff cyn iddo gael ei ddychwelyd i’r amgylchedd.
Trwy fuddsoddi yn ein safle yng Nghorwen byddwn yn chwarae ein rhan i helpu i leihau lefelau ffosfforws yn Afon Dyfrdwy.
Ein buddsoddiad
Mae gwaith trin dŵr gwastraff Corwen eisoes yn trin gwastraff i safon uchel, ond gyda lefelau caniatâd tynnach yn dod i mewn, bydd y buddsoddiad hwn o £9 miliwn yn helpu i dynnu ffosfforws o’r dŵr gwastraff wedi’i drin a fydd yn helpu i leihau’r lefelau yn yr Afon Dyfrdwy gerllaw – a fydd yn ei dro bod o fudd i ansawdd yr afon a bywyd dyfrol.
Byddwn yn gwella'r broses ar y safle yn ogystal ag ychwanegu elfennau ychwanegol i'r broses yn ogystal ag ychwanegu mwy o offer a strwythurau ar y safle. Mae'r rhain yn cynnwys tanciau storio a setlo, ffilterau a phympiau ychwanegol ar y safle.
Beth allwch chi ei ddisgwyl?
Bydd yr holl waith yn cael ei wneud o fewn ein gwaith trin dŵr gwastraff. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan ein contractwyr. Eric Wright Waters ynghyd â chontractwyr arbenigol eraill.
Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle yn yr Hydref 2024, a dylem gael popeth wedi'i orffen erbyn diwedd Gwanwyn 2026, ond byddwn yn gwneud ein gorau i orffen cyn gynted ag y gallwn.
Ar adegau efallai y byddwch yn sylwi ar gynnydd mewn traffig i ac o'r safle yn ogystal â rhai danfoniadau mawr i'r safle. Ni fydd ein gwaith ar y safle yn effeithio ar wasanaethau dŵr na dŵr gwastraff yn yr ardal.
Bydd Eric Wright Water yn gweithio'n bennaf o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 5pm, ond efallai y bydd angen iddynt weithio'n hwyrach ac ar benwythnosau ar rai achlysuron i gyflawni'r gwaith.
Weithiau mae ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth a all oedi neu newid cwmpas y gwaith ond byddwn bob amser yn lleihau unrhyw amhariad posibl lle gallwn.
Yn Eich Ardal
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ar y safle drwy fynd i'n tudalen Yn Eich Ardal, lle gallwch gofrestru i dderbyn diweddariadau drwy e-bost neu neges destun am waith Dŵr Cymru yn eich ardal.