Dyffryn Conwy
Rydyn ni’n buddsoddi tua £5 miliwn yn rhwydwaith dŵr Dyffryn Conwy. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal am ddegawdau i ddod.
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn ni’n gweithio mewn nifer o wahanol ardaloedd yn Nyffryn Conwy gan gynnwys Maenan, Llanddoged, Pandy Tudur a Llannefydd a’r ardaloedd cyfagos.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn?
Un o’r prif bethau a wnawn yn Dŵr Cymru yw ceisio darparu cyflenwad dŵr yfed o’r safon uchaf ar eich cyfer bob tro y byddwch chi’n troi’r tap. Er mwyn sicrhau y gallwn barhau i wneud hyn, rydyn ni’n buddsoddi tua £5 miliwn i uwchraddio’r pibellau dŵr yn eich cymuned. Bydd y gwaith hanfodol yma’n helpu i wella’r rhwydwaith dŵr yfed yn eich ardal ac yn cadw’ch dŵr yn llifo.
Beth ydyn ni’n ei wneud?
Uwchraddio’r rhwydwaith dŵr
Rydyn ni’n uwchraddio tua 16km o bibellau dŵr glân yn ardal Dyffryn Conwy. Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ein cwsmeriaid ac yn lliniaru’r problemau o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel sydd wedi bod yn effeithio ar rai cwsmeriaid. Byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesol fel y gallwn gwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl, a hynny wrth wneud ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl arnoch.
Gallwch weld lle byddwn ni’n gweithio a chael diweddariadau rheolaidd am ein gwaith trwy ddilyn y linc dwrcymru.com/YnEichArdal a chwilio dan eich cod post.
Pryd byddwn ni’n cyflawni’r gwaith?
Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Medi/Hydref a chaiff ei gwblhau erbyn diwedd gwanwyn 2026.
I gael rhagor o fanylion o ran pryd y byddwn ni’n gweithio yn eich ardal, ewch i’n tudalen Yn Eich Ardal.
Ein contractwyr
Byddwn ni’n gweithio gydag OCU Group i’n helpu ni i gyflawni’r gwaith. Byddan nhw’n gweithio dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7:00am a 17:30pm, ond mae’n bosibl y bydd angen iddynt weithio’r tu hwnt i’r oriau hyn ac ar benwythnosau hefyd ar adegau er mwyn cwblhau’r gwaith yn gyflym.
Eich dŵr
Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith darfu dim ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith yma, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi trwy anfon neges destun ar y diwrnod.
Sicrhewch fod gennym rif ffôn poced neu gartref cyfredol ar gyfer eich aelwyd. Gallwch ddilysu hyn a diweddaru eich manylion trwy gysylltu â ni trwy sgwrs fyw ar ein gwefan neu trwy ffonio 0800 052 0130.
Traffig
Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn y ffordd, a bydd angen i ni gau ffyrdd neu godi goleuadau traffig dros dro er mwyn cadw ein tîm yn ddiogel yn ystod y gwaith. Os oes angen i ni gau ffordd, byddwn ni’n sicrhau bod yna ddigon o arwyddion i gyfeirio modurwyr, ac fe wnawn ein gorau glas i gwblhau’r gwaith cyn gynted ag y gallwn ni ac ail-agor y ffordd.
Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnawn ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl arnoch, a byddwn ni’n diweddaru manylion y ffyrdd sydd ar gau ar ein tudalen Facebook ac ar ein gwefan sef dwrcymru.com/yneichardal. Gallwn eich sicrhau chi y byddwn ni’n cwblhau’r gwaith ar y ffyrdd cyn gynted ag y gallwn ni.
Wrth i ni weithio mewn ardal benodol, hwyrach na fyddwch chi’n ein gweld ni’n gweithio bob dydd, ond gallwn eich sicrhau chi ein bod ni’n parhau i weithio y tu ôl i’r llenni yn profi ac yn samplo’r dŵr yn y pibellau newydd, a allai gymryd ychydig ddiwrnodau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein timau safle yn gweithio mewn ardaloedd gwahanol, a byddan nhw’n dychwelyd i gwblhau’r gwaith ar ôl cael canlyniadau’r profion.
A yw’r gwaith yn plesio?
Ein nod yw darparu gwasanaethau cwsmeriaid o’r safon uchaf ar eich cyfer bob tro, ac mae’n dda gennym glywed eich barn. I rannu eich adborth, ewch i dwrcymru.com/AdborthAmWaith
Yn Eich Ardal
Clywed y newyddion diweddaraf
I gael diweddariadau am y prosiect a beth sy’n digwydd ar y safle, ewch i’n dwrcymru.com/YnEichArdal