Cronfa Ddŵr Clydach


Adeiladwyd cronfa ddŵr Clydach ger Coedwig Sant Gwynno ym 1892 er mwyn darparu dŵr yfed ar gyfer yr ardal leol. Fodd bynnag, rydyn ni wedi newid ein dull o gyflenwi dŵr ar gyfer cymunedau lleol dros y blynyddoedd, a chafodd y gronfa ei datgysylltu o’n rhwydwaith 30 mlynedd yn ôl.

Yn wahanol i gronfeydd dŵr eraill, mae’r safle hwn yn rhy fach i storio cyfaint sylweddol o ddŵr er mwyn helpu i leihau llifogydd mewn tywydd stormus. Nid yw cynnal a buddsoddi mewn cronfeydd dŵr fel eu bod yn bodloni’r safonau diogelwch cyfredol o ran cronfeydd pan nad oes eu hangen mwyach yn ddefnydd da o arian cwsmeriaid. Dyna pam ein bod ni wedi bod yn archwilio opsiynau ar gyfer y ffordd orau o ddychwelyd cronfa ddŵr Clydach i’w chyflwr naturiol wrth fanteisio ar y cyfle i wella’r amgylchedd lleol trwy leihau effaith y strwythur yma a wnaed o law dyn ar ecoleg a bioamrywiaeth lleol.

Beth fyddwn ni’n ei wneud?

Er mwyn ei dychwelyd i fod yn debyg i’w chyflwr blaenorol, bydd angen gostwng lefel y dŵr er mwyn creu dyfrffordd naturiol trwy’r ardal lle mae’r gronfa ar hyn o bryd. Mae gennym esiamplau o safleoedd eraill lle mae hyn wedi cael ei gyflawni’n llwyddiannus trwy weithio gyda’r gymuned leol er mwyn sicrhau ei bod yn asio i’r dirwedd gyfagos. Mae’r llun isod yn dangos sut y gallai cronfa ddŵr Clydach edrych ar ôl i ni gwblhau’r gwaith yma. Bydd angen cyflawni llwyth o ymchwil a gwaith cyn y gallwn fynd ati i wneud unrhyw welliannau. Pan fyddwn wedi cadarnhau’r rhain, byddwn ni’n mynd ati i dros y misoedd nesaf i ymgynghori â’r gymuned leol ar wahanol opsiynau ar gyfer y ffordd orau o sicrhau bod y safle’n ddiogel ac yn fwy hygyrch i drigolion, am taw tir preifat yw hwn ar hyn o bryd ac nid oes modd cyrraedd at rai rhannau o’r safle.

Yr Amgylchedd

Amddiffyn yr amgylchedd lleol fydd yr allwedd i’r gwaith yma. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru ac ymgynghorwyr amgylcheddol arbenigol i gyflawni arolygon ac asesiadau ecolegol manwl er mwyn sicrhau na fydd y newidiadau a wneir yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd. Byddwn ni’n rhannu manylion y gwaith yma â thrigolion lleol a grwpiau sydd â buddiant.

Mae’r ddelwedd yn dangos sut y gallai cronfa ddŵr Clydach edrych ar ôl i ni gwblhau’r gwaith yma. Bydd angen cyflawni llwyth o ymchwil a gwaith cyn y gallwn fynd ati i wneud unrhyw welliannau a byddwn ni’n mynd ati i dros y misoedd nesaf i ymgynghori â’r gymuned leol ar wahanol opsiynau ar gyfer y ffordd orau o sicrhau bod y safle’n ddiogel ac yn fwy hygyrch i drigolion, am taw tir preifat yw hwn ar hyn o bryd ac nid oes modd cyrraedd at rai rhannau o’r safle.

Dolenni Defnyddiol

July - Clydach Newsletter

Lawrlwytho
680.8kB, PDF

May - Clydach Newsletter

Lawrlwytho
921.3kB, PDF

Yn Eich Ardal

Newyddion lleol

I glywed am gyfleoedd i siarad â’r tîm, yn ogystal â manylion ffyrdd sydd ar gau a gwybodaeth am draffig, ewch i’r adran Yn Eich Ardal a chwliwch dan eich cod post.

Manylion pellach

Cwestiynau Cyffredin