Bryngwyn


Ein nod yn Dŵr Cymru yw darparu cyflenwad o ddŵr yfed o'r radd flaenaf i chi bob tro y byddwch yn agor y tap. I sicrhau ein bod yn parhau i wneud hyn, rydym yn buddsoddi £11.9 miliwn i uwchraddio'r pibellau dŵr yn eich cymuned chi.

Beth mae'r gwaith hwn yn ei gynnwys?

Bydd ein gwaith yn cynnwys ailosod dros 22 KM o bibellau dŵr yn mharth dŵr yfed Bryngwyn, gan gynnwys ardaloedd fel Manordeilo, Salem a Cilycwm. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn helpu i adeiladu gwytnwch yn y rhwydwaith dŵr yn yr ardal.


Ble fydd y gwaith yn digwydd

Ein contractwyr

Byddwn yn gweithio gydag Envolve a'u cadwyn gyflenwi i'n helpu i wneud y gwaith. Byddant yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7:30am a 5:30pm, ond weithiau efallai y bydd angen iddynt weithio y tu allan i'r oriau hyn a dros y penwythnos i wneud y gwaith.

Eich cyflenwad dŵr yn ystod y gwaith

Trwy gydol y rhan fwyaf o'r gwaith ni ddylai fod unrhyw darfu ar eich cyflenwad dŵr. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd eich dŵr yn ymddangos ychydig yn dywyllach nag arfer. Mae hyn yn eithaf arferol pan fyddwn yn gwneud gwaith fel hyn a bydd yn clirio os byddwch yn rhedeg tap dŵr oer y gegin. Os oes adegau pan fydd angen i ni ddiffodd ein dŵr am gyfnod byr, byddwn yn cysylltu â chi trwy neges destun.

Rheoli traffig

Mae rhai o'r pibellau dŵr rydyn ni'n eu disodli yn y ffordd, sy'n golygu y gallai fod goleuadau traffig neu ffyrdd ar gau dros dro ar waith yn ystod ein gwaith. Byddwn yn gwneud y gwaith yn y ffyrdd cyn gynted â phosibl.

Helpwch ni i roi'n ôl

Rydym yn gwybod bod ein gwaith weithiau yn gallu tarfu ar y cymunedau rydyn ni'n gweithio ynddynt ac rydym am helpu ein cwsmeriaid a grwpiau lleol i wneud gwahaniaeth yn yr ardaloedd maen nhw'n byw. Os yw'ch grŵp cymunedol, ysgol neu sefydliad dielw yn cynnal digwyddiad neu y byddent yn gwerthfawrogi rhywfaint o gymorth gwirfoddoli, rhowch wybod i ni a byddwn yn gweld beth allwn ni ei wneud i roi help llaw. Cysylltwch â ni drwy e-bostio community@dwrcymru.com.