Cronfa ddŵr Brithdir Mawr
Mae Brithdir Mawr, ar odre dwyreiniol Bryniau Clwyd, rhwng Loggerheads ac Afon-wen. Wedi'i adeiladu yn 1897 i ddarparu dŵr yfed i'r ardal leol, mae'n cael ei fwydo gan afon Aber Eilun. Nid yw Brithdir Mawr bellach yn rhan o'r rhwydwaith dŵr yfed gyda chwsmeriaid yn yr ardal bellach yn cael eu cyflenwi o gronfa ddŵr Alwen.
Er nad yw cronfa ddŵr Brithdir Mawr bellach yn rhan o’r rhwydwaith dŵr yfed, fel gyda’n holl gronfeydd dŵr ac argaeau, rydym wedi parhau i’w harchwilio a’u monitro fel rhan o’n cynllun monitro Diogelwch Argaeau.
Beth ydym yn ei wneud ar y safle?
Fel cwmni nid-er-elw, ni fyddai cynnal a buddsoddi mewn cronfeydd dŵr i fodloni safonau diogelwch cronfeydd dŵr presennol nad ydynt bellach yn cyflenwi dŵr yfed i gwsmeriaid yn gwneud y defnydd gorau o arian cwsmeriaid. Ein cynllun yw dadgomisiynu’r gronfa ddŵr ac yn adfer y cwrs dŵr naturiol fel ag yr oedd cyn adeiladu’r argae.
Rydym wedi cynnal cynllun tebyg yng Nghilcain gerllaw lle buom yn dadgomisiynu dwy o’r pedair cronfa ddŵr ger y pentref ac adfer rhan o afon Nant Gain.
Amgylchedd
Trwy ddylunio gofalus, y gobaith yw y bydd y cynllun yn arwain at wella bioamrywiaeth yr ardal, gan alluogi bywyd gwyllt i ffynnu. Rydym wedi ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gydol dyluniad y cynllun ac maent yn gadarnhaol ynghylch y manteision ecolegol sy’n caniatáu i fywyd gwyllt ffynnu. Mae’r gronfa ddŵr wedi ei lleoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ger Moel Famau a bydd dychwelyd y safle i natur yn gweddu i’r dirwedd o’i amgylch.
Bydd yr holl waith ym Mrithdir Mawr yn cael ei gwblhau gyda chefnogaeth tîm o ecolegwyr sydd â phrofiad o ddadgomisiynu ac ail-naturioli cronfeydd dŵr, gan sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol.
Sut ydym ni'n gwneud y gwaith?
Rydym yn bwriadu gwneud y gwaith hwn mewn dau ran. Bydd y rhan gyntaf hwn o’r gwaith yn cael ei wneud yn ystod hydref 2024 gyda’r ail ran yn ystod 2026.
Rhan 1 – gostwng lefel y dŵr
Mae rhan gyntaf y gwaith yn cynnwys gwagio gronfa ddŵr. Bydd y gwaith hwn yn cael ei yn Hydref 2024 a dylai gymryd ychydig wythnosau i’w wneud. Yna byddwn yn caniatáu i’r ardal sychu’n naturiol nes ein bod yn barod i wneud y gwaith i dynnu’r argae ac adfer y cwrs dŵr naturiol.
Mae gwagio'r gronfa ddŵr cyn gwneud gweddill y gwaith yn ddiweddarach yn dod â nifer o fanteision yn ei sgîl.
Bydd gwagio’r gronfa ddŵr yn amlygu silt ar waelod y gronfa ddŵr, a fydd yn anochel yn sychu ac yn cael ei ail-lystyfiant, gan gyfyngu ar y potensial ar gyfer effeithiau sy’n gysylltiedig â gwaddod mewn gwaith ar y safle yn y dyfodol.
Yn y tymor hir, bydd cael gwared ar y gronfa ddŵr yn adfer hydroleg naturiol y ffrydiau mewnlif a oedd yn bodoli cyn adeiladu'r gronfa ddŵr. Drwy ailsefydlu’r cyrsiau dŵr naturiol hyn, byddwn yn hyrwyddo ecosystem iachach a mwy gwydn sy’n cynnal mwy o amrywiaeth o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid.
Yn syth ar ôl i’r dŵr ostwng, gall yr ymylon o amgylch y llyn edrych yn fwdlyd wrth i silt ddod i’r amlwg, ond bydd hyn yn sychu wrth i amser fynd heibio.
Bydd ein tîm yn dechrau gwagio’r dŵr ar y safle yn yr Hydref a dylent fod yn gorffen rhan gyntaf y gwaith erbyn diwedd y flwyddyn.
Rhan 2 – adfer y cwrs dŵr naturiol
Byddwn yn gwneud rhan 2 o’r gwaith yn 2026. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys creu rhicyn drwy'r argae, llenwi'r gorlifan presennol, adfer cwrs naturiol yr afon a gwaith tirlunio.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda mwy o wybodaeth am y gwaith a fydd yn cael ei wneud yng rhan 2 yn nes at yr amser.
Mae ein argraff arlunydd isod yn dangos sut y gall y safle edrych ar ôl i’n gwaith gael ei gwblhau, ond gall hyn newid ychydig wrth i ni weithio ar ein dyluniadau manwl ar gyfer y safle.
Rydym wedi gwneud gwaith tebyg yng Nghilcain yn 2023 lle gwnaethom ddadgomisiynu dwy gronfa ddŵr gyfagos ac adfer gwely naturiol yr afon. Isod mae lluniau o'r gwaith yn Cilcain.
Cwestiynau Cyffredin
Nid yw Brithdir Mawr bellach wedi’i gysylltu â’r rhwydwaith dŵr lleol gan fod cwsmeriaid yr ardal yn cael eu cyflenwi gan gronfa ddŵr Alwen a gwaith trin dŵr Alwen ers amser maith. Fel cwmni nid-er-elw, ni fyddai cynnal a buddsoddi mewn cronfeydd dŵr nad ydynt bellach yn cyflenwi dŵr yfed yn gwneud y defnydd gorau o arian cwsmeriaid yn y tymor hir. Felly byddwn yn dadgomisiynu’r gronfa ddŵr ac yn adfer yr afon naturiol.
Mae pob cronfa ddŵr yng Nghymru dros 10,000m³ yn dod o dan Deddf Cronfeydd Dŵr 1975. Mae hyn yn golygu, yn gyfreithiol, bod yn rhaid i berchnogion sicrhau diogelwch, gwyliadwriaeth barhaus, monitro ac archwiliadau o’r argaeau yn ogystal ag unrhyw waith cyfalaf gorfodol sydd ei angen. Mae'r costau sy'n gysylltiedig â hyn yn aml iawn yn filiynau o bunnoedd. Yn ogystal, mae risg weddilliol bob amser yn gysylltiedig ag argaeau, yn enwedig wrth i asedau heneiddio.
Felly, nid yw cadw Brithdir Mawr fel y mae, yn opsiwn ymarferol. Bydd strwythur yr argae ym Mrithdir Mawr yn cael ei symud a bydd y gronfa ddŵr yn dychwelyd i'w chyflwr naturiol fel afon.
Nid oes pysgod yn y llyn ac nid oes unrhyw gytundebau pysgota yn Brithdir Mawr. Bydd unrhyw bysgod yn y llyn yn cael eu symud yn ofalus a'u hadleoli i safle arall.
Bydd rhicyn mawr yn cael ei adeiladu drwy'r argae y bydd sianel naturiol yr afon wedyn yn llifo drwyddo. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr i adeiladu sianel yr afon mor agos at sut y byddai wedi rhedeg cyn adeiladu'r argae.
Bydd traffig adeiladu yn cael mynediad i'r safle ar hyd y trac presennol. Bydd maint y cerbydau adeiladu yn gyfyngedig oherwydd lonydd cul yn yr ardal. Bydd angen rhai mân welliannau i'r trac a bydd angen torri rhai canghennau uwchben yn agos at fynedfa'r safle.