Sili y Barri
Rydyn ni’n buddsoddi £14 miliwn yn y rhwydwaith dŵr yn y Barri. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal am ddegawdau i ddod.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn?
Mae rhai o’n pibellau sy’n darparu’r dŵr ar gyfer cawodydd a phaneidiau boreol ein cwsmeriaid dros 100 mlwydd oed erbyn hyn. Dros amser, mae dyddodion naturiol yn gallu cronni’r tu fewn i’r pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, pob nawr ac yn y man mae angen i ni glirio’r pibellau er mwyn cadw’r dŵr yn llifo’n rhwydd. Rydyn ni’n buddsoddi dros £14 miliwn i helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau ein cwsmeriaid a lliniaru’r problemau y mae rhai cwsmeriaid yn yr ardal yn eu profi o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel.
Beth ydyn ni’n ei wneud?
Uwchraddio’r rhwydwaith dŵr
Rydyn ni’n uwchraddio dros 12km o bibellau dŵr glân yn y Barri a’r cyffiniau. Bydd ein gwaith yn ein gweld ni’n disodli 5.5km, yn glanhau 3.4km ac yn dadgomisiynu 5.2km o bibellau dŵr. Yn ogystal â helpu i wella ansawdd y dŵr yfed ar gyfer y cymunedau hyn, bydd yn helpu i sicrhau diogelwch cyflenwadau hefyd, ac yn lliniaru’r problemau y mae rhai cwsmeriaid yn yr ardal yn eu profi o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel.
Gallwch weld ble fyddwn ni’n gweithio isod:
Byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesol o weithio fel y gallwn gwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl wrth wneud ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl arnoch. Dechreuodd y gwaith yma yn Hydref 2024 a chaiff ei gwblhau erbyn mis Hydref 2026.
Ein contractwyr
Byddwn ni’n gweithio gyda Morrison Water Services a’u cadwyn gyflenwi i’n helpu ni i gyflawni’r gwaith. Byddan nhw’n gweithio dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7:30am a 5:30pm, ond mae’n bosibl y bydd angen iddynt weithio’r tu hwnt i’r oriau hyn ac ar benwythnosau hefyd er mwyn cwblhau’r gwaith yn gyflym.
Eich dŵr
Ni ddylai’r rhan fwyaf o’r gwaith darfu dim ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith yma, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os oes angen i ni wneud hyn, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi trwy anfon neges destun ar y diwrnod.
Y cynllun rheoli traffig
Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithio yn y ffordd, a byddwn ni’n defnyddio cyfuniad o oleuadau dwy a phedair ffordd er mwyn cadw’r traffig yn symud yn ystod y cyfnodau hyn. Mae’n bosibl y bydd yna adegau pan fyddwn ni’n gweithio’n union y tu allan i eiddo hefyd, a bydd angen i ni ofyn i rai pobl beidio â pharcio yng nghyffiniau’r gwaith. Os felly, byddwn ni’n sicr o roi gwybod i chi mewn da bryd. Gallwn eich sicrhau chi y byddwn ni’n cwblhau’r gwaith ar y ffyrdd cyn gynted ag y gallwn ni.
Yn Eich Ardal
I gael diweddariadau ar sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen, ewch i’n tudalen Yn Eich Ardal chi yma.