Cynnal y gweithfeydd trin dŵr ym mhob tywydd


Mae ein tîm Dalgylchoedd Dŵr Yfed yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn i ddeall sut mae ansawdd dŵr yn newid dros y tymhorau. Ar bob adeg o’r flwyddyn, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n darparu dŵr yfed glân a diogel, ac mae hynny’n cynnwys dros y gaeaf.

Un o’r pethau da am fod allan yn yr awyr agored yw’r golygfeydd gaeafol godidog a welwn yn aml wrth fynd allan i gasglu samplau mewn mannau anhygoel.

Dywedodd Charlotte Bryan, un o’n Gwyddonwyr Dalgylch: "Mae’r golygfeydd prydferth yn gwrthbwyso’r tywydd ac maen nhw wir yn codi calon rhywun ambell i ddiwrnod. Mae ein cronfeydd dŵr mewn rhai o ardaloedd harddaf Cymru, felly rydw i wastad yn gwneud yn siŵr bod gen i gamera wrth law i gofnodi rhai o ryfeddodau byd natur."