Amddiffyn priddoedd a ffynonellau dŵr yfed - rhannu canfyddiadau’r prosiect â ffermwyr


Yn dilyn cefnogaeth Tîm Dalgylchoedd Dŵr Yfed Dŵr Cymru i dreial tanhadu indrawn Sefydliad Gwy ac Wysg, rhannwyd canlyniadau’r treial â ffermwyr a thyfwyr ar hyd afonydd Gwy ac Wysg.

Mae’r gwaith yma’n rhan o’n Rhaglen TarddLe sy’n cynnwys cyd-ddylunio atebion gyda rheolwyr tir er mwyn cyflawni manteision niferus ar gyfer pobl, dŵr a’r amgylchedd.

Cynhaliwyd yr achlysur rhannu gwybodaeth dan nawdd Dŵr Cymru ar fferm Estavarney ym Mrynbuga, fferm a oedd wedi defnyddio’r dechneg tanhadu ar eu cnwd indrawn yr haf diwethaf. Bu modd i’r ffermwyr weld manteision yr arfer yma ar y pridd â’u llygaid eu hunain, gweld yr offer ar waith a chlywed rhagor am fanteision ychwanegol tanhadu.

Dywedodd Dan Humphreys o Dîm Dalgylchoedd Dŵr Yfed Dŵr Cymru: “Roedd hi’n bleser cael cefnogi’r cynllun a’r achlysur yma ar fferm yn nalgylch afon Wysg. Yn rhan o’n dull gweithredu ar sail TarddLe, rydyn ni’n awyddus i gynorthwyo cwsmeriaid i gymryd mesurau fel hyn a fydd yn cyflawni atebion sy’n fuddiol i bawb, a fydd yn fanteisiol i fusnes y fferm ac yn diogelu ein ffynonellau dŵr yfed yr un pryd. Denodd yr achlysur nifer dda o ffermwyr i weld manteision y dechneg hon drostyn nhw eu hunain, a thrafod y peth gyda ffermwyr oedd wedi ei threialu eisoes.

Mae Cydlynydd y Dalgylch, Dan Humphreys, yn siarad â ffermwyr a rhanddeiliaid ynghylch pam roedd ariannu’r digwyddiad yn bwysig a’r manteision posibl o danhau india-corn i’r ffermwr ac i ni fel cwmni wrth drin dŵr o system afon.

Beth yw tanhadu indrawn?

Mae indrawn yn cael ei blannu rhwng Ebrill a Mehefin, ac mae’r gwaith cynaeafu’n dechrau rhwng canol Medi a mis Tachwedd fel rheol. Mae’r amserlen hon yn gadael pridd moel yn y caeau dros y gaeaf sy’n gallu golchi i ffwrdd dros y misoedd mwy gwlyb, gan lifo i mewn i’n nentydd a’n hafonydd. Gallai hyn achosi problemau gydag ansawdd y dŵr, fel lefelau uwch o faetholion a sediment.

Tanhadu yw’r arfer o ddrilio hadau glaswellt ymysg cnwd indrawn, a hynny ym mis Gorffennaf fel rheol. Mae hyn yn golygu bod yna gnwd gorchudd yn ffurfio i amddiffyn y pridd cyn i’r indrawn gael ei gynaeafu.

Sut mae hyn yn fuddiol i’r ffermwr?

Mae arbrofion cynharach wrth danhadu indrawn wedi dangos bod yr arfer yn gwella iechyd a strwythur y pridd, yn cadw’r maetholion yn y ddaear ac yn darparu porthiant ar gyfer da byw. Gall gyfoethogi strwythur y pridd trwy actifadu mas y gwreiddiau, gwella ffrwythlondeb y pridd a meithrin mater organig.

Cafodd ffermwyr gyfle i weld y dril a ddefnyddir ar gyfer y tan-hau

Beth oedd y drefn ar gyfer y cynllun?

Gan weithio mewn partneriaeth â Sefydliad Gwy ac Wysg, cynigiodd Dŵr Cymru gyfraniad ariannol i’r rhai a gymerodd ran. Ar ôl i’r ffermwyr ddrilio’r cnwd indrawn, trefnwyd bod hadau gwair yn cael eu plannu tua chwech wythnos yn ddiweddarach. Yn ystod y cylch penodol yma, cafodd cyfanswm o 108 o erwau o indrawn eu tanhadu.

Hwn oedd y trydydd tro i Ddŵr Cymru gefnogi’r cynllun, ac mae hi wedi dod yn elfen allweddol o’n hymrwymiad i weithio gyda ffermwyr i hwyluso a hyrwyddo arferion rheoli tir er lles amaeth a ffynonellau dŵr yfed.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod manteision yr arfer yma hefyd, ac maent wedi ei ychwanegu at eu cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd sydd ar gael ledled Cymru.

Field Options yn rhannu'r dadansoddiad pridd gyda ffermwyr