Y Tîm Dalgylch yn ymgysylltu ffermwyr dofednod yn Nalgylch Afon Gwy


Mae grwpiau o ffermwyr dofednod yn ardal Dalgylch Afon Gwy yn cael ymweliadau gan Dîm Dalgylchoedd Dŵr Yfed Dŵr Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth mapio â nhw.

Gall y wybodaeth yma helpu ffermwyr i weithredu’n fwy effeithlon, a lleihau llif maetholion dieisiau i mewn i ffynonellau dŵr yfed, gan leihau faint o driniaeth sydd ei angen yn ein gweithfeydd trin dŵr yfed.

Mae mapiau llwybrau hydrolegol yn cael eu llunio ar gyfer pob ffermwr, sy’n dangos yn glir y llwybr y mae’r dŵr wyneb ar eu tir yn ei gymryd. Mae’r mapiau hyn yn cael eu creu gan ddefnyddio arolygon LiDAR.

Techneg mapio o’r awyr sy’n defnyddio laser i fesur y pellter rhwng yr awyren a’r ddaear yw LiDAR (Light Detection and Ranging). Mae’r dechneg yn cymryd hyd at 100,000 mesuriad yr eiliad o’r tir, sy’n caniatáu ar gyfer cynhyrchu modelau manwl iawn o wyneb y ddaear a’r tir ar wahanol gydraniadau gofodol.

Dywedodd Daniel Humphreys, sy’n cyflawni’r ymweliadau: “Gall y wybodaeth yma helpu’r ffermwr i weithredu’n fwy effeithlon am fod y mapiau’n darparu gwybodaeth am lethrau dros ben 12 gradd, lleoliad cyrsiau dwr ac yn dangos parthau dim taenu. Mae rhannu’r wybodaeth yma â’r ffermwyr o fantais i Ddŵr Cymru hefyd wrth sicrhau bod y dŵr sy’n cyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr yfed mor lân â phosibl.

“Ein nod wrth rannu’r wybodaeth yma’n uniongyrchol â’r ffermwyr yw codi eu hymwybyddiaeth a gwella eu rheolaeth ar diroedd. Gallwn chwilio wedyn i ganfod a oes yna unrhyw fesurau lliniaru posibl y gellir eu cymryd cyn bod y maetholion yn cyrraedd y dŵr.”

Mae data LiDAR ar gael o’r wefan ganlynol http://lle.gov.wales/catalogue/item/LidarCompositeDataset/?lang=cy ac mae’n cael ei brosesu trwy declyn SAGA GIS sydd ar gael yn hwylus.

Enghreifftiau o fapio LiDAR yn Nyffryn Gwy