GlawLif Llanelli
Rydyn ni wedi buddsoddi £115 miliwn yn ein gwaith GlawLif arloesol ar draws Llanelli a Thre-gŵyr rhwng 2012 a 2020.
GlawLif yw dull Dŵr Cymru o reoli dŵr wyneb a lleihau llifogydd carthion trwy wahanu’r dŵr glaw wrth y system gyfredol, arafu ei lif i mewn i'r rhwydwaith a'i ddargyfeirio i afonydd a chyrsiau dŵr lleol, gan ei gadw draw yn llwyr o'r system mewn ambell i achos. Mae'n helpu i leihau llifogydd carthion a llygredd, ac yn creu cymunedau mwy gwyrdd a glân i ni fyw ynddynt.
Roedd angen dybryd am ein gwaith GlawLif yn Llanelli, am fod yr ardal yn gweld lefelau tebyg o ddŵr storm yn ei rwydwaith ag Abertawe, er bod Abertawe'n gwasanaethau tair gwaith yn fwy o eiddo, a thair gwaith yn fwy o arwynebedd na Llanelli.
Gyda chymorth ein contractwyr partner, Morgan Sindall, rydyn ni wedi cwblhau 36 o brosiectau GlawLif yn ardal Llanelli ers lansio'r prosiect yn 2012. Mae hyn wedi cynnwys gosod tua 14 milltir o bibellwaith newydd a draeniau yn y cyrbiau, gan dwnelu ychydig yn llai nag un filltir o dan y ddaear i greu carthffosydd dŵr glaw, a phlannu bron i 10,000 o blanhigion a choed mewn pantiau, cafnau plannu a basnau.
Sut mae GlawLif yn gweithio?
Buon ni’n chwilio ym mhedwar ban y byd – o Malmö, Sweden i Portland, UDA – i'n cynorthwyo i ddatblygu dull newydd o wneud pethau. Mae GlawLif yn dal dŵr glaw ac yn arafu ei lif i mewn i'n rhwydwaith o garthffosydd.
Basnau a Chafnau Plannu
Basnau bas, sy'n aml yn llawn planhigion. Maen nhw’n dal y dŵr sy'n rhedeg oddi ar doeau a'r ffordd ac yn ei lanhau cyn iddo suddo i'r ddaear neu ffeindio'i ffordd gan bwyll bach i'n carthffosydd.
Pantiau
Sianeli hir a bas, sy'n aml yn llawn planhigion a choed. Maen nhw’n dal dŵr glaw, yn arafu ei lif ac yn ei lanhau cyn iddo dreiddio i'r ddaear a ffeindio'i ffordd i'n carthffosydd gan bwyll bach.
Palmentydd hydraidd
Cerrig palmant llawn tyllau mân sy'n caniatáu i ddŵr basio drwyddynt a threiddio i'r ddaear yn hytrach na llifo'n syth i'n carthffosydd.
Sianeli glaswellt
Stribedi hir o laswellt y gellir eu gosod ar strydoedd er mwyn helpu i amsugno'r dŵr glaw.
Storfeydd danddaear
Blychau storio danddaear sy'n dal dŵr yn ystod cyfnodau o law trwm cyn iddo dreiddio i'r ddaear neu lifo gan bwyll bach i'n carthffosydd.
Heol yr Orsaf, Llanelli
Rhwng 2017 a 2020, fe fuon ni'n gweithio ar ein prosiect GlawLif mwyaf yn Llanelli, a welodd fuddsoddiad o £20 miliwn mewn prosiect mewn tair rhan. Cyflawnwyd y gwaith yn Ffordd yr Orsaf, Stryd Emma a Stryd Ann a'r cyffiniau, a darn mwyaf y prosiect oedd creu twnnel newydd i gludo dŵr wyneb o ganol tref Llanelli i Lynnoedd Delta er mwyn cadw'r glaw allan o'n rhwydwaith o garthffosydd yn Llanelli.
Cafodd peiriant tyrchu'r prosiect ei enwi'n 'Jarvis' gan Morgan Smith, disgybl yn Ysgol Gynradd Bigyn.
Teras Parkview, Llanelli
Yn 2017, fe fuddsoddon ni £4.3 miliwn mewn prosiect GlawLif yn Nheras Parkview a'r cyffiniau. Yn ystod y prosiect yma y crëwyd ein pant mwyaf ar yr ardal laswelltog gyferbyn â Theras Parkview, oedd wedi ei gynllunio i wanhau 200m3 o ddŵr glaw.
Yn rhan o'r gwaith yma fe osodon ni dyllau archwilio, pibellwaith a draeniau newydd yn y cyrbiau mewn sawl stryd o amgylch y pant, gan gynnwys Stryd Seland Newydd, Stryd Greenway a Stryd Raby.
Yn rhan o'r gwaith yma fe osodon ni dyllau archwilio, pibellwaith a draeniau newydd yn y cyrbiau mewn sawl stryd o amgylch y pant, gan gynnwys Stryd Seland Newydd, Stryd Greenway a Stryd Raby.
Cwblhawyd y gwaith ym mis Gorffennaf 2017, ac agorwyd y pant yn swyddogol gan AS Llanelli, Nia Griffith yn Awst 2017.
Rhodfa'r Frenhines Mary, Llanelli
Ym mis Medi 2013, cwblhawyd prosiect GlawLif i adeiladu pant ar faes chwarae Rhodfa'r Frenhines Mary.
Cynlluniwyd y pant 100 metr o hyd i ddal dŵr glaw a gadael iddo hidlo'n raddol i'r uned storio danddaear cyn iddo gael ei ryddhau gan bwyll bach i'r rhwydwaith o garthffosydd. Plannwyd amrywiaeth o blanhigion a choed yn y pant, a dewiswyd y rhain yn arbennig i helpu i amsugno'r dŵr glaw.
Cost y prosiect oedd £850,000. Rhagwelir y bydd yn cadw tua 4,365,000,000 litr o ddŵr y flwyddyn o'r rhwydwaith o garthffosydd. Mae hynny’n ddigon i lenwi tua 9 miliwn potel o ddŵr yfed.
Ysgol Gynradd Stebonheath, Llanelli
Buddsoddwyd £500,000 mewn cynllun i gadw dŵr wyneb draw o'r garthffos yn Ysgol Gynradd Stebonheath a adeiladwyd yn ystod gwyliau'r haf yn 2013.
Trawsnewidiodd y buddsoddiad hwn faes chwarae'r ysgol gynradd trwy ychwanegu pwll, pant, cafnau plannu, cerrig palmant hydraidd, casgenni dŵr ac ardal addysg awyr agored.
Chwaraeodd plant yr ysgol ran bwysig yn y gwaith o ddylunio'r cynllun, a chawsant weithdy gyda'r peirianwyr a rhoddodd gyfle iddynt gynnig mewnbwn i ddyluniad y maes chwarae.
Mae'r cynllun yn helpu i gadw 4,600m3 o ddŵr y flwyddyn allan o'r rhwydwaith o garthffosydd – digon i lenwi 11.1 miliwn o boteli dŵr yfed.
Mae GlawLif a'r negeseuon effeithlonrwydd dŵr wedi bod yn rhan allweddol o gwricwlwm yr ysgol byth ers hynny.
Stryd Glevering / Ffordd Abertawe
Buddsoddwyd £2 filiwn mewn prosiect GlawLif yn Stryd Glevering a Ffordd Abertawe a'r cyffiniau yn Llanelli.
Cwblhawyd y prosiect ym mis Mai 2014, a gwelodd gyrbiau draenio, sianeli glaswellt a chafnau plannu'n cael eu gosod yn yr ardal.
Mae'r prosiect yn helpu i gadw 22,558m3 o ddŵr wyneb y flwyddyn o'r rhwydwaith o garthffosydd, gan wella gwerth amgylcheddol ac esthetaidd yr ardal hefyd.
.