Telerau ac amodau


  1. I fod yn gymwys i dderbyn y Cyllid, mae’n rhaid i’r Prosiect ddangos ei fod yn bodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
    i. Cefnogi gwelliannau i’r amgylchedd neu fentrau cymunedol lleol sy’n hyrwyddo amcanion iechyd, llesiant, costau byw ac amgylcheddol.
    ii. Cefnogi gweithgareddau a gyflawnir gan grwpiau cymunedol (ag amcanion iechyd, llesiant, costau byw ac amgylcheddol yn benodol).
    iii. Gwella a chefnogi gweithgarwch addysg lleol (e.e. effeithlonrwydd dŵr, gwaith amgylcheddol ac ati).
  2. Ni ddylid defnyddio’r Cyllid a ddarperir i ariannu’r Prosiect os yw’n amodol ar gael gafael ar gyllid neu gydsyniadau ychwanegol.
  3. Mae’n rhaid derbyn y cynnig o Gyllid o fewn pedwar diwrnod ar ddeg (14) o lofnodi’r Llythyr Cytundeb a’i ddychwelyd i’r Ariannwr neu ystyrir bod y cynnig o Gyllid wedi cael ei dynnu’n ôl.
  4. Mae’n rhaid nad yw gwaith ar y Prosiect wedi cychwyn cyn i’r derbyniad o’r cynnig o Gyllid gael ei dderbyn gan yr Ariannwr.
  5. Mae’n rhaid defnyddio’r Cyllid ar gyfer y Prosiect yn unig ac mae’n rhaid ei gyflawni yn amodol ar holl delerau ac amodau’r Llythyr Cytundeb hwn. Mae’n rhaid hysbysu’r Ariannwr yn ysgrifenedig, o fewn cyfnod rhesymol o amser, am unrhyw newid i’r Prosiect, ei gost neu gost amcangyfrifedig neu ei gyllido. Os bydd newid i’r Prosiect nad yw’r Ariannwr wedi rhoi cymeradwyaeth ymlaen llaw yn ei gyswllt, mae’r Ariannwr yn cadw’r hawl i ofyn i’r Cyllid gael ei ad-dalu gan yr Ymgeisydd.
  6. Mae’n rhaid i’r Prosiect gael ei gwblhau o fewn deuddeng (12) mis o ddyddiad y Llythyr Cytundeb hwn. Gall yr Ariannwr ganiatáu estyniad amser pan fo Prosiect wedi cael ei oedi oherwydd amgylchiadau na ellid eu rhagweld y tu hwnt i reolaeth resymol yr Ymgeisydd cyn belled ag y bo’r Ymgeisydd yn darparu hysbysiad ysgrifenedig i’r Ariannwr ar ôl dod yn ymwybodol o’r oedi.
  7. Mae’n rhaid i’r holl ddeunyddiau a brynir ar gyfer darparu’r Prosiect fod o ffynonellau ecolegol resymol a chynaliadwy pan fo’n bosibl. Er enghraifft, mae’n rhaid i’r holl bren a ddefnyddir fod wedi’i ardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd a bod hynny wedi’i gofnodi.
  8. Bydd unrhyw offer/eitemau a brynir gan yr Ymgeisydd ar gyfer darparu’r Prosiect yn parhau i fod yn eiddo i’r Ymgeisydd. Bydd yr Ymgeisydd yn sicrhau bod unrhyw offer/eitemau yn cael eu cadw mewn trefn dda ac mewn cyflwr priodol. Bydd yr Ymgeisydd yn gyfrifol am reoli, cynnal a chadw, trwsio ac ail-gyflwyno unrhyw ran o’r Prosiect neu gynlluniau cysylltiedig neu unrhyw offer/eitemau yn y dyfodol.
  9. Pan fo’r Prosiect yn arwain at lunio adroddiad, bydd yr hawlfraint yn yr adroddiad hwnnw yn perthyn i awdur yr adroddiad hwnnw, ond mae’n un o amodau datganedig y Llythyr Cytundeb hwn y bydd gan yr Ariannwr hawl i ddefnyddio’r adroddiad hwnnw at bob diben ymchwil, hyrwyddo a statudol.
  10. Dylid defnyddio’r holl Gyllid i ariannu’r Prosiect a gymeradwywyd ac nid at unrhyw ddiben arall. Mae’r Cyllid er budd yr Ymgeisydd yn unig ac nid unrhyw unigolyn neu drydydd parti arall ac ni fydd gan yr Ymgeisydd hawl i neilltuo neu drosglwyddo budd y Cyllid yn gyfan gwbl neu’n rhannol nac unrhyw un o’i hawliau neu rwymedigaethau o dan y Llythyr Cytundeb hwn heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ddatganedig yr Ariannwr ymlaen llaw.
  11. Bydd gan unrhyw unigolyn a awdurdodir gan yr Ariannwr yr hawl i archwilio unrhyw ran o’r Prosiect, ei gofnodion neu ei gofnodion ariannol ar unrhyw adeg resymol a bydd yr Ymgeisydd yn sicrhau bod unrhyw unigolyn a awdurdodir felly gan yr Ariannwr yn cael mynediad anghyfyngedig at y Prosiect at y diben hwn.
  12. Mae’n rhaid i’r holl anfonebau, derbynebau, cofnodion banc a phapurau sy’n gysylltiedig â’r Prosiect fod ar gael i’w harchwilio ar unrhyw adeg gan swyddog neu unigolyn a awdurdodir gan yr Ariannwr. Mae’n rhaid cadw papurau yn ymwneud â’r Prosiect am ddeuddeng (12) mis o ddiwedd y Prosiect.
  13. Mae’n rhaid i’r Ymgeisydd hysbysu’r Ariannwr yn ysgrifenedig am unrhyw danwariant o’r Cyllid. Bydd gan yr Ariannwr hawl i’w gwneud yn ofynnol i danwariant o’r fath gael ei ad-dalu yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
  14. Os bydd diffyg cydymffurfiad perthnasol ag unrhyw un o’r telerau ac amodau uchod neu unrhyw gamliwiad gan yr Ymgeisydd o ran ei gais am y Cyllid, bydd yr Ymgeisydd yn ad-dalu i’r Ariannwr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg (14) ar gais yr holl Gyllid neu gyfran ohono fel y penderfynir gan yr Ariannwr. Bydd yr Ymgeisydd yn hysbysu’r Ariannwr yn ysgrifenedig ar unwaith am achos o unrhyw un o’r digwyddiadau uchod.
  15. Ni fydd unrhyw fethiant gan yr Ariannwr i arfer unrhyw hawl, grym neu fraint yn gweithredu fel hepgoriad o unrhyw un o delerau ac amodau’r Llythyr Cytundeb hwn.
  16. Bydd yr Ymgeisydd yn dilyn arferion gorau o ran y Gymraeg a Chyfle Cyfartal.
  17. Dylai’r Ymgeisydd gynnal polisi cynhwysfawr priodol i yswiriant ac atebolrwydd yng nghyswllt yr holl waith, deunyddiau, offer a staff a ariennir gan y Cyllid. Dylai yswiriant ac atebolrwydd o’r fath gynnwys colled, difrod neu ladrad o’r holl offer ac, yng nghyswllt y staff a ariennir gan y Cyllid, anaf personol neu farwolaeth i unrhyw unigolyn. Os bydd yr Ariannwr yn gwneud cais o’r fath, bydd yr Ymgeisydd yn cyflwyno tystiolaeth o yswiriant cyfredol o’r fath.
  18. Nid yw’r Ariannwr yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ganlyniadau, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, a allai ddeillio o’r Ymgeisydd yn rhedeg y Prosiect, y defnydd o’r Cyllid neu o dynnu’r Cyllid yn ôl.
  19. Os yw’r Ymgeisydd yn gwmni sy’n cael ei ddirwyn i ben (gan gynnwys bod yn destun gorchymyn gweinyddu), derbynyddiaeth, methdalwriaeth, yn dod i unrhyw gytundeb gyda chredydwyr neu’n debygol, ym marn resymol yr Ariannwr, o fethu â thalu unrhyw ran o’i ddyledion, yna bydd gan yr Ariannwr hawl i gadw unrhyw daliadau pellach o’r Cyllid i’r Ymgeisydd neu i unrhyw sy’n gweithredu ar ei ran neu yn ei enw yn ôl, ac ail-hawlio unrhyw daliad rhannol a wnaed eisoes.
  20. Bydd yr Ymgeisydd yn gyfrifol am:
    i. Ddarparu’r Prosiect.
    ii. Cael yr holl ganiatâd a chydsyniadau sy’n gysylltiedig â’r Prosiect.
    iii. Yr holl risgiau sy’n gysylltiedig â’r Prosiect.
  21. Ni ddylai’r Ariannwr gyflawni unrhyw swyddogaeth drefnu neu reoli yn narpariaeth y Prosiect.
  22. Bydd gan yr Ariannwr hawl i gyhoeddi’n annibynnol yn y fath fodd a allai fod yn ofynnol i’r Ariannwr manylion y Cyllid a roddwyd i’r Ymgeisydd at ddibenion cyhoeddusrwydd pe bai hynny’n ofynnol iddo. Ni ddylai’r Ymgeisydd hysbysebu cyfraniad yr Ariannwr at y Prosiect heb gymeradwyaeth ysgrifenedig yr Ariannwr ymlaen llaw.
  23. Ni chaiff yr Ariannwr ddefnyddio nac atgynhyrchu logo neu nodau masnach neu fusnes yr Ariannwr at unrhyw ddibenion heb gydsyniad ysgrifenedig yr Ariannwr ymlaen llaw.
  24. O fewn deuddeng (12) mis o dderbyn y Cyllid, dylai’r Ymgeisydd gwblhau a dychwelyd i’r Ariannwr Adroddiad Cwblhau’ Gronfa Gymunedol a nodir yn Atodlen 1 y Llythyr Cytundeb hwn.
  25. Ni fydd y Llythyr Cytundeb hwn yn creu unrhyw bartneriaeth fasnachol na fenter ar y cyd rhwng yr Ariannwr a’r Ymgeisydd, nac unrhyw berthynas o brif arferydd ac asiant, nac yn awdurdodi unrhyw barti i wneud neu gytuno i unrhyw ymrwymiadau ar gyfer neu ar ran y parti arall.
  26. Bydd y Llythyr Cytundeb hwn yn cael ei lywodraethu gan Gyfreithiau Cymru a Lloegr ac mae’r partïon yn cytuno i ymostwng i awdurdodaeth gyfyngol Llysoedd Cymru a Lloegr.